Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argyfwng

argyfwng

Yn wyneb argyfwng dybryd, anogodd yr Ysgrifennydd Cartref, sef Winston Churchill, bob Prif Gwnstabl i ricriwtio aelodau newydd i'r Polîs Arbennig - '...' lle byddai hynny'n bosibl.

Calondid oedd clywed fod Cyngor Sir Gwynedd wedi dod i'r adwy mewn awr o argyfwng i gynghori'r Swyddfa Gymreig.

Mae sylweddoli mai dyma'r cefndir yn help i werthfawrogi pam y mae symudiad ychydig o bobl ddi-Gymraeg i ardaloedd Cymraeg yn creu argyfwng.

Dim ond un agwedd o'r dirywiad yng Nghymru yw argyfwng yr iaith.

Hoffwn yn arbennig gyfeirio at yr hyn a ddywed yr Athro ar ddechrau ei lith, gan y teimlaf fod ei eiriau'n berthnasol iawn i argyfwng yr iaith heddiw.

Dyma ddelwedd o amhosibilrwydd dysgu, anobaith athro, argyfwng addysg.

Yn wyneb y posibilrwydd o argyfwng o'r fath rhaid sicrhau digon wrth gefn ymlaen llaw.

Ond o groniclo ei hanes yn ystod y cyfnod hwnnw fe geir mai'r hyn sydd bwysicaf yw, nid ei dylanwad politicaidd cyffredinol (oblegid bychan ydoedd) ond twf ei syniadau a'r modd y ceisiodd ei harweinwyr lunio a diffinio safbwynt ac agwedd Gymreig tuag at argyfwng y dydd.

Ni fydd cyfnodau o orffwys rhwng dau gyfnod gwaith ar yr un ymrwymiad yn llai na deuddeng awr fel arfer, heblaw am achosion o argyfwng fyddai'n atal cwblhau'r gwaith a rhoddir ystyriaeth lawn i'r pwysau gormodol a allai fod ar yr Artist o ganlyniad i gwtogi ar y cyfnod gorffwys.

Ac os ydyw heddiw mewn rhai ardaloedd yn wynebu argyfwng, ym mha fodd y gellid cynllunio dyfodol sicrach iddi?

'Chewch chi fawr ohono yn Arfon Kate Roberts a thuedda i deneuo argyfwng gwirionedd y gweithwyr di-waith yn nofelau T.

Heb fanylu gormod, 'roedd wedi ymddwyn mewn ffordd anwadal iawn tuag at yr Aifft, a'r gwledydd hynny a oedd â diddordeb arbennig ganddynt yng Nghamlas Suez, yn ystod y pedwar mis cyn yr argyfwng.

Maldwyn Evans, golygydd Y Llan, ar ddechrau'r Rhyfel y byddai'r argyfwng a wynebodd y wlad yn gyfrwng i ddod â'r bobloedd i'w coed, yn ysgogiad iddynt droi, o ddifrif calon, at bethau dyfnaf bywyd.

Daeth yn argyfwng ar ôl is-etholiad Trefaldwyn a oedd yn un ardd i'r Blaid, mewn sir lle y mesurir cyfnewidiadau mewn ysbaid o amryw o genedlaethau.

Yn ystod ei anerchiad yn oedfa sefydlu Curig dywedodd yr Athro J.Oliver Stephens wrtho, "Yr ydych yn dechrau eich gwaith mewn argyfwng mawr, a diau y penderfynir eich gwasanaeth i raddau helaeth ganddo." A gwir a ddywedodd.

Argyfwng Vietnam yn dwysáu wedi ymosodiad gan Ogledd Vietnam ar un o longau'r Unol Daleithiau.

Mae'r argyfwng yn parhau ac mae 'na anobaith ymysg yr if anc ynglŷn â'r dyfodol.

Gwelwyd hyn yn neilltuol yng Ngweithgor y Genhadaeth Gartref yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd yr oedd ceisio ymateb yn greadigol i'r argyfwng ysbrydol yn yr eglwysi a'r wlad yn fater agos iawn at ei galon.

