Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

archwaeth

archwaeth

Teimlais wedi darllen The Ascent of Everest y gallasai'r cyfeiriadau at fwyd yn hwnnw fod yn help i ddyn gwan ei stumog i adfeddiannu ei archwaeth.

Os yw'n haws i rai nesau at oes Llywelyn Ein Llyw Olaf trwy ddarllen nofel Marion Eames na llyfr hanes Beverley Smith, yna boed felly, ac efallai y bydd blas y naill yn codi archwaeth at y llall.

Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.

Cyn i rywun fedru bwyta'n iawn, mae'n rhaid codi archwaeth.' Edrychodd o gwmpas y swyddfa a syllu arni hithau eto.

Gobeithiaf y bydd rhywfaint o'r sylwadau hyn at eich archwaeth arddio!

'Fedra i weld dim sy'n codi unrhyw fath o archwaeth arna i.' 'Roedd ei ystyr yn hollol glir.

Collodd bob archwaeth at fwyd ac roedd yn dirywio'n gyflym.