Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arbed

arbed

Yn achos Stephens a Bebb byddai hynny wedi arbed llawer o'r cecru a drwgdeimlad a fu ddydd Sadwrn gan na fyddai Stephens yn ail-afael yn ei gêm nes y byddai Bebb, a anafwyd ganddo, yn gallu gwneud hynny hefyd.

Felly gall fod yn llawer mwy cynnil wrth recordio ac arbed arian wrth recordio'n allanol.

Roedd yr Iraniaid wedi gofyn i mi yn gynharach a fedrwn i fwrw allan gythreuliaid, ac emwyn arbed gwaith egluro a chyfieithu roeddwn i wedi dweud wrthyn nhw y medrwn i.

Felly, i arbed sioc i'r system, rhaid colli pwysau yn eich pwysau...

Teimlai'n reit sâl wrth weld Huw'n deifio ar lawr i ddangos sut roedd wedi arbed gôl wych yn yr ysgol amser cinio.

Cefais hyd i rwyd i'w thaenu dros y gwely bach, ac oherwydd hynny gallwn gysgu heb ofni brathiadau mosgito, a rhaid fod hyn eto wedi f'arbed rhag dal malaria.

'I ba beth y gwnaed y Cymry?' , meddai'n guchiog rhyw dro, 'I durio y ddaear i'r Sais, a'i arbed ef rhag gweithio.' Loes calon iddo ef oedd gweld cynifer o Saeson yn ymgyfoethogi ar draul y Cymry, yn ysbeilio crombil y ddaear o 'frasder oesoedd' ac yn 'ddiwyd gasglu i'w llogellau gynnyrch trysorau ein gwlad'.

wrth gwrs, maen nhw'n gallu arbed arian trwy beidio ffilmio yn America ond un o'r prif bethau yw'r elfen hanesyddol.

Yn ôl tystiolaeth un meddyg y bu+m i'n siarad â hi, roedd rhai mamau wedi anobeithio ac wedi troi cyrn gyddfau'u plant er mwyn arbed eu maeth a'u nerth eu hunain.

Roeddem ein dau yn barod i wneud unrhyw beth i arbed Anti Meg rhag cael ei throi'n ganeri.

Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.

Doedd George Jones ddim yn un am ddefnyddio'i ddyrnau, hyd y gwn i, ond fe wyddai mai arbed casgliad y Sul hwnnw oedd bwysica iddo fo.

Be ydi'r pwynt iddyn nhw berffeithio'r System a chymryd blynyddoedd i ddyfeisio peiriannau sy'n arbed yr holl amser 'da chi'n ei gymryd i lenwi siec, os ydach chi'n mynnu dod â'ch hen fodryb naw-deg-rwbath allan efo chi i ddewis bloda?

Yn awr, bydd disgwyl i'r wlad dywallt arian dirifedi i arbed y sefyllfa.

"Wrth brynu baco rhydd mae pobl yn cael mwy o ddewis, yn cael y cyfle i drio pethau gwahanol, ac yn bwysicach fyth maent yn arbed arian." Mae'r math yma o faco yn rhatach bydded rhywun yn ei ddefnyddio mewn cetyn neu ar gyfer ei rowlio.

'Pob cyfle gawson ni, fe wnaethon nhw eu blocio nhw neu fe wnaeth eu golwr nhw arbed.

Eto cyfyd damcaniaeth Branwen Jarvis anawsterau: yn yr ail bennill, os Crist a olygir gan 'Arthur Iôr' sy'n arbed Mabon ac yna rywsut yn peri ei fwrw i 'fydafon geol y gelyn' yna ni ellir gwneud synnwyr o'r peth.

Mae'r dull hwn o ariannu cyhoeddi wedi sicrhau yn y gorffennol bod yr adnoddau wedi cyrraedd yr ysgolion sydd eu hangen, wedi cenhadu yn y maes, ac wedi arbed costau marchnata a gwerthu.

Er i David Walsh arbed rhai ergydion yn gôl Wrecsam a Stuart Roberts yn taro'r bar roedd hi'n anodd i Abertawe o flaen torf oedd yn ddigon naturiol yn fach ac yn dawel.

