Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arafu

arafu

Ein tuedd ni, yma yng Nghymru, pan yn cyrraedd ffordd drol yw arafu a rhoi'r car mewn gêr cyn lleied a phosib.

Mae halen yn arafu twf y burum, ond mae'n rhoi gwell blas i'r toes.Cymysgir yr halen felly gyda'r blawd, fel nad yw'n dod i gysylltiad uniongyrchol a'r burum.

Fel arfer, pan gyrhaeddodd fan arbennig symudodd ei droed dde i wasgu'r brêc er mwyn arafu'r lori fawr.

Dyma arafu a throi i'r chwith eto; ffordd wlad bellach, a thipyn o godiad ynddi hi, gwrychodd uchel, a wyneb y ffordd yn is na'r caeau o'i deutu.

Ym mhob maes parcio Steddfod neu sioe y mae yna rywun y mae'n rhaid iddyn nhw gael arafu i ofyn i stiward am gael parcio rywle gwahanol i lle mae hwnnw eisiau eu hanfon.

Fodd bynnag, un o'r rhwystrau pennaf sy'n atal datblygiad addysg Gymraeg ac sy'n arafu adfer yr iaith yw diffyg cymhelliant ac ewyllys.

Ni fedrent deithio'n gyflym gan fod y tir corsiog yn arafu eu camau ond cyn hir daethant at gysgod llannerch o dderi ifanc.

Roedd yn arferiad gan setwyr o chwareli ithfaen symud o le i le pan oedd y fasnach sets wedi arafu ac fe gawn fod amryw yn mynd dros y dwr o Drefor o dro i dro.

Achos dydi gyrwyr Ariannin ddim yn arafu wrth newid o un lôn i'r llall.

Ymlaciodd hithau yn ei erbyn, a theimlo'i haelodau'n ymollwng fesul un wrth i'w anadlu dwfn arafu, a throi'n chwyrnu rheolaidd isel.

Ac mae'r coed bythwyrdd yn ymddangos yn ddigyfnewid, ond yn yr oerni mae'r prosesau bywiol wedi arafu ynddynt hwythau.

Wrth drafeilio allan o ganol Dubai neu Abu Dhabi mae bywyd yn arafu braidd.

Roedd yr afon yn rhuthro'n wyllt dros y cerrig ac yna'n arafu a throi mewn pwll dwfn.

Mewn cilfach sych a chysgodol, ar ol bwyta'n fras, mae'r cysgaduriaid fel y draenog a'r pathew yn gaeafu, a churiad eu calon a'u hanadlu wedi arafu yn arw.

Mae'r swyddfeydd a busnesau yn arafu bron i ddim.

Fe fydd din tueddu i arafu tipyn yr wythnos hon, ac y maen hen bryd.

Gyda hyn cewch glywed llif ei huodledd yn arafu ac ansicrwydd yn dod i'w lais.

Oherwydd y pwysau ychwa- negol, fydd y car ddim yn tynnu cystal ag arfer, ni fydd mor chwim yn codi cyflymder nac mor effeithiol yn arafu.

a dyna a wnaethant, a 'r ddau hy ^ n ar brydiau 'n gorfod arafu rhag gadael huw ar ôl.

Bore da i bawb, meddai, mae'r glaw yn arafu; bydd yr haul allan ymhen yr awr.

Ond, fel yr oedd fy nychymyg yn tynnu llun Paradwys ar ganfas fy meddwl, sylweddolais bod y trÚn yn arafu, a'm cyddeithiwr ar ei ffordd tua'r drws, ac wedi gadael ei bapur newydd ar ôl i mi.