Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arbrofol

arbrofol

Breuddwydient hwy am ddymchwelyd y drefn esgobyddol a gosod trefn "bresbyteraidd" yn ei lle gan fwrw ati lle'r oedd cyfle i arloesi gyda chynlluniau arbrofol yma ac acw yn y plwyfi.

Poster du, heb lun arno, y gobaith o ddenu cynulleidfaoedd ehangach, si ei fod yn gynhyrchiad gwahanol - "arbrofol" hyd yn oed!

Yn ôl un o newyddiadurwyr y Gorllewin, mae un fferm arbrofol yn ystyried bridio jutia conga - llygod mawr - yn fwyd i'r bobl.

Nid oes yna yr un gan sy'n merwino'r glust yn y casgliad o ganeuon er bod yna un neu ddwy yn arbrofol - fel Cartref sy'n restr o ddisgrifiadau o dai ar werth.

Nofel arbrofol i oedolion.

Gan fod hon yn gyfrol mor swmpus mae yma ystod eang o arddulliau gan gynnwys y rhai mwy arbrofol na'r arfer fel yr anachronistiaeth.

Heb os, Llwybr Llaethog oedd un o'r grwpiau arbrofol cynta i Gymru ei glywed ac mae eu cerddoriaeth yn dal i fod yn arloesol.

Mae yna naws hamddenol ‘dybaidd' i'r trac - sy'n arbrofol ac yn dangos hyblygrwydd llais Lauren.

Nid oes digon o sylw yn cael ei roddi i'n gwybodaeth o'r hyn yr ydym yn ceisio ei fesur, ac ni ddylai natur arbrofol llawer o'n ffeithiau canolog gael ei boddi gan geinder techneg fodem economeg.

Wrth feddwl am y technegau newydd yma, dylid nodi'r pwyntiau a ganlyn: Mae rhai ohonynt yn dal yn arbrofol ac fe gymerir rhai blynyddoedd cyn iddynt fod o ddefnydd uniongyrchol i'r ffermwr.

A yn ei flaen i awgrymu mai un ateb i'r dirgelwch yw fod y Llywodraeth yn ystyried Cymru fel maes posibl i leoli cyfundrefn arbrofol o addysg wladol.

Yn sicr mae'n ddiddorol, os nad yn arbrofol tu hwnt, ond nid yw'n gweddu gweddill yr albym yn ei chyfanrwydd.

Eto wrth syllu ar set drawiadol a naturiolaidd Angharad Roberts allwn i yn fy myw feddwl sut oedd y cynhyrchiad yma yn mynd i fod yn "arbrofol" - onibai fod yr ieir am ganu, gwneud dawns y glocsen a dodwy yr un pryd!

Gwneuthurwr ffilm o Lundain a gafodd Gymrodoriaeth Ffilm Gydwladol Cyngor Ffilm Cymru eleni, ond prin mai i'r diwydiant ffilm Prydeinig y perthyn gwaith arbrofol ac ymosodol Peter Greenaway.

Gwaith grŵp Astudiaeth annibynnol gyda chefnogaeth Gwaith project Gwaith arbrofol Datrys problemau Dysgu yn Gymraeg

Awgryma hyn oll bod angen gwneud gwaith arbrofol hirfaith a drudfawr i'r prosesau sydd ar waith ar safle llongddrylliad.