Ar neges yw y gallwch chi arbed mwy na phuntan neu ddwy trwy wneud hynny.

Gwnaed y gwaith, ac fe'i gwnaed yn llwyddiannus heb arbed na thraul na thrafferth i gyrraedd y nod.

Cefais fy arbed rhag cael ysgariad gorysgytwal oddi wrth fy nghefndir gan mai i Goleg Prifysgol Cymru ym Mangor yr euthum i ddilyn cwrs gwyddonol am y flwyddyn gyntaf.

Os golygir mai troedigaeth SL yn y tridegau a arweiniodd rywsut at Penyberth a'i daflu ef i 'eol y gelyn', yna beth yw ystyr y 'carchar a'r seler ddilawnter dan lif anafon' yn y pennill cyntaf, cyn dyfod 'Arthur i'th arbed di'?

Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.

Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau defnyddiol ac fe fyddwn i'n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi) wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi mewn poen, fe allwch arbed oriau o aros yn lle'r meddyg drwy eistedd i lawr a chael sbloet iawn o grio.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd ef yn marw am ei bechod, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.

(d) Cau Swyddfa'r Arolwg Daearegol yn Aberystwyth CYFLWYNWYD llythyr Mr Cynog Dafis AS yn hysbysu bod yr Arolwg Daearegol yn bwriadu cau'r swyddfa uchod er mwyn arbed swm cymharol fechan o arian.

I arbed troedio yr un llwybr yn ol ewch trwy'r bwlch yn y twyni rhyw ddau can llath wedi troi ar hyd y traeth, a gallwch gerdded trwy'r coed yn ol at y maes parcio, gan gofio troi i'r dde, neu fe ddeuech allan yn Niwbwrch!

Dyma'r unig gwmni sy'n barod i arbed swyddi ac mae peidio â cholli swyddi'n bwysig yn y diwydiant ceir sy'n wynebu trafferthion ar hyn o bryd.

O'u defnyddio yn y dosbarth, gall yr offer yma arbed y darlithydd neu'r athro rhag gorfod llafurio i ennyn brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc trwy ddisgrifio a rhestru ffeithiau yn unig.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

DEFNYDDIO AC ARBED YNNI: Rhaid defnyddio ynni ar gyfer pob gweithgaredd, ac nid yw'r gwaith a gyflawnir neu a argymhellir yn yr Adran neu gan yr Adran yn eithriad.

Mae hyn wedi arbed llawer o bentrefi rhag y difrod a wnaethpwyd i lefydd fel Harlech, Gaerwen a Dinbych yn y 1980au.

'Ond fydd hi ddim yn medru f'arbed i, chwaith.'

Fe fyddai ennill statws swyddogol i'r Gymraeg yn arbed y dryswch presennol: fe fyddai'n neges ddiamheuol i bobl yng Nghymru fod gwerth ar yr iaith a bod modd ei defnyddio heb rwystr.

Mae'n rhaid i ffermwyr ddipio defaid yn ôl y gyfraith yn flynyddol i arbed yr anifeiliaid rhag afiechydon.

Mae'r cynllun yn pwysleisio'r angen i ailgylchu ac arbed adnoddau, e.e.

I arbed llifogydd, gosodwyd yr afon i redeg rhwng argloddiau sylweddol, a chodwyd llifddorau i reoli ei thaith i'r môr ym mhen gogledd orllewinol Cob Malltraeth.

Trwy ymroddiad cymdogion a'r gwasanaeth tân llwyddwyd i arbed peth ar y Swyddfa ond ni ellid ei defnyddio am ychydig amser.

Roedd cyfle nawr i ni arbed digon i roi ernes ar dy i ni'n hunen dros y ddwy flynedd nesa.

Yr anfantais fawr wrth ddewis bod yn ofalus yw y gall rhywbeth fod o'i le ar y camera neu ar lefel y golau a ganiatawyd i'r camera ac y byddai gweld hyn yn y fan lle tynnwyd y ffilm yn arbed siwrnai ddrud arall i'r wlad, pe bai hynny yn bosibl hyd yn oed.