Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

anwybyddu

anwybyddu

Pe bai'r gosodiadau'n gywir, anodd fyddai i neb ddywedyd i'ch erbyn, ond camsyniad sylfaenol eich dadl ydyw anwybyddu'r gwahaniaeth hanfodol rhwng traddodiad byw a thraddodiad marw, a marw hollol ydyw'r traddodiad Pabyddol yng Nghymru.

Codai pryder pellach, petai'r broses adnabod anghenion o fewn y cynghorau newydd yn arwain at anwybyddu anghenion neilltuol y disgyblion a'r myfyrwyr sydd yn mynd trwy'r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, trwy fod cynrychiolwyr y system honno yn y lleiafrif bob amser wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau a'r anghenion cyfrwng Cymraeg yn cael eu gosod yn ddarostyngedig i anghenion y disgyblion a'r myfyrwyr sy'n mynd trwy'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Camodd Carol oddi wrth y ffôn, ond daliodd i syllu arno an anwybyddu cwestiynau parhaus Owain a'r ffordd yr oedd Guto'n tynnu godre ei sgert.

Er gwaethaf ymosodiadau John Morris-Jones ni allai'r Eisteddfod ei anwybyddu.

Agorasant y gatiau wedyn gan anwybyddu ymdrechion y dyrfa i gyfeillachu â hwy.

Gwnaeth hi anwybyddu Mr Windsor.

'Roedd gan Nia 'grush' enfawr ar Hywel ac er iddo geisio anwybyddu hynny am gyfnod, gwaniodd Hywel a chysgu gyda Nia.

Roedd y swyddogaeth ganolog y dylid fod wedi ei rhoi i Zola i gynllunio ac addasu'r offer wedi cael ei anwybyddu.

Yn ein hoes ni fe ellir ei anwybyddu: poen a phothelli yng nghwrs rhyw nerf ar un ochr y corff yw'r symptomau gweledig o hyd.

Daliai hithau ei phen yn uchel, a cheisio anwybyddu curiad cyflym ei chalon.

Bygwth taeogrwydd a diniweidrwydd y gorchfygedig ac anwybyddu ei obaith ffug a'i ymgreinio.

Yn rhy aml rhoddir blaenoriaeth i'r dechneg gan anwybyddu dealltwriaeth ddigonol o sefydliadau a pherthnasau sydd ynghlwm wrth amryfal agweddau o'r economi.

Byddwn yn wirion iawn, yn wir, byddwn ni yn wirion iawn, pe bawn ni'n anwybyddu eu cynghorion.

''Fasa 'rhen dlawd yn medru hel y ffers 'tasa hi'n cal benthyg pynsiar gin y Paraffîn.' Daeth yn dro i'r wraig anwybyddu sylw'r gwr a cherddodd yn fân ac yn fuan i gyfeiriad y gegin allan.

Ni fuaswn byth yn cynghori neb i anwybyddu barn na ffansi leol chwaith!

Sgwn i faint fydd hi cyn y bydd y Cymry hynny a gwynai gymaint fod y Wasg Brydeinig yn anwybyddu Cymru yn gofyn iddi wneud yr un peth eto a gadael llonydd inni.

Yr unig ffordd oedd anwybyddu'r cyfarwyddyd.

yw dysgu ar lefel gallu mwyafrif y dosbarth gan anwybyddu i raddau y mwyaf galluog a'r lleiaf breintiedig...

Gwnaed ymdrech unwaith i anwybyddu stori am aelod parchus o'r sefydliad yng Nghymru a gyhuddwyd o gyflawni trosedd cyfreithiol difrifol iawn.

Ofn iddo gymryd ei ffordd ei hun mae o, a'i anwybyddu o, fel cynhyrchydd." "Wyt ti'n meddwl mai un felly ydi o?" "'Dwn i ddim; mae'n bosib.

Yn wir, roedd yn anodd inni anwybyddu'r ddau yna, gan eu bod yn sgrifennu mor rymus a threiddgar am y Gymru Gymraeg.

