Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anrhydeddus

anrhydeddus

Mae gan yr Arglwydd ei ffordd anrhydeddus ei hun ar gyfer Cristnogion sydd yn euog o fethu wrth iddynt geisio dilyn llwybrau cyfiawnder.

O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.

'Roedd y pwyslais ar hynafolrwydd yr iaith yn rhan o gred ehangach, sef y gred fod i'r Cymry dras anrhydeddus, gogoneddus yn wir, tras y gellid ei olrhain yn ol i hanes Brutus yn dianc o Gaerdroea; 'ni, kenedlaeth y Bryttaniaid o oruchel fonedd Troia', yng ngeiriau'r croniclwr Ifan Llwyd ap Dafydd.

Gwnaed Ynot Benn yn aelod o Anrhydeddus Urdd y Llwynogod pan aeth y ganolfan ar dan ddwywaith nes bod rhaid atgyweirio ac ail-adeiladu go helaeth.

Anfonwyd Quaboos i Loegr i dderbyn ei addysg ac aeth yn ei flaen i Rydychen lle graddiodd yn anrhydeddus iawn.

Rywsut, mae Michael Bay a Jerry Bruckheimer wrth greu Americaniaid eofn a Siapaneaid anrhydeddus yn llwyddo i gadw'r ddesgil honno yn wastad ond, gwaetha'r modd, yn cyfrannu trwy wneud hynny at ddifetha ffilm a oedd eisoes yn gwegian.

Hawlia rhai ohonynt le anrhydeddus iawn yn hanes y deyrnas, ac y mae cysylltiad agos rhyngddynt ac enwau gwroniaid a harddodd enw Prydain yn llysoedd y Cyfandir ac ym mhellteroedd byd.

Diolch hefyd i'r Cyngor Cymuned am eu rhodd anrhydeddus fydd yn galluogi'r pwyllgor i rannu 'wyau Pasg' eleni eto.

A chyda threiglad amser daeth yn rhan ddigon anrhydeddus o'r traddodiad Seisnig i bwysleisio rhyddid pobl i fyw eu bywyd preifat heb i'r gyfraith a'r llywodraeth ymyrryd.

Gan nad oedd rhan Arthur yn yr hanes yn anrhydeddus, try'r gwartheg yn sypynnau rhedyn y foment y dodir llaw arnynt gan Gai a Bedwyr.

Diolch yn fawr iawn iddi am gofio mor anrhydeddus amdanom.

Mae'n wir nad oedd e mor dal a'i frawd Edward nac yn debyg i'w dad fel yr oedd Henry a doedd e ddim mor hoff o lyfrau ac addysg a'i chwaer Elisabeth, ond serch hynny i gyd roedd Mary'n siwr y byddai ei hetifedd yn dod yn wr doeth, anrhydeddus un diwrnod - yn deilwng o enw ei dad, Richard Games.

Nid syndod yw gweld bod 'yr anniwair' a'r 'nwydwyllt' yn cael lle anrhydeddus yng nghatalog pechodau'r cyfnod.

Ar ddiwedd y brecwast anrhydeddus dyma Bholu yn nodio ar Akram i dalu.

Mae'n debyg na ddywedodd Saunders Lewis ddim, gan ei fod yn cadeirio ar y pryd; wrth gwrs, gŵyr pawb nad yw ef yn basiffist ond fe weithredodd yn dra anrhydeddus ar y penderfyniad hwn.

Pa well ffordd sydd i sicrhau nad â'n hetifeddiaeth i ddwylo neb ond y sawl sy'n ei charu'n ddigon eirias i roi pris anrhydeddus amdani?

Rhwng 1925 a 1939 ceisiodd Saunders Lewis ymddiswyddo droeon o fod yn Llywydd y Blaid Genedlaethol, hynny am resymau amrywiol a dieithriad anrhydeddus.

Roedd hanes anrhydeddus i'w deulu, a nifer o'i gyndadau wedi'u haddysgu yn Rhydychen a Llundain.

Jarman, un o lywyddion anrhydeddus cangen Prydain o'r Gymdeithas Arthuraidd Gydwladol.

Phillips, Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru Cyflwyniad Carwn yn gyntaf ddiolch i'r Gymdeithas am roi'r anrhydedd i mi drwy fod yn Llywydd Anrhydeddus am eleni.

Hyfryd oedd gweld y llyfryn bach hwnnw, Mere Christianity, o eiddo C.S. Lewis, yn cael lle mor anrhydeddus ar y silffoedd.

Gall hyn arwain at bwyllgora a theithio ac areithio ac ati: gwaith anrhydeddus, ond nid gwaith llenor; yn Ull peth oblegid ei fod yn mynd â'i amser, y peth mwyaf amhrisiadwy sydd ganddo.

Rhoddir lle anrhydeddus i'r genhadaeth dramor a'r gofal sy'n cael ei gynnig i'r tlodion gan asiantaethau dyngarol a Christnogol fel Tearfund.

Dyna'r gwir heddiw am y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru; a Chymru Gymraeg a'i creodd hi, ei chynnal hi, dotio ar ei graddau anrhydeddus hi, a bodloni mai gradd diraddiad y Gymraeg yw diploma ei hanrhydedd hi.

Gwir iddo lenwi swydd trethwr yn anrhydeddus iawn, ond gwyr y dylaf mai ychydig o gydymdeimlad sydd rhwng seryddiaeth a Threth y Tlodion, neu Gyngor Plwyf, er i'r seryddwr fod yn ysgrifennydd y Cyngor hwnnw am flynyddoedd.

Fe fu iddo hefyd le anrhydeddus 'mhlith beirdd a llenorion y ganrif.

Dechreuwyd gweld Alun Jones fel nofelydd 'go- iawn', yn yr olyniaeth anrhydeddus honno sy'n cynnwys Daniel Owen, T.

Byddem yn gymysglyd ein teimladau, wedi ceisio gwneud y peth anrhydeddus, ac wedi llwyddo i bechu'r ddwy ochr.

Hawliant droi diwrnod o'i phum niwrnod hi yn ddydd Saesneg cyn cyfrannu at ei chynnal hi'n anrhydeddus.

Edrychwn ymlaen at berthynas agos a chynhyrchiol gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y dechreuwyd arni eisoes pan gyflwynais i Adroddiad yr Awdurdod i Brif Ysgrifennydd y Cynulliad, y Gwir Anrhydeddus Alun Michael AC, AS.

Ar ddechrau Pwyll gellid dweud bod yr awdur am brofi mai gŵr anrhydeddus o gymeriad cadarn yw tad yr arwr, a chanddo urddas a phwysigrwydd arbennig trwy'r berthynas agos sydd rhyngddo a brenin Annwfn.

Daeth atebion i law oddi wrth y Gwir Anrhydeddus Syr Wyn Roberts a Swyddfa Dramor y Llywodraeth yn dilyn ein gwrthwynebiad i Ryfel y Culfor.

Mae wedi ennill tair Gwobr Gramophone, Grammy (am Peter Grimes), Gwobr Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain am wasanaethau i Gerddoriaeth Prydain, Gwobr Syr Charles Groves a Gwobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ac mae'n Gymrawd Anrhydeddus Coleg y Frenhines Caergrawnt.

Ar fore heulog braf codwyd baner y Ddraig Goch y tu allan i'r senedd-dy yn dilyn caniatad gan Lefarydd y senedd, y Gwir Anrhydeddus Jonathan Hunt, i'r faner chwifio yno gydol y diwrnod.