Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aradr

aradr

Roeddynt erbyn hyn wedi colli golwg ar gyfarfod y Nant y noson gynt, ac fel roedd Ysbryd Duw wedi bod yno yn codi dynion o'r newydd i afael yng nghyrn yr aradr.

Wrth syllu i'r awyr ar noson glir gallwn weld yr Aradr, Orion a sawl un o'r cytserau amlwg eraill.

Gwell oedd ganddo gydio mewn llyfr nag yng nghorn yr aradr; trin, diwyllio meddwl na thrin daear, a hau gwybodaeth na hau ceirch a gwenith.

Ac eto, ni lwyddwyd ymhen un amser i'w dysgu i dynnu'r aradr i waelod y cae.

Yn aml byddai ffermwyr yn clymu darn o'r pren i'r aradr neu'r chwip fel na allai'r un wrach witsio'r anifeiliaid.

Rwan i'r rhelyw ohonoch nad ydych yn sgiwyr, y peth cyntaf i ddysgu ydy sut i sgio ar sgis mewn siap swch aradr eira.

Yn sicr, yr oedd natur wedi ei dorri allan i ddal swydd athro mewn rhyw brifysgol, ac nid i ddal yr aradr; ffigiwr gwael a dorrodd hefo'r gwaith hwnnw.

Tynnwyd ei gyfeillion a'i gyd-ddisgyblion oddi wrth yr aradr a'r oged, a'u gyrru, fel wyn mudion, o'r meysydd i'r Rhyfel Mawr; gwyr ifainc heb gasineb yn eu calon at yr Almaenwyr.

Oblegid y mulod hynny a dynnai'r aradr i fyny'r bryn, i ben draw y gwys, yna hwynt hwy a droent wysg eu cefn, ac a geisient lwyfan ar yr aradr er mwyn teithio nôl at waelod y cae hwnnw.

Fe fyddai bron â dotio ar y cwysi a drôi'r aradr, a theimlech ei fod yn rhan o'r cae, fod iddo wreiddiau yn anwylo'r âr yr oedd yn gwyro trosto.