Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arfordir

arfordir

Y bore wedyn roedd Merêd yn awyddus i fynd i grwydro naill ai ar hyd yr arfordir i gyfeiriad An Spideal neu i fyny'r dyffryn i gyrion Loch Coirib er mwyn cael mwynhau'r golygfeydd a'r tawelwch digymar; ond mynnodd Dilys gysgu ymlaen ar ôl cyfeddach y noson cynt.

Ar yr un pryd, mae nifer o'i luniau wedi'u hysbrydoli gan lefydd lle nad yw ôl dyn mor amlwg, y rhan fwyaf o'r rheiny eto yng Ngogledd a De Cymru, yn arfordir a mynydd-dir.

Pan ymwelodd y ddirprwyaeth gyntaf â Nicaragua ym 1994, roedd sôn am sefydlu Prifysgol yn Bluefields, ar arfordir yr Atlantig.

Oherwydd cyflwr bregus y llongau a pheryglon y môr o gwmpas arfordir Gogledd Cymru, enillodd morwyr yr ardal barch ac enw da fel rhai medrus a meistrolgar wrth eu gwaith.

Codwyd dwy fil o bunnau mewn cyfraniadau, a'r bwriad yw gofyn i Lys-gennad Prydain yn Nicaragua i ddyblu'r swm ar gyfer prosiectau ar yr arfordir.

Cawsom ginio yn Amlwch ac wrth gychwyn oddi yno am Gaergybi gwelsom un o longau cwmni y Blue Funnel yn hwylio'n weddol agos i'r arfordir, ac 'roedd gwledd arall yn ein haros yng Nghaergybi, sef cael mynd ar fwrdd y llong Cambria.

Gwneir rhan fwyaf o'i gwaith yn y Môr Gwyddelig ac i'r Gorllewin o'r Alban, a gellir ei gweld yn aml o arfordir y Gogledd a Bae Ceredigion.

Roedd y tri swyddog wedi cael eu codi dridiau wedi iddynt ddianc ac wedi eu danfon i wersyll ar yr arfordir.

'Roedd Strategaeth Canolbarth Cymru a Grŵp Adeiledd Arfordir y Cambrian wedi datgan fod y swydd yn holl bwysig er mwyn datblygu ac hyrwyddo teithio ar reilffyrdd gwledig.

Gall yr hin fod yn wahanol iawn ar yr arfordir i beth ydyw yn y mewndir.

(b) Papur Ymgynghorol y Llywodraeth ar yr Arfordir (i) Rheolaeth Datblygu Islaw'r Llinell Drai (ii) Rheoli'r Arfordir CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Enlli yw'r ynys swynol ger arfordir Gogledd Cymru sydd wedi bod yn hudo ymwelwyr ers miloedd o flynyddoedd.

Daeth diwedd y rhyfel heb i Hadad wybod dim am y peth oherwydd fe barhaodd gwrthryfel y Senwsi nes daeth rhyfel byd arall i wthio'r Eidalwyr o'r arfordir ac o'r oasisau yr oeddynt wedi eu meddiannu.

Cafodd y deunydd ei ddarganfod o dan ran o Barc Arfordir y Mileniwm, hen safle Pwerdy Bae Caerfyrddin.

Felly dydi hi ddim yn syndod o gwbwl fod y mwafrif o'r baeddod yn byw ar ynys Morko oherwydd y ffaith syml fod yma goedwigoedd yn llawn o goed derw sy'n rhoi digonedd o fes i'r baeddod, ond hefyd fod yr arfordir yn lle da i'r anifeiliaid hyn ddod o hyd i bryd o fwyd ymysg yr hesg yno a hefyd wrth ddwyn wyau adar gwylltion sy'n nythu yn llu wrth ochr y mor.

Mae Cyfreithiwr y Cyngor wedi cysylltu â chynghorau eraill ar yr arfordir, ac mae'r Aelod Seneddol yn gefnogol i gael deddfwriaeth.

A'i lais yn fflat a diemosiwn, canolbwyntiai ar geisio cadw'r car rhag gwyro oddi ar ffordd gul, droellog ar hyd yr arfordir a disgyn dros y clogwyn serth i'r môr.

Cyfeiria'r enw bron yn sicr at gilfachau ar yr arfordir.

Ei gyrru'n gynddeiriog a wnâi trwy rincian am ei wreiddiau a'i ddyletswydd o a hithau i wrthsefyll pobl ddwad yn mynnu eu hawliau a chodi eu lleisiau hyd yr arfordir.

Go brin bod angen eich diflasu chi â manylion am y daith bum awr ond wedi cyrraedd arfordir y gogledd dyma ddechrau pryderu tipyn bach.

Ceir amrywiaeth o iseldir yng Nghymru hefyd, gan gynnwys tiroedd yr arfordir, dyffrynoedd a'r gororau.

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

Ni fu unrhyw niwed i'r planhigion laswellt er y driniaeth gynnar yma, ond teg ychwanegu hefyd na fu rhew yn fy ardal i ar ochr orllewiol penrhyn Llþn, ac ar yr arfordir, eleni.

