Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arddull

arddull

Os yw anghyfarwyddo a dieithro yn rhan o arddull Robin Llywelyn ni ddylai hynny fod yn esgus pam y mae'r un sy'n dehongli ei waith yn gwneud hynny hefyd.

Yr unpurdeb iaith ac arddull sydd yn ei delynegion.

Yn wir, arddull rydd, fras iawn sydd i'w gweld yn y gwaith er ei bod yn arddull sydd yn medru amrywio o ddarlun i ddarlun yn ôl fel y bo'r galw.

Bydd hyn yn gosod yr arddull yn y ddewislen Style.

Amrywiant yn fawr o ran arddull a chynnwys.

Bron nad yw hi'n atgoffa rhywun o arddull Gwerinos neu Jac-y-Do ond, er hynny, mae llais Rhodri Vine fymryn yn aneglur ar y trac hwn ac efallai mai gormod o gerddoriaeth gefndirol sydd yn gyfrifol am hynny.

Mae'r gerddoriaeth yn nodweddiadol o arddull y grwp ac yn sicr yn gan i godi'ch calon.

Mae'n awgrymu mai gwadu'r gwirionedd fyddai sgrifennu am y bobol ifanc mewn unrhyw arddull arall, yn union fel y byddai ' n gwadu ' r gwirionedd i osgoi ' r rhegfeydd a'r rhyw.

Cafodd Zoff ei feirniadun llym am arddull amddiffynnol ei dîm yng Nghystadleuaeth Euro 2000 gan y gwleidydd a pherchennig AC Milan, Silvio Berlusconi.

Cawn Kate Roberts, yn ei beirniadaeth, yn eu rhybuddio i gofio y gallai gormod ohonynt dagu'r arddull a rhwystro'r darllenydd rhag

Gwedda arddull teledu'r cyfnod - arddull fwy theatraidd a mwy cyfyng i'r elfennau hynny o'r ddrama sydd yn chwarae gemau theatrig di-gynulleidfa mewn twll bychan ynysig.

Amddiffynodd Hughes ei arddull cyn i'r cyhuddiad gael ei wneud ar bapur, beth bynnag: "...nerth ac anwadalwch, a dyfnder yr argyhoeddiad ar fy meddwl fy mod yn amddiffyn y gwirionedd, yn unig a bair i mi lefaru gydag eofndra a hyder, a lle y tybiaf bod genyf y gwir, yn y peth y mae y rhai a hoffaf wedi methu ei ganfod, cydnabyddaf y rhodd, a gostyngedig ddiolchgarwch a gau allan ymffrost", meddai.

Er ei bod hi'n anodd egluro pam, mae'r gân hon yn atgoffa rhywun o arddull Doves – grwp poblogaidd iawn yn ystod y flwyddyn 2000 – ac mae hi'n eithaf gwahanol i'r hyn sydd wedi cael ei rhyddhau gan Zabrinski yn y gorffennol.

Efallai y byddai yn rhagorach cyfrol o fod wedi closio at arddull y nofel, dyweder.

Mae'r arddull yn fwriadol 'fodernaidd', ac yn chwithig ac yn gwirclyd iawn ar brydiau.

Ceir yma arddull wahanol i Carreg, gan fod y penillion yn weddol acwstig eu naws, ac yn sicr mae llais Mei yn gweddu'r math yma o gerddoriaeth yn well.

Mae'r arddull yn unigryw o fewn y sîn yng Nghymru ac yn torri'n rhydd o'r drefn arferol a'r swn indie mae llawer o grwpiau yn ei ddefnyddio.

Effeithiai hyn yn drwm ar arddull a chynnwys y pregethu.

Gan hynoted oedd ei oslef a chan mor arbennig oedd ei arddull, ac, ar un adeg, gan mor unffurf oedd ei wisg - crys coch a siwmper goch (ni hoffai siwt) - a chan ei fod mor gaeth i'w bibell a'i sbectol, yr oedd yn wrthrych parod i'r parodi%wr, er gofid mawr i'w fam, ac, weithiau, iddo ef ei hun.

Nid oes dim mursendod hynafiaeth yn ei iaith na'i arddull, ond mynegiant syml-goeth gŵr diwylliedig.

Gwelodd fod yr epigram Groeg yn ymddangos yn debyg i'r englyn Cymraeg mewn sawl ffordd - o ran ei arddull, ei fyrder a'i addasrwydd at wahanol destunau a swyddogaethau llenyddol a chymdeithasol, a hyd yn oed o ran mesur.

