Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ardderchog

ardderchog

Mor ardderchog yw dy weithredoedd, O Arglwydd.

Gan fyfyrio ar flwyddyn o newid mawr ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, rwyf yn ymfalchïo yn y ffordd y mae BBC Cymru wedi llwyddo i adlewyrchu datblygiad y corff newydd, ac effaith datganoli ar y wlad, gydag ystod o raglenni newydd ardderchog.

Dymuna Olwen Rees Jones, Danolfan, Wern, Trefnydd casgliad at y Groes Goch yn Llanfairpwll yn ystod wythnos y Groes Goch ym mis Mai ddiolch i drigolion Llanfairpwll am eu cefnogaeth i'r gronfa ac i ddiolch yn arbennig i'r holl gasglwyr am eu gwaith ardderchog.

Ardderchog hogia' a diolchir i Mr Glyn Jones am eich hyfforddi.

mae'r Coleg Digidol yn ddarpariaeth newydd a fydd yn cyfuno gwasanaethau, profiad a sgiliau addysgwyr, hyfforddwyr, byd busnes a diwydiant, S4C a BBC Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth dysgu gydol-oes ardderchog i wylwyr Cymru.

Llongyfarch Joschka Fischer 'am ei waith ardderchog ac am ei weledigaeth' a wnaeth Chirac, gan dynnu blewyn o drwyn Jospin yn gyhoeddus.

Tŷ mawr braf a golgyfa ardderchog..." "Ble mae e?

Petai o o gwmpas ei bethau fe fyddai wedi sylweddoli bellach fod Dad yn ardderchog am gael ei ffordd ei hun.

Chwarddai Capten yn foddhaus, ac wrth fynd i'r leins wedi i'r gloch ganu, sibrydodd yn fy nghlust, "Ardderchog, fachgen.

Cafwyd datblygiadau ardderchog o ran safleoedd newyddion a safleoedd eraill arlein, ac mae'r safle unigryw BBC Cymrur Byd yn darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg ym mhedwar ban byd.

Gwnaed cynnydd ardderchog wrth ddatblygu safleoedd newyddion a safleoedd arlein eraill ar gyfer BBC Cymru dros y deuddeg mis diwethaf, ac mae BBC Cymru'r Byd, ‘papur newydd' Cymraeg arlein dyddiol a lansiwyd ar 1 Fawrth 2000 eisoes yn denu ymateb gan siaradwyr Cymraeg ledled y byd.

Gorweddai ei farch ardderchog yn gelain farw, ac yr oedd y pris mawr a roesai amdano wedi mynd gyda'r gwynt.

Y bore cyntaf hwnnw, pan ddaeth perchennog y siop ati i weld sut oedd yn dod yn ei blaen, gwelodd ei bod yn gwneud yn ardderchog.

Y mae yr holl balasdai ardderchog y cyfeirwyd atynt, a channoedd heblaw hwy, heddiw yn syrthio yn gyflym i adfeiliad; mwy na hanner y rhai sydd o gwmpas Huntsville yn weigion; y gerddi blodau a'r perllanau yn llawn chwyn a'r mulod yn eu pori; naw o bob deg ohonynt `To be Sold or Let'.

Cafwyd perfformiad ardderchog gan Victoria Safronova y soprano o Israel - bywiog â nodau crisialaidd.

Trwy'r llyfr ardderchog hwn y mae Dr Gwynfor Evans wedi rhoi ysbrydiaeth newydd i heddychwyr yn ogystal â gwahoddiad i'r rhai nad ydynt heddychwyr ail-ystyried eu hegwyddorion.

Y mae'r llyfr ar ei hyd yn werslyfr ardderchog i unrhyw un sy'n dymuno gwybod rhywbeth am hanes Ieithyddiaeh a deall cefndir gwaith yr ugeinfed ganrif yn y maes hwn.

"Wn i ddim fasa chi'n licio peth," meddai, "fasa fo'n wahaniaeth yn y byd gen i ddwad â dau." "Ardderchog, Mrs Roberts," meddwn innau'n ddigon awchus.

Gan fyfyrio ar flwyddyn o newid mawr ers sefydlur Cynulliad Cenedlaethol, rwyf yn ymfalchïo yn y ffordd y mae BBC Cymru wedi llwyddo i adlewyrchu datblygiad y corff newydd, ac effaith datganoli ar y wlad, gydag ystod o raglenni newydd ardderchog.

