Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ansoddair

ansoddair

Thomas yn awgrymu i'r enw arbennig hwn ddeillio o'r gair gafr a'r ansoddair cysylltiedig gafrog, a'i farn ef yw mai disgrifiad syml yw hwn o nant lle byddai geifr yn ymgynnull i bori.

Dyna'r cyfan ydyw: y berthynas rhwng Enw, Berf/Ansoddair, ac Adferf.

Adferf yw yma yn ôl ei brif swyddogaeth ond aethpwyd i'w gyfuno â'r fannod yn swyddogaeth ansoddair dangosol didoledig, y ...yma, mewn dynwarediad o'r gwir ddangosolion hwn, hon etc., a all weithredu yn swydd rhagenw dangosol neu fel ansoddair dangosol didoledig mewn cydweithrediad â'r fannod.

Arswydus yw'r darlun ym mhaladr yr ail englyn, a'r ansoddair 'ddi-derfysg' yn arbennig o nerthol pan gofir mai terfysg a fwriodd y llanciau i'r dwfn.

I ddisgrifio dyn, yn llawer mwy aml na pheidio, nid ansoddair a geir ond trosiad neu gyffelybiaeth.

Mor gras yw'r cywair yn y cwpled cyntaf, gyda'r canoli sylw ar y gair 'ymryson' (meddylier am gynodiadau tyrfus y gair) ac ar y tri ansoddair grymus 'ynfyd', 'chwerw' a 'blin'.

'Ond cofio...cofio.' Mae'r toriad cysodol ar y llinell, ar ol 'cofio man,' yn bwrw'r ansoddair yn ol yn ogystal ag ymlaen at onomatopeia'r llinell wedyn ac eironi'r gair yn y cyd-destun galarus yn gynnil iawn.

Mae'r Ansoddair yn awgrymog hefyd.

Berf/Ansoddair: dibyniaeth gyntaf.

Ond os mynnwch gael ansoddair ar ôl y gair 'llenor', y mae'n peri loes i mi'ch ateb.

Doedd `cymhleth' ddim yn ansoddair yr oeddwn i wedi'i gysylltu â newyn erioed.

Tri cham: hunan-ddibyniaeth (enw), dibyniaeth gyntaf (berf, ansoddair), ail ddibyniaeth (adferf).

Yn y gorffennol ni chofiaf inni erioed gael ein disgrifio ag ansoddair cryfach na direidus.

Pan ddisgrifir Duw nid yw'r ansoddair yn cyfleu unrhyw fath o synwyrusrwydd; rhai 'haniaethol' sy'n consurio mawredd ydynt yn ddi-feth.

Wedyn, ac yn olaf yn y gyfundrefn hon, yr Adferf, sy'n dibynnu naill ai ar Ferf neu ar Ansoddair.

Dywed yr Ansoddair am yr Enw.

Y mae dyn erioed wedi dymuno ennyn bendith y duwiau, ymatal rhag herio ffawd a rhagluniaeth ('Fe ddof yfory, os byw ac iach...' ) Mae'n awyddus i ennill lwc dda a chael bod yn ffortunus neu'n ffodus mewn bywyd (ansoddair sy'n tarddu o'r gair 'ffawd').

LLithriad sydd yma, fel y gŵyr yr awdur yn iawn, am ansoddair dangosol.