Ar un wedd y mae hon yn rhoi camargraff inni, am ei bod yn llawer mwy personol na chrynswth gwaith y clerwr, ond eto i gyd y mae'n gwbl nodweddiadol o'i waith o ran ei hanfod, am fod tynerwch dynol o fewn y teulu yn wedd ar fywyd a bwysleisir yn arbennig yn ei gerddi mawl, ac am fod ei arddull seml ar ei mwyaf effeithiol yma yn cyfleu argraff o deimlad dwfn a diffuant.

Cynnwys lu mawr o gerddi rhagorol a erys yn eu blas tra pery'r iaith ac nid y rhan lleiaf pwysig o'r gyfrol, o ran glendid arddull a graenusrwydd cynnwys, yw'r Rhagymadrodd.

Daeth pregethu'n fwy angerddol, yn anelu'n uniongyrchol at gau pobl ym mwlch yr argyhoeddiad, yn llai ffurfiol ei arddull.

Aeth torfeydd â phicnic i'r parc gan fwynhau rhaglen drawiadol o'r un arddull a'r ‘Last Night' gan Gerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC a gwesteion arbennig gan gynnwys y cantorion rhyngwladol Cymreig Rebecca Evans a Jason Howard - cyn mynd yn fyw i gyswllt â'r dathliadau yn Neuadd Albert.

Gellid dadlau nad oes disgwyl i grwp llwyddiannus newid arddull yn ormodol ond, wedi dweud hynny, mae rhywun yn chwilio am arbrofi o rhyw fath.

Defnyddia arddull fywiog a deialog fyrlymus i adrodd yr hanes gan fodloni ar awgrym gynnil yn unig ar adegau.

Profodd Gang Bangor hefyd yn ychwanegiad poblogaidd i arlwy rheolaidd Radio Cymru, a denwyd cynulleidfa deyrngar gan ei arddull fywiog.

Cefais fy synnu'n arw gan arddull amrwd ac anaeddfed llawer o'r hysbysebion, ar y radio'n arbennig.

Writer yn enghraifft nodweddiadol o arddull ysgafnach Stereophonics.

Chwery arddull y ddrama ran bwysig yn ei llwyddiant.

Arddull.

"Mae yna lot o bethe r'yn ni'n gallu uniaethu 'da," meddai un arall o'r cymeriadau canolog, Dafydd Huws, sy'n arwain eisteddfod yn arddull gemau teledu.

CYHOEDDI PAPURAU NEWYDD YNG NGHYMRU gan Beti Jones: Menter gwbl wirfoddol yw pob papur bro, ac amrywiant dipyn o ran maint, arddull a fformat.

Hwyrach fod yna well ffyrdd o fynegi'r uchod ond, yn anffodus, er mor ddeniadol y mae'r 'Drydedd Theori' yn swnio mewn crynodeb, yr un yw arddull gweddill 'Y Llyfr Gwyrdd'.

Nid yw arddull stiwdio y cyfnod a chyfyngder y set yn caniatau i hyn ddod trosodd mor glir.

Mae Sheika wedi ennill ugain o'i 21 gornest ond gydai arddull ymosodol fe fydd yn siwtio Calzaghe yn well na steil negyddol Rick Thornbury a David Starry.

Amlygwyd arddull newydd wahanol o bensaerniaeth ac o gerflunio yn nhemlau a phlasau Angkor.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Annheg, efallai, yw eu cymharu ag arddull y Divine Comedy ond y mae yna debygrwydd yn y math o swn sy'n cael ei gynhyrchu.

Yma cawn brawf o'i ddawn i ddisgrifio ac esbonio Hanes i blant, mewn arddull syml a chyhyrog.

Er mwyn sicrhau hyn, bu'n rhaid iddi meddai, 'adael allan addurniadau arddull yn aml iawn.'

Ond pa arddull bynnag fydd ganddo y mae un peth yn sicr - bydd ei ddiddordeb mewn adeiladau yn parhau.

Amlygir hyn yn y llun Y Chwarel lle mae'r arddull rydd i'w gweled yn effeithiol yn y ffordd y mae'r adeiladau yn toddi yn un i'w hamgylchfyd.

Hoffwn ei arddull gartrefol, ac aeth i drafferth i ysgrifennu nodiadau ar bapur i mi.

Pan oeddwn yn fyfyriwr treuliwn oriau meithion yn gwylio Morgannwg yn chwarae ar Faes Sain Helen, Abertawe, a chan mai batiwrwicedwr digon trwsgl oeddwn i y pryd hwnnw arferwn ganolbwyntio fy sylw ar arddull David Evans a'i gymharu â wicedwyr dawnus eraill.