Mae gan BBC Cymru lawer o wneuthurwyr rhaglenni gwych ac maen rhaid i ni sicrhau y daw pobl eraill yr un mor ddawnus a chreadigol i ymuno â hwy i alluogi BBC Cymru i barhau i gynhyrchu rhaglenni ardderchog.

Wedi'r pryd, a chyngerdd byr, roedd hi'n hollol amlwg fod y ddau mewn hwyliau ardderchog.

Tra bod Natalie yn mynychu dosbarthiadau meithrin mewn ysgol babyddol leol, mae Adam mewn ysgol breifat - yr ysgol orau ym Methlehem - ac yn cael addysg ardderchog, yn ôl ei fam.

Os oeddwn wedi dysgu rhywbeth yn yr ysgol y bore hwnnw, dyna ydoedd - fod John yn fachgen ardderchog.

Ceir disgrifiadau manwl yn adroddiadau swyddogol y cyfnod, a hefyd mewn llyfrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, megis llyfr ardderchog Robert Hughes the fatal shore, ac o diddordeb arbennig i ni'r Cymry astudiaeth fanwl Deirdre Beddoe o hynt a helynt y carcharorion benywaidd o Gymru, Welsh Convict Women, a llyfr Dr Lewis Lloyd, Australians from Wales.

Patrwm i'w efelychu Mawr obeithio y bydd yr wyth clwb arall yn yr Adran Gyntaf yn ceisio efelychu chwarae'r ddau hyn; cafwyd prawf anwadadwy ar Y No/ l brynhawn Sadwrn ei bod hi'n gwbl bosibl cael rygbi ardderchog pan fydd y chwaraewyr o dan y pwysedd trymaf.

Ond parhau y mae record ardderchog Y Barri yn erbyn Abertawe.

'Bachgen ardderchog oedd o, a'i enaid ar dân dros Gymru a'i phethau.'

Mae 'Gyda'r Nos Ar O^l Glaw' yn enghraifft ardderchog: yr awyr a'r tir, heb bobl nac adeilad yn y golwg, yn llawn symud ac awyrgylch; yr haul yn torri trwy dduwch cwmwl sydd fel talp o fynydd ar y gorwel.

Yr oedd yn geffyl mor ardderchog, a chithe yn dŵad am y tro cynta' hefyd.

Yn wir un o gryfderau mawr y llyfr yw'r iaith - mae'n batrwm ardderchog ar gyfer gwerslyfrau ar unrhyw destun.

Ond hynny fu raid, a phawb wedi cael noson ardderchog.

Llyfr i blant yw hwn ac mae cyfrolau o'i fath yn ffordd ardderchog o gyflwyno barddoniaeth i glustiau bychain, ifainc.

Cytunodd yr aelodau y byddai syniad o'r fath yn un ardderchog ac y dylid gwneud ymchwil pellach i'r ochr gyllidol.

Diolch i sgript ardderchog Jonathan Myerson ac animeiddwyr talentog yng Nghaerdydd, Llundain a Mosgo, rydyn ni wedi creu ffilm sydd nid yn unig yn llawn cywirdeb deallusol a safonau artistig uchel, ond sydd hefyd yn hwyl.

Tystiodd pawb ein bod wedi cael gwibdaith ardderchog er i'r niwl ein hamddifadu o olygfeydd hyfryd gwlad Llŷn.

Yn y gorffennol, roedd modd i bawb, o ba bynnag gefndir, fwynhau addysg gerddorol ardderchog wedi llwyddo mewn arholiadau mynediad.

Trwy'r rhestrau hyn, gosododd Dewi Mai o Feirion faes llafur ardderchog ar gyfer y gymdeithas newydd-anedig, a thrwy lunio'r braslun o reolau, fe orfododd aelodau'r gymdeithas i ystyried eu celfyddyd o ddifrif, gan lunio canllawiau diogel i'w harwain ymlaen i'r dyfodol.

Roedd Cwmglo, medden nhw, yn ddrama ardderchog o ran creffl ond yn ycha-fi yn foesol.

