Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ardalwyr

ardalwyr

Bu rhieni ac ardalwyr Bryncroes yn ymladd brwydr yr ysgol am ddwy flynedd gyda chefnogaeth cymdeithasau a mudiadau trwy Gymru gyfan, ond wydden nhwythau ddim, mwy nag y gwyddai beicwyr Byclins, fod tynged yr ysgol wedi ei benderfynu ymhell cyn gwneud unrhyw gyhoeddiad swyddogol ynglŷn a'r bwriad.

GWELLA: Da gennym fel ardalwyr ddeall fod Mr a Mrs Land, Caerhos yn gwella'n

Gwelodd Ronald Davies ymateb yr ardalwyr i'r newyddion a ddaeth fel taranfollt i'w plith, ac ymhen blynyddoedd ysgrifennodd lyfryn yn adrodd rhywfaint o'r hanes.

Gan fod dau 'Jones' yn y Ganolfan lechyd, cwbl naturiol i dafod yr ardalwyr oedd gwahaniaethu rhyngddynt trwy gyfeirio at y partner hyn fel Doctor Jones, a'r ifengach fel Doctor Tudor.

Agorwyd arch Ann Parry eto, ac er mawr syndod i'r ardalwyr, arhosai eto heb lygru ac mor brydferth ag erioed.

'Roedd Dewyrth Dafydd yn bump oed ar y pryd ac yn cofio amdano'i hun yn sefyll efo'i fam yn nrws Crowrach a chlywed yr ardalwyr yma ac acw hyd yr ardal yn bloeddio 'Elin, Elin'.

'Roedd Druce hefyd i'w weld yn cymysgu efo'r ardalwyr.

Dywedir i'r sawl a agorodd yr arch y tro hwn deimlo'r corff â'i ddwylo yng ngolwg yr ardalwyr, ac 'roedd yn amlwg fod y croen a'r cnawd mor ddilwgr â'r dydd y claddwyd hi.

Anogwyd Mr Rowland George, y ffermwr, gan yr ardalwyr i ail-gladdu'r penglogau 'rhag i anlwc ddodd i'w ran'.

Er hyn i gyd, erys dylanwad y gorffennol ar fywyd yr ardalwyr mewn ysbryd caredig a chyfeillgar.

Roedd yr ardalwyr yn ei nabod yn dda.