Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anwastad

anwastad

Roedd cerrig llwyd, anwastad y waliau yn bochio allan, yma a thraw, gan greu corneli a llecynnau tywyll.

Awdl anwastad yw hon.

Mae'n gyfrol anwastad.

'A ninnau wedi aros yr holl amser i hyn ddigwydd.' Rhedodd y tri yn ôl cyn gynted ag y medrent ar hyd y llwybr anwastad.

Meddai ar wyneb gwridog, dannedd anwastad, a chnwd bras o wallt fel sypyn o grawcwellt wedi'i gropio.

Yn y cyfnod hwnnw a basiodd yr oedd llawer anhwylustod bid siwr, swm o anghyfiawnder o gormes, gyda chyflwr cymdeithas yn llethol o anwastad.

Doedd hi ddim yn glasur - y maes anwastad yn gwneud hynny'n anochel.

Hanes ydyw'r testun sydd wedi dioddef mwyaf o dan bwysau anwastad ac anghyfartal y behemoth yma o gyfundrefn addysg sydd gennyn' ni yng Nghymru, a'r canlyniad yn aml ydyw ein bod yn ansicr ac yn anwybodus am ddigwyddiadau ein gorffennol ni ein hunain.

'Roedd llifogydd wedi golchi'r hen ffordd yn rhigolau dyfnion, anwastad gan amharu ar geir y bechgyn ar eu taith i'w swyddi bob dydd.

Yna mwy o goed a thu draw i bopeth, llinell solat, anwastad, anghyffyrddus troed y bryniau.

Y mae'r cyfieithu yn anwastad iawn, ar dro yn gwneud dim ond atgynhyrchu Beibl Genefa, dro arall yn cadw fersiwn y Beibl Mawr heb ei newid nemor ddim; mewn rhai llyfrau yn aralleirio'n llac, mewn llyfrau eraill yn trosi'n dra llythrennol.