Ffrainc ydyr ffefrynnau newydd i ennill y gystadleuaeth ar ôl iddyn nhw chwaraen ardderchog a churo Denmarc 3 - 0 yng Ngrwp D. Yn yr un grwp, roedd y ffefrynnau cyn i'r gystadleuaeth ddechrau, Yr Iseldiroedd, yn ffodus o ennill 1 - 0 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

Tenor ardderchog oedd Ivor Thomas, ac rwy'n cofio ei glywed yn canu mewn cyngerdd a arferai fod yn rhan o Eisteddfod Mon, gyda Madam Rosina Buckman (a gafodd ei chladdu yn Sir Fon, lle mae Atomfa'r Wylfa, a lle y buont yn deud i rywrai clywed canu).

Penwythnos ardderchog.

Y maen ardderchog ar Llyfrgell Genedlaethol yn haeddu canmoliaeth am y gwaith.

Cafwyd datblygiadau ardderchog o ran safleoedd newyddion a safleoedd eraill arlein, ac mae'r safle unigryw BBC Cymru'r Byd yn darparu gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg ym mhedwar ban byd.

A hyn oll mewn Cymraeg ardderchog sy'n addysg ynddo'i hunan.

Daeth o'n ôl heno ac yn yr hanner cynta roedd o'n ardderchog.

Ar rwydwaith, o ganlyniad i gydweithrediad gyda chynhyrchydd annibynnol, ailgomisiynwyd y ddrama i blant, The Magicians House, a chafwyd arwyddion cadarnhaol yn Jack of Hearts a Dirty Work. Gwelwyd datblygiad ardderchog mewn genres eraill hefyd, gan gyflawnir nifer uchaf erioed o gomisiynau rhwydwaith ar gyfer radio a theledu ym 1999/2000.

Mae'r Coleg Digidol yn ddarpariaeth newydd a fydd yn cyfuno gwasanaethau, profiad a sgiliau addysgwyr, hyfforddwyr, byd busnes a diwydiant, S4C a BBC Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth "dysgu gydol-oes" ardderchog i wylwyr Cymru.

Wythnos cyn y gêm rown i ac Ann yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug yn gwylio drama ardderchog yn seiliedig ar waith Caradog Prichard 'Un Nos Ola Leuad'.

Daeth yn ginio a bwytaodd pawb yn ardderchog.

Ond ni waeth beth oedd: fe wnaeth bryd ardderchog.

Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent syn angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.

Canai geneth o Sir Fôn yn ardderchog; yr oedd yno lawer o ffoaduriaid o drefi mawr Lloegr, a chawsom lawer o hwyl.

Daeth taith hynod lwyddiannus Carfan Ddatblygu Cymru i ben yn Canada nos Sadwrn gyda buddugoliaeth ardderchog arall.

Cerddi ardderchog yn wir.

Mae'r llyfrau yma'n rhoi cyfle ardderchog i rieni a phlant rannu'r profiad o ddarllen straeon ac edrych ar y lluniau sy'n mynd efo'r stori, gydag un frawddeg fer, hawdd, ar dop y tudalen i'r plentyn ei darllen allan yn uchel, ac yna testun hirach ar waelod pob tudalen i'r rhiant ei darllen allan.

Mae gan BBC Cymru lawer o wneuthurwyr rhaglenni gwych ac mae'n rhaid i ni sicrhau y daw pobl eraill yr un mor ddawnus a chreadigol i ymuno â hwy i alluogi BBC Cymru i barhau i gynhyrchu rhaglenni ardderchog.

Ymhen dwy filltir a hanner mynd heibio i Dy'n-pant, cartref Evan Jones yr hynafiaethydd a roddodd gymaint o hanes yr ardaloedd hyn ar gof a chadw (Ceir casgliad ardderchog o'i lawysgrifau yn Amgueddfa Werin Cymru).

Edrychwch ymlaen at weld Dolur Gwddw - ep newydd Topper yn y siopau a gwnewch yn siwr eich bod yn cael copi achos y mae hi'n ardderchog.

mae'r Ffrancwyr yn bencampwyr y byd a mae ganddyn nhw chwaraewyr ardderchog o dda fel Zidane a Henry.

Wedyn cafwyd partneriaeth ardderchog Hussain a Thorpe.

Er hynny, yr oedd Gwybod yn arbrawf ardderchog ac yn gyfraniad gwerthfawr at lenyddiaeth addysgol plant y genhedlaeth honno.