Yn y cyfamser bu'n frenin llwyfan yr Eisteddfod, a chafodd gyfle o flwyddyn i flwyddyn i gadw'n gyson o flaen llygaid y beirdd bwysigrwydd pethau cyntaf eu crefft - urddas arddull, glendid ymadrodd, a phurdeb iaith.

'Prudd-chwarae' neu drasiedi yw hi, mewn arddull ramantaidd, a chymeriadau megis Gwrtheyrn a Rhonwen.

Hoffai weiddi o bennau'r tai, meddai, 'mai anaml y cyferfydd y ddwy ddawn yn yr un person.' Mewn nofel, fel gyda'r stori fer, credai Kate Roberts mai rhywbeth a ofalai amdano'i hun oedd techneg, cyn belled â bod gan yr awdur rywbeth i'w ddweud, er iddi fynnu nad oedd hynny'n caniata/ u blerwch arddull.

Oherwydd nid digon astudio arddull ac ystumiau a llais areithydd.

Er bod yr arddull yn weddol debyg, ar strwythur dal yn adnabyddus fel Slip, mae gallur grwp i ychwanegu chydig o bop i fewn i'r caneuon wedi gwneud gwahaniaeth gwerthfawr.

Arddull fwiog

Aeth torfeydd â phicnic i'r parc gan fwynhau rhaglen drawiadol o'r un arddull ar Last Night gan Gerddorfa a Chorws Genedlaethol Gymreig y BBC a gwesteion arbennig gan gynnwys y cantorion rhyngwladol Cymreig Rebecca Evans a Jason Howard - cyn mynd yn fyw i gyswllt âr dathliadau yn Neuadd Albert.

Eithriad yn ei waith yw'r darlun dyfrliw o Borth Padrig lle mae dylanwad arddull bosteraidd y dauddegau yn rhoi inni gynllun cryf sy'n drwm gan flas cyfnod.

Y mae tystiolaeth naws, tymer ac arddull y Seren Ogleddol, yr un mor bwysig.

Ond pwysicach na'i arddull na'i ffydd yn y werin oedd naws neu dymer ei ysgrifeniadau.

Ac fel rhan o'n defnydd parhaol o sêr radio ar deledu cyflwynwyd Frank Hennessy mewn arddull AmeriCelt yn y rhaglen ddifyr Way Out West.

Daw bywiogrwydd arddull Youenn Drezen a'i glust am ddeialog i'r amlwg eto yn ei ddramâu byrion, a gyhoeddwyd dan y teitl Youenn Vras hag eu Leue (Owain Fawr a'i Lo).POT-POURRI - Herbert Hughes

A fyddwn yn cydweld a chroesawu rhai o'r safbwyntiau, sy'n beth arall ond mae'n sicr yn ddifyr darllen amdanyn nhw er bod y gyfrol yn aml yn rhy agos at yr ‘adroddiad swyddogol' o ran arddull.

Anghytunai Islwyn Ffowc Elis â'r rhai a fu'n canmol arddull Kate Roberts, am na wyddent beth arall i'w ddweud am ei gwaith:

Wrth ddarllen Ystorya Trystan yr argraff a gawn yw fod yma ddeunydd brodorol, wedi ei gyflwyno mewn mewn cywair ac arddull hollol Gymreig.

Mae yna gryn dipyn o wahaniaeth rhwng arddull Chouchen ac arddull y Tystion wrth gwrs, a chwyn sawl un am Steffan Cravos a'i fêts yw nad oes modd cyd-ganu gyda nhw a'u bod yn rhy swynllyd o lawer.

Testunau ac arddull O.

O leiaf ar rai adegau yn eu hanes, bu'n rhaid i'r Saeson fynd at lenyddiathau estron, ac yn arbennig at y clasuron, er mwyn cael syniadau o ffurf, mesur, arddull a phriodoldeb mewn barddoniaeth.

Yn sicr, mae'r harmoneiddio a geir ynddi yn adlewyrchu arddull Steve Tyler a'r criw, sydd unwaith eto yn arwydd o ddylanwad yr Unol Daleithiau ar gerddoriaeth Stereophonics.

Arddull ystwyth yw yn anad dim a'i hystwythder yn galluogi'r awdur i ddangos profiad dyn fel symudiad parhaus, rhwng elfennau sydd yn parhaol ymdorri ac yn cyd-wau.

Yn y blwch trafod teipiwch enw'r arddull yn y blwch Name ac yna dewiswch y nodweddion arddull (arddull, y ffont, a'r maint etc ) y mae arnoch eu heisiau ac yna clicio Add a Done.