Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arglwyddiaeth

arglwyddiaeth

Ar ol gorchfygu rhannau helaeth o dde Cymru yn yr unfed ganrif ar ddeg a'r ddeuddegfed ganrif lluniodd y Normaniaid arglwyddiaeth o Frycheiniog a'i galw'n Brecknock, eu ffordd hwy o geisio ysgrifennu ac ynganu'r ynganiad lleol Cymraeg ar yr enw - Brechenog.

Mae deunydd pennod gyfan yma - Pen-arglwyddiaeth Duw, Ei ewyllys i ni ddyfod i edifeirwch, i ni gael ein sancteiddio, i ni ddwyn tystiolaeth i'w enw etc.

Aberhonddu oedd prif ganolfan yr arglwyddiaeth Normanaidd ac adeiladodd y Normaniaid gastell cryf yno.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.