Bachodd Rod ar ei gyfle gyda chwestiwn atodol yn gofyn pam, yn wyneb cyfleusterau ardderchog Ty Crughywel, bod angen adeilad newydd o gwbl?

Post o wenithfaen solet yn rhedeg uwy lechfaen da yw'r 'Negro' (y mae yno o hyd, ac yno y bydd bellach.) Dylesid fod wedi ei symud er dechrau'r ganrif gan iddo fod yn rhwystr i ddatblygu o leiaf bum ponc o lechfaen ardderchog, sef Califomia, Pen Diffwys, Ponc Mosys, New York a'r Bonc Fawr.

Mae'r Mwmbwls yn lle ardderchog i ddechrau casglu ffosiliau oherwydd fod cymaint ohonynt ar gael yn y creigiau.

A'r tro nesaf y teimlwch, wrth ddarllen Kate Roberts, fod tristwch ambell un o'i stori%au byrion yn anghydweddus â'ch tymherau ifainc nwyfus chi, cofiwch fod yr awdures ardderchog hon, pan oedd hi ymhell dros ei phedwarugain oed, hithau yn gallu dweud ar nos Sadwrn ei bod hi'n fed-up.

Fe'i bwriadwyd fel rhan o brosiect uchelgeisiol amlgyfrwng i gydredeg â'r gyfres deledu ardderchog 'Tocyn Diwrnod'.

Mae Lerpwl wedi cael ail hanner ardderchog i'r tymor a nhw sy wedi bod y tîm gore yn y cyfnod yna.

Cafwyd cychwyniad ardderchog gan blant Ysgol Sul Siloam, Cemlyn.

Ac yn y parodi hwn, fel yn y gerdd futholegol ardderchog 'Drudwy Branwen', 'sanctaidd epistol poen' sy'n cael ei ddarllen, ond trwy ddrych mewn dameg.

O'r herwydd, tybiai Saunders Lewis a Maurras, fel y gwna deallusion y Dde yn gyffredinol, mai gelynion Ffrainc a'r gwareiddiad Ewropeaidd oedd Voltaire, Rousseau a Diderot, yr hanesydd rhyddfrydig, Jules Michelet, a llenorion fel Victor Hugo, Emile Zola ac Anatole France; pob un, yn wir, o'r llu ardderchog o feirdd, llenorion, cerddorion, artistiaid ac athronwyr a gytunai â Gruffydd mai 'trefn cynnydd ydyw Gwrthryfel cynyddol yn erbyn awdurdod'.

Ond ar y cyfan roedd Abertawe'n gyffyrddus ar faes ardderchog Penydarren.

Cynhelir momentwm y broses ehangu dros y flwyddyn sydd i ddod, wrth i'r BBC baratoi i wynebu cystadleuaeth i gryfder ei arlwy arlein, parhau i fuddsoddi yn y dalent sy'n angenrheidiol i gynnal twf, ac atgoffa rhaglenni o'r cyfleoedd ardderchog a gynigir drwy gyfrwng arlein.

Nofel ardderchog am Sir Fôn acw.

Syniad ardderchog - dwi'n cytuno yn hollol, meddai un o aelodau Capel y Graig.

Ac y mae llond llwy neu ddwy ohono, meddai, mewn ychydig ddwr cynnes, yn ardderchog at wendid y nerfau.

Aberglasney: A Garden Lost in Time - William Wilkins Gwelwyd ffrwyth y ddaear o wahanol fath yn Aberglasney: A Garden Lost in Time, cyfres ardderchog a baratowyd yn wreiddiol ar gyfer BBC Cymru a ddangoswyd hefyd ar y rhwydwaith.

Cawsom ginio ardderchog er gwaethaf y prinder a daeth un o arbenigwyr yr ysbyty, Mr OV Jones, i dorri'r twrci ymhob ward.

Yn dilyn perfformiad ardderchog yng Nghyngerdd y Mileniwm II mae Topper yn rhyddhau ep newydd, Dolur Gwddw.

Lliniarwyd y siom gan y swper ardderchog a'r sgwrs anfarwol a gefais gydag ER Yn ei

Lle ardderchog am yr annisgwyl yw cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd.

Roedd y wledd yn un ardderchog.