Arhosodd Llanaelhaearn yn ardal amaethyddol wasgarog hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf pryd y trawsffurfiwyd y cylch yn llwyr gan ddyfodiad y chwareli ithfaen ar hyd yr arfordir.

(i) Gofyn i bencadlys y Rheilffyrdd Prydeinig a oedd y Rheolwr Rhanbarthol yn ymwybodol o'r bwriadau i gau rhai o'r gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a phaham na chyflwynwyd y mater i ystyriaeth y Pwyllgor Cyswllt.

Cafodd y tir ble'r oedd yr asbestos wedi ei adael ei adfer i ffurfio Parc Arfordir y Mileniwm.

Weithiau daeth y diwedd o fewn oriau iddynt ffarwelio a'u cyfeillion, megis a ddigwyddodd ddwy flynedd yn ddiweddarach yn hanes y Tayleur a hyrddiwyd ar greigiau Ynys Lambay ger arfordir Iwerddon tua diwrnod ar ol gadael Lerpwl.

Roedden nhw i gyd yng ngwch hwylio'r teulu, gerllaw arfordir Norwy.

Arfordir rhyfeddol o brydferth - rhes o gilfachau'n ymwthio i ystlys y tir sych, a'r ffordd yn ymdroelli gannoedd o droedfeddi uwchlaw iddynt.

Mi gafodd y pedwar eu hachub oddi ar arfordir Penfro ac aed â nhw i Ysbyty Achub Bywyd Gwyllt y Môr yn Aberdaugleddau.

Mae hi yn ei helfen yn nofio tanddþr, gan blymio i'r dyfnderoedd mor aml â phosibl oddi ar arfordir Ynys Môn.

Ar hyd arfordir gogleddol yr ynys ceir cipolwg ar hanes amaethyddol pwysig Ynys Môn, gyda hwyliau Melin Llynnon yn llywodraethu dros Landdeusant ac yn parhau i droi hyd heddiw.

Rhodri ddaru drugarhau wrthi meddai ef, a'i thynnu o gehena arfordir Clwyd i weddustra a gwareidd-dra Gartharmon.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Er enghraifft pan oedd ef mewn cyfyng gyngor, "Ai gwell cysgodi?" Hynny cyn amser radio, wrth gwrs, i roi rhagolygon y tywydd a rhybudd o storm ar yr arfordir.

(ch)Rheilffordd y Cambrian CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar erthyglau a ymddangosodd yn y wasg yn ddiweddar ynglŷn â bwriad y Rheilffyrdd Prydeinig i gau rhai gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian.

Yn y gyfres, Beth yw gohebydd arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau.

Bydd llwydrew a barrug yn dew iawn hyd at yr arfordir gyda'r tymhereddd cyn ised a dau, neu hyd yn oed dri, gradd o dan bwynt rhewi mewn ardaloedd cysgodol.

Aeth y daith forwrol hon â hwy o'r moroedd oer oddi ar arfordir Gogledd Cymru i ddyfroedd disglair Cefnfor India.

yr oedd yr arfordir ddwyreiniol yn frith o fân gwmni%au telegraff, i gyd yn defnyddio peiriannau morse.

Mae rhan helaeth o'r adar fydd yn y wlad yma yn anelu am arfordir gorllewinol Ffrainc, ac yna yn teithio i lawr trwy Sbaen ac i ogledd Affrica cyn wynebu'r daith ofnadwy ar draws diffeithwch y Sahara.

Cemais I mi, pentref glan mor ar arfordir gogleddol Mon yw Cemais, ond y mae'r enw hwn hefyd yn digwydd mewn nifer o fannau eraill yng Nghymru ar yr arfordir ac ar lawr gwlad o Feirionydd i Drefaldwyn ac o Benfro i Fynwy.

Ddwy flynedd yn ôl, cafwyd cyfraniad gan y Llys-gennad i helpu gyda'r cynllun i gynhyrchu llyfr o chwedlau i blant yr arfordir, a dosbarthwyd copïau i'r Cymry.

Nid nepell o'r fan hon ar hyd yr arfordir y mae safle'r ymosodiad olaf a wnaed gan lu tramor ar dir y Deyrnas Unedig.

Treuliwyd wythnos ar arfordir yr Atlantig, lle buont yn ymweld â chymunedau diarffordd iawn.

Ar hyn o bryd mae contractwyr Awdurdod Parc yr Arfordir yn delio âr broblem.

Adeiladodd Clough Williams-Ellis bentref Portmeirion o 1925 i 1975 ar ei benrhyn preifat ar arfordir Eryri.

Agor Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg 185 milltir o Lanrhath i Aberteifi.

Mae'n anodd credu'r peth, ond ychydig dros ganrif yn ôl roedd porthladdoedd Ynys Môn a Gogledd Cymru yn gartref i gymaint o longau â holl borthladdoedd arfordir deheuol Lloegr.

Hi, yw un o'r ynysoedd mwyaf oddi ar arfordir Cymru.

Bu'n gydymaith cyson i Owain yn ei gyrch i gipio Castell Mortagne ar arfordir Ffrainc.

Pan ddigwydd Cemais yn enw lle ar neu ger yr arfordir, yna cyfeiria at gilfachau ar yr arfordir.