Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arbenigo

arbenigo

Ble bynnag yr ewch y dyddiau hyn fe glywch son yn y clybiau a chan yr unedau rhyngwladol am yr hyfforddwyr syn arbenigo mewn amddiffyn. Maen elfen hanfodol i bob tîm a rwyn synnu bod digon o le gan rai chwaraewyr i ymarfer yng nghanol yr holl hyfforddwyr hyn.

Ac fel tasa hyn ddim yn ddigon, roedd y Sbaenwyr ar Ffrancwyr nad oeddynt mewn dosbarthiadau'n arbenigo mewn sgio dros fy sgis, fy nharo hefo'u polion a gwneud swn llithro fel 'avalanche' y tu ol i mi.

'ofynwn i chi felly sianelu'r gwariant ychwanegol yng Nghymru drwy'r Awdurdodau Addysg Lleol ar gyfer datblygu gwasanaethau ar lefel sirol i gefnogi ysgolion e.e. athrawon symudol sy'n arbenigo ar ddysgu Cymraeg a phynciau eraill, canolfannau adnoddau a hybu cydweithio rhwng yr ysgolion.

Ganwyd ef ym Mary Street, Caernarfon, a'i addysgu yn Ysgol Sir y dref honno, gan arbenigo mewn Saesneg a Ffrangeg.

Os yw llawfeddyg yn gweld bod gwir angen am driniaeth lawfeddygol anodd, cymhleth a pheryglus ar y claf, a honno'n driniaeth nad oes ganddo fawr ddim profiad ynglŷn â hi, yna dylid, ar bob cyfrif, danfon y claf at lawfeddyg arall sydd wedi arbenigo yn y math yma o driniaeth.

staffio - penodi athrawon a'r defnydd a wneir ohonynt (dylid rhoi sylw arbennig i'r defnydd a wneir o unrhyw athrawon nad ydynt yn arbenigo yn y pwnc ac i natur y gefnogaeth a dderbyniant); dylid rhoi sylwadau gwerthusol ar ansawdd y cyfarwyddyd yn y pynciau a'r HMS a ddarperir i holl athrawon y pwnc a'r cyfraniad a wneir gan staff cynnal.

Mae Nia eisoes yn paratoi teithiau i Gaergrawnt ac i'r Iwerddon i weld pobl sy'n arbenigo yng ngwaith Nansi Richards.

Gan fod Cardi wedi lladd bron i bob planhigyn yn y ty - gan arbenigo mewn planhigion Yukka - maen amlwg nad oes caniatad iddo ef fynd i'r lolfa o gwbl pan fyddwn ni allan neu byddai'r goeden yn ufflon.

Roedd ambell i label yn arbenigo mewn un math o gerddoriaeth hefyd, - Elektra a'r canu gwerin protest yn y chwedegau, Stiff a'r caneuon bachog, ffwrdd-â-hi yn y siathdegau, Factory a'r don newydd o grwpiau 'difrifol' a ddaeth yn sgil canu pync.

Yr oedd y maes llafur yn arbenigo mewn Ffrangeg, brodio, dawnsio ac ysgrifennu.

Dros y blynyddoedd, fe ddechreuodd rhai - y rhan fwya' ohonyn nhw yn gyfranwyr i'r gyfrol hon - arbenigo a magu profiad mawr mewn gwaith o'r fath.

Roedd dau ddoctor am ddod gyda ni, un ohonynt yn Americanwr ac yn arbenigo mewn astudio'r ymennydd.

Mae Dewin yn gwmni sy'n arbenigo ar bob agwedd o ddelio â chyfrifiaduron - gan gynnwys trin a thrafod systemau, cronfeydd data, cynnal a chadw systemau cyfrifiadurol cwmniau cyfan, a chreu safleoedd gwe syml a chymhleth.

Mae Bys a Bawd, sy'n fusnes teuluol a sefydlwyd ym 1955, yn arbenigo mewn llyfrau Cymraeg a Chymreig ac yn fusnes sy'n hollol ymrwymiedig i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant.