Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arbrofion

arbrofion

Mae'n hawdd casglu'r offer y bydd arnoch eu hangen i wneud yr arbrofion yn y llyfr hwn, ac y mae'n ddiogel i'w defnyddio.

Sesiynau Labordy Agored Yn ogystal â mynd i'r darlithoedd a'r sesiynau labordy sydd ar yr amserlen, bydd angen ichwi dreulio rhagor o amser yn gweithio yn y labordai; er enghraifft, yn rhoi prawf ar arbrofion neu yn defnyddio cyfrifiaduron.

Ar hyn o bryd, ym Mhrifysgol Llundain, cynhelir arbrofion ar lygod i geisio darganfod a oes wirionedd yn yr honiad.

Yr Athro Brekham, pennaeth Sefydliad Bywydegol yn Vladiuostok, a wnaeth rai o'r arbrofion cynharaf.

Fydd dim angen llawer o bethau arbennig arnoch ar gyfer yr arbrofion; mae'n debyg y byddant ar gael yn eich cegin gartref.

Lluniwch lyfr adar i gynnwys casgliadau o luniau, plu, disgrifiadau manwl a gwybodaeth am arferion yn ogystal â manylion am arbrofion.

Nid yw'r arbrofion efo swigod yn gweithio cystal ar ddiwrnodau sych, poeth.

petersburg ; ar ôl chwe mis o arbrofion rhwng st petersburg a moscow, mabwysiadwyd ei delegraff gan rwsia, ac fe'i gwnaed yn gomander yn urdd st anne.

Mae'r arbrofion yn hwyl - amrywiant o grisialau siwgr i belenni gwyfyn symudol, o bobi i dyfu gerddi crisial.

Ym mhob rhifyn cawn arbrofion gwyddonol syml y gallwch chi eu gwneud eich hunain.

yn y modd yma, enillodd amser i barhau a'i arbrofion.

Ymdriniaeth ymarferol ydyw gan wr craff sy'n deall techneg amaethu tan amodau arbennig ei fro, ei hinsawdd, ei gwyntoedd cyson a natur ei phriddoedd, (ceir yma un o'r enghreifftiau cynharaf o fap priddoedd), ac y mae ganddo gynghorion wedi'u seilio ar arbrofion cemegwyr y Gymdeithas Frenhinol.

Aethpwyd yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy ofyn am Arwrgerdd, cam enfawr yn ôl i'r gorffennol wedi arbrofion chwyldroadol y dauddegau yng nghystadleuaeth y Goron.

Yna byddwn i'n gwneud lot o arbrofion yn y tanc a bydd y cwch yn dechrau cael ei adeiladu ym mis Tachwedd.

Yn ystod ei siwrne gwnaethpwyd llawer o arbrofion, gan gynnwys rhai gan dîm o'r Ysgol ym Mhorthaethwy.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Mae'r arbrofion yn ddiogel, ond wrth i chi ddarllen y llyfr a thrio'ch llaw ar yr ymchwiliadau, mae'n rhaid i chi fod yn ofalus.

Mae'r syniadau a'r arbrofion yn y llyfr hwn yn eich cyflwyno i wyddor cemeg.

Dyma rai arbrofion sy'n dangos hyn.

A chyn pen nos roedd Llety'r Bugail wedi ei werthu i'r estron, a edmygodd y lle oherwydd yr olygfa eang o'i ffenestri ac a chwenychodd y lle fel gwrthrych i'r arbrofion pensaerniol.

(d) Rhowch brawf ar rai o'r arbrofion, paratowch un wers a'i chyflwyno i aelodau eraill y grŵp (Gan fod cynifer mewn ambell grŵp efallai na ellir gwneud hyn tan dymor y Gwanwyn).

Mae pob rhan o'r Ysgol yn ei defnyddio ac felly mae llu o wahanol arbrofion yn cael eu cynnal arni.

Gwneir arbrofion ar sut i ffrwyno ynni llanw ac nid yw ffarmio pysgod yn rhywbeth newydd mwyach.