Er bod y Queste ei hun wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg, (fel rhan gyntaf Y Seint Greal), ac er bod Cylch y Fwlgat wedi bod yn hynod ddylanwadol ar destunau rhyddiaith Arthuraidd Cymraeg, nid oes unrhyw dystiolaeth iddynt fod yn gyfarwydd â'r Tristan en Prose Efallai mai ei anwybyddu a wnaethant, oherwydd y mae lle i gredu mai fersiwn o'r 'Post-Vulgate Queste', sef y fersiwn lle ymgorfforwyd hanes Tristan, a ddefnyddiwyd gan gyfieithydd Y Seint Greal.

Ond maen amhosib anwybyddu yr hyn a ddywedodd David Dobson yn y Dail Express yn dilyn y digwyddiad a roddodd gymaint o wefr i ohebwyr a gwneuthurwyr brâs.

Ond maent yn dewis anwybyddu brwydr pawb arall am ryddid neu degwch.

Byddai disgwyl iddo anwybyddu protest taer ei nerfau brau a rhoi ei raglen o flaen ei ofnau.

Ond gwrthodiad pendant a gafodd a pharhaodd Bowser i dramwy heibio'r fferm yn ffroenuchel gan anwybyddu'r boen a'r gofid a fodolai yno.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol anwybyddu argymhellion y Bwrdd Iaith.

Yr agwedd gonfensiynol at Oes Victoria yw ei bod yn oes hynod gul a fynnai anwybyddu'r profiad rhywiol mewn llenyddiaeth ac esgus nad oedd yn bod ym mywyd y dosbarth canol parchus.

Doedd y ffaith ei bod hi wedi fy anwybyddu er dydd fy ngeni ddim yn cyfiawnhau i mi ei gwrthod hi a hithau ar ei gwely angau.

Mae gan Blair amser eto i adfer ei boblogrwydd ond bydd yn rhaid i Hague feddwl am strategaeth newydd wedi i'r etholwyr anwybyddu ei alwad i roi ffoaduriaid dan glo a saethu lladron.

Fe bery'n destun pryder bod nifer o awdurdodau wrth ystyried ceisiadau cynllunio yn mynnu anwybyddu ystyriaethau cynllunio megis y Cynllun Strwythur.

Un agwedd y tueddir i'w anwybyddu yw'r rhan a gymerodd ysweiniaid Gwedir ym myd diwylliant yn gyffredinol.

O orfod cydnabod hynny, mae'n frawychus sylwi ar ein parodrwydd i anwybyddu'r dylanwad pwysicaf ar ein bywydau.

Bydd hon yn gosb am beidio â gwisgo gwregys; gorlwytho cerbyd; defnyddio'r corn liw nos; anwybyddu arwyddion ffyrdd, ac ati.

Mae'r strategaeth felly yn symbol o'r consensws newydd sy'n bodoli ym myd busnes a datblygu economaidd yng Nghymru ac yn Ewrop ac sy'n anwybyddu'r hen wrthgyferbyniad rhwng y 'Wladwriaeth' a'r 'Farchnad' a lywiodd gymaint o'r trafod yn yr wythdegau, a hynny trwy osod nod strategol sy'n ymgais i gyfuno buddiannau pawb yn y gymdeithas ar lefel ranbarthol.

Ond wrth anwybyddu'r cyd-destun gwleidyddol a mynnu bod y gamp o gyrraedd y brig o fewn ein gafael fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae'r adroddiad yn ochri, yn anfwriadol efallai, gyda'r status quo.

Ond yr oedd yna duedd yn y dehongliad hwn i ganolbwyntio ar droseddau defodol y gallai dyn eu cyflawni'n ddifeddwl neu'n anfwriadol, gan anwybyddu'r troseddau moesol dyfnach a ddibynnai fwy ar ewyllys dyn.

Go brin y deuech ar draws neb yno a allai ddweud pam y sefydlodd ysgol yn Rhuthun mwy na rhywle arall ac o'r braidd y caech neb a ddywedai wrthych pa natur y cymorth, yr oedd yn werth gan William Morgan ei gydnabod ar y pryd, ac nid gwiw i ninnau felly ei anwybyddu.

Doedd hi ddim yn hawdd i'w anwybyddu ond dechreuodd baratoi i fynd i mewn i'r ogof.

Yr oedd hwnnw'n llygaid i gyd, er ei fod yn ymddangos fel pe bai'n anwybyddu ei fêt.

Ar ol iddo gael ei anwybyddu am sbel hir, gafaelodd o'r diwedd yn un o'r dynion a oedd yn brasgamu heibio a holodd pam tybed nad oedd neb yn cymryd sylw ohono ac yntau'n brif arweinydd y wlad i gyd?

