Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arfaethedig

arfaethedig

Cyhoeddodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ddatganiadau ar y Ddeddf Elusennau, Y Ddeddf Iaith a'r loteri genedlaethol arfaethedig.

Yn codi o'r Confodion cytunwyd bod llawer iawn o waith trefnu a thrafod ynglyn a'r datblygiadau arfaethedig sy'n gysylltiedig a'r hen waith brics a'r ymestyniad o'r llwybr ar hyd Afon Wygyr.

GWERTHUSO: Tuedda buddiannau adennill tir i or-bwyso'n erbyn y costau, yn amodol ar gorffori materion yr amgylchedd yn ystod y cyfnod o ddylunio a chynllunio, yn hytrach na meddwl amdanynt fel elfen atodol i'w chyplysu ar y diwedd, ac yn amodol hefyd ar werthuso effaith yr holl waith arfaethedig ar yr amgylchedd, a phwyso honno'n erbyn y defnydd terfynol arfaethedig cyn cychwyn, neu hyd yn oed gynllunio, unrhyw waith.

Cyngor y Ddinas sydd berchen yr adeilad ond ymddengys bellach nad ydynt yn fodlon efo'r cynlluniau arfaethedig.

Mabwysiadu a glynu wrth gôd ymarfer da arfaethedig yr Adran ar yr amgylchedd.

Bydd Ysgrifennydd y Sir yn trefnu i hysbysebu'r gorchymyn arfaethedig a byddai'n ddiolchgar o dderbyn sylwadau gan y Cyngor hwn.

(c) Ardaloedd Menter Arfaethedig yn Nwyfor - Y Trefniadau Cynllunio CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Gwnaed hynny cyn setlo'n derfynol beth fyddai galluoedd y Senedd arfaethedig.

Effaith hyn fydd ehangu a dyfnhau ei swyddogaeth gysylltiol, fel y llunnir adroddiad blynyddol sy'n dangos y modd y dyrennir cyllid, i wahanol swyddogaethau'r Grwp, fel y gall asesu'r pwysigrwydd a roddir i faterion yr amgylchedd, mewn perthynas â galw parhaus cymdeithas am fwynau, a mabwysiadu côd arfaethedig yr Adran ar ymarfer da.

Tynnodd y milwr ei fapiau allan ac egluro'r cynllun arfaethedig i'r dynion o'i amgylch.

Mabwysiadu'r côd ymarfer adrannol arfaethedig ar yr amgylchedd.

Y llynedd cefais innau flwyddyn Sabothol, a threuliais hi yn dechrau darllen ar gyfer astudiaeth arfaethedig o ddylanwad y Beibl ar lenyddiaeth Gymraeg y canrifoedd modern.

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw wedi agor unwaith eto ar ôl y cyfnod byr o seibiant dros fisoedd y Gaeaf, ac mae'r paratoadau a'r rhaglen arfaethedig yn swnio yn ddiddorol ac yn amrywiol iawn.

Bydd enillwyr y cynghrair arfaethedig - a phencampwyr Cymru felly - yn gymwys i gynrychioli ein gwlad ym mhrif gystadleuaeth pêl-droed y cyfandir, sef Cwpan Ewrop.

Fodd bynnag, am nifer o resymau, mae'n anhebyg y bydd nifer o'r cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni cyn yr ad-drefnu llywodraeth leol arfaethedig.

Yng ngolwg yr ad-drefnu llywodraeth lleol arfaethedig gallai'r cyfarfodydd hyn ddatblygu i fod yn ffora i weithio gyda'r unedau newydd.