Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arddeliad

arddeliad

Mae bwrlwm y profiad personol yn yr emyn yn esgor ar y byrdwn a ganwn gyda'r fath arddeliad.

Ond fe gododd Richard Owen Waun ar ei draed, ac fe ddywedodd, 'Canwch "Gwaed y Groes sy'n codi i fyny%.' Ac fe'i canwyd â rhyw arddeliad rhyfedd, a dyblu a threblu 'Gad i'm deimlo/ Awel o Galfaria fryn'.

Anodd yw amddiffyn - gydag unrhyw arddeliad - Amrywiaeth Bywydegol ac, ar yn un pryd, sathru ar hawliau amrywiol wareiddiadau dynol.

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

'O'r cychwyn, parodrwydd aelodau'r Gymdeithas hon i gyflawni tor-cyfraith … a roddodd rym ac arddeliad i'w hymgyrchoedd.

Diflannodd y perthi o dan orchudd o flodau gwyn, agorodd y blodau eu petalau, ac yn y bore bach canai cor yr adar gyda arddeliad.

Coffa da ohono yn canu hen Wlad Fy Nhadau gydag arddeliad ddiwedd y noson.

Ceisiai adnewyddu ffydd ei bobl trwy bregethu efengyl a darddai o'i thraddodiad ei hun: cyhoeddai gyflawniad yr amser a'i egluro trwy sôn am y gobaith yn ysgrythurau ei genedl am oes fesianaidd, oes sanctaidd, a'i chyfiawnder a'i chariad yn amlygu holl angerdd ac arddeliad yr Ysbryd.

Ond wnaeth y bechgyn ddim byd ond dechrau bloeddio eto, er gyda thipyn llai o arddeliad.

Gwnâi bopeth gyda'r fath arddeliad fel pe bai'r byd a'r betws yn dibynnu arno.

Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.

"Brysiwch." Roedd digon o arddeliad yn y gorchymyn i beri iddi ufuddhau.