Gwedd ddryslyd a fyddai i hanes Gorsedd y Beirdd pe baem yn ceisio ei adrodd gan anwybyddu'r ffaith mai'n daleithiol neu'n 'gadeiriol' y gweithredai'r mudiad yn y dechrau ac yn ystod cyfran helaeth o'r ganrif ddiwethaf.

Mae tuedd wedi bod wrth astudio natur cymdeithas i anwybyddu dylanwad y dosbarth hwn.

Amhosibl yw anwybyddu, i enwi ond ychydig, y sychder a'r rhyfeloedd yn Eritrea, Ethiopia, Swdan a Somalia; trychinebau Bopal, yr Exon Valdes a'r Braer, dylanwad damweiniau Chernobyl a Three Mile Island, y twll yn yr haenen Osôn, coedwigoedd diflanedig Brasil a Bafaria, llifogydd Bangladesh ac felly ymlaen.

'Mae miliynnau o bobl a oedd cynt yn anwybyddu'r etholiad yn cymrryd sylw yn awr.

Gan nad oedd ganddo ergyd lethol, gallai ei wrthwynebwyr anwybyddu ei jab a chymryd siawns gan wybod nad oedd hynny'n arbennig o beryguls.

Roedd gallu Saunders Lewis mor rhyfeddol fel y tueddwyd i anwybyddu diffygion anochel y ddadl, yn enwedig diffyg unrhyw raglen bendant ar gyfer ennill rhyddid a chyfrifoldeb.

Yn sicr, nid oes angen, hyd yn nod i feirdd, anwybyddu ffeithiau cydnabyddedig gan feirniaid ieithyddol.

Roberts wedi bod yn doethach i anwybyddu'r cyhuddiadau yn erbyn ei gyd-genhadwr; yr oedd, hyd yn oed bryd hynny, yn siwr o fod yn sylweddoli mai dyn dichellgar oedd Badshah, yn troi pob dwr i'w felin ei hun.

Nid gwrthwynebiad a phrotest a methiant oedd yr elfennau pwysicaf yn y trychineb hwnnw ond y bygwth a'r anwybyddu.

Mae'n well gan yr heddlu hwythau anwybyddu argoelion arwyddocaol.

Ac ni all yr hanesydd anwybyddu'r ffaith fod y math yma o ddisgyblaeth wedi cyfrannu mewn ffordd greadigool at fagu cadernid cymeriad ymhlith miloedd yn y gymdeithas.

A fyddai'n mynnu ei ffordd ei hun, gan anwybyddu Enoc?

mae'n amhosibl anwybyddu'r gynghanedd yng nghymru a wiw inni wneud hynny.

mae naratif yn caniata/ u mwy o le i symud na na gan anwybyddu cerddi naratif am y tro.

Y mae tradyrchafu un gynneddf, dyweder y gynneddf ddadansoddol, ar draul anwybyddu'r lleill, yn golygu gwneud cam mawr â chyfoeth y bersonoliaeth.

Mae anwybyddu'r gwahaniaethau naturiol rhwng dynion a menywod yn groes i reolau natur, ac yn gwadu rhyddid y wraig i gyflawni ei dyletswyddau naturiol.

Oes modd anwybyddu'r Nadolig fasnachol yn gyfangwbl?

Talant yn ddrud am eu delfrydiaeth a bair iddynt anwybyddu sail economaidd amaethyddiaeth y Gors.

Yn wir, ni ddylid anwybyddu Mynnodd ef wthio penderfyniad trwy'r Cenhedloedd Unedig yn condemnio'r trais ac yn galw am gadoediad yn y Dwyrain Canol.

mae hyn i gyd yn cael ei anwybyddu gan grefyddwyr.

Nid yn unig mae cwmnïau Vodafone ac Orange yn britho Cymru gyda mastiau fel hyn, ond maent yn anwybyddu'r Gymraeg yn llwyr.

'Tric rhad', meddech, ddim yn gweddu i ddifrifoldeb meddwl cynulleidfa theatr 'genedlaethol.' Mae'n anodd i awdur llwyddiannus anwybyddu'r elfen o wirioni plentynnaidd sydd yn rhan o theatr.