Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

archeb

archeb

Kendall, darlithydd yng Ngholeg Addysg Wrecsam yn ddiweddarach, pan ddaeth Cwmni Collins ar y ffôn o Glasgow i'm sicrhau eu bod nhw wedi penderfynu addasu 'Collins' Happy Series', sef Tro yn y Wig, Llyfrau Pen Bawd a Llyfrau Bach y Wlad, yn gyfan i'r Gymraeg ac yn gofyn beth oedd yr archeb?

Ar ôl twrn o waith hynod o galed gydag archeb drom, barn John Williams - un o'r gweithwyr tun mwyaf profiadol oedd mai Phil, yn ddiamheuol, oedd y dyn cryfaf yn y gwaith, ac yr oedd yn hawdd cytuno gydag ef.

Ni wyddai Hector druan hyn, ac onibai am archeb anferth Mrs Paton Jones a'i llythyr at y goruchwyliwr yn canmol yn frwd chwaeth a help gwerthfawr 'eich Mr Pennant' ni byddai'r stori hon gennyf i'w chroniclo, gan na chafodd Hector glywed gair am y llythyr.

Gresyn na fuasai'r archeb am gig oen a'r swyddi cysylltiol wedi dod i Gymru.

Ychwanegir £2.00 (cost cludiant) at bob archeb.

Gallai pethau fod yn anodd iawn yn y felin fawr gydag ambell archeb drom, a phan oedd yr hin yn boeth.

Os ydych ymhlith y lleiafrif ffodus sy'n ystyried prynu carafan newydd sbon yn hytrach nag un ail-law, yna mae'n bosib y cewch chi fargen ychwanegol drwy roi eich archeb yn ystod wythnos y sioe.

Ychwanegir £2.20 am gludiant bob archeb.

Dyddiaduron: Gofynnodd yr Ysgrifennydd Rhanbarth am archeb pob cangen ar unwaith.