Cred y Gymdeithas y gall pob damwain yn y gwaith gael ei hosgoi a bydd amgylchiadau unrhyw ddamwain, boed honno yn un a arweiniodd at niwed neu beidio, yn cael eu harchwilio a lle bo modd, cymerir camau gan y rheolwyr i leihau'r posibilrwydd o ddamwain debyg yn ailddigwydd, (a gweler Trefniadau Argyfwng).

Achosir yr argyfwng sy'n poeni'r genedl gan bwysau gwleidyddol; felly y mae'n rhaid ei ddatrys yn wleidyddol.

Pan sefydlwyd y gwersyll dair blynedd yn ôl, y bwriad oedd ei drosglwyddo i ofal y bobl leol, ond mae'r argyfwng eleni wedi newid y sefyllfa.

Awgryma mai dyma'r prif argyfwng yng ngweinidogaeth Iesu.

Gyda diboblogi a'r argyfwng economaidd yng nghefn gwlad, prinhau mae'r adeiladau yma.

A Light on the Hill - Helen Griffin a Nia Roberts Gyda'r actores Nia Roberts, a gafodd ei henwebu am Oscar, ymdriniodd Bogdanov ag argyfwng Cymru wledig mewn modd sensitif.

Dyma oedd nod y cyfarfod - cyfle i leisio'n pryder am yr argyfwng sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru, a chyfle i bwyso ar y Cynulliad i ddangos arweiniad yn y maes. Y sefyllfa bresennol

Pryddest yn ymateb i'r byd pop Cymraeg ac i argyfwng yr iaith oedd hon.

Mi fyddai'r milwyr yn cael eu defnyddio mewn cyfnod o argyfwng.

Mae'r gerdd yn trafod argyfwng ysbrydol Cymru mewn cyfnod o anwareidd-dra ac yn mynegi pryder am ddyfodol y wlad o ganol y Rhyfel.

Nid dibristod o'r sylfeini syniadol sy'n peri bod gwleidyddion yr argyfwng yn sôn mor ychydig am eu hathroniaeth.

Dyma grynodeb meistraidd William Roberts o'r argyfwng: ...

Argyfwng Ciwba wrth i Rwsia geisio mynd ag arfau niwcliar i'r ynys.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Argyfwng Ciwba wrth i Rwsia geisio mynd ag arfau niwcliar i'r ynys.

Yr enwocaf o'r criw llafar hwn, yn y cyswllt presennol, oedd y Parchedig Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar, prif ladmerydd y Cymry yn ystod 'argyfwng' y Llyfrau Gleision.

Fe ellid dadlau, wrth gwrs, nad oes unrhyw gysylltiad rhwng moderniaeth Cymru a'r modernismo y bu+m yn ceisio olrhain rhai o'i deithi, ac a oedd yn fynegiant pwysig o'r 'argyfwng byd-lydan' y cyfeiriodd Onis ato.

Mae'r clwb mewn argyfwng ariannol a chynhelir cyfarfod yr wythnos nesaf yn wyneb sefyllfa sy'n gwaethygu'n ddyddiol.

Mae'r ffaith fod ein cymdeithas wedi bod yn araf i gydnabod argyfwng yn gysylltiedig â gofal plant ac mor amharod i wrando ar eu lleisiau yn dweud nad ydym wedi dod i oed fel cymdeithas.

Nid dibwys mo'r meddwl politicaidd iddynt, ond geilw argyfwng eu cyfnod am ymgyrchu a brwydro, yn bennaf peth.

ARGYFWNG!

Fodd bynnag, mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg a'n cymunedau ar drothwy'r Mileniwm nesaf yn un dwfn yn sgil gostyngiad parhaus yng nghanran siaradwyr Cymraeg ein cymunedau.

Cyfarfu'r Pwyllgor Streic hefyd, yn Ysgol y Gweithfeydd Copr, i drafod yr argyfwng a'u hwynebai hwythau, gan nad oedd mwyafrif o'r picedwyr yn cydnabod awdurdod y Pwyllgor bellach.

Trown felly at y sefyllfa bresennol, argyfwng yr iaith yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Roedd Helen Mary Jones am sicrwydd - yn Saesneg - y byddai lefel bresennol y gwasanaethau yn adran ddamweiniau ac argyfwng Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, yn parhau.

Os na ellir ailgartrefu menywod, a'r llochesi'n llawn; bydd menywod yn aros yno am fisoedd, ac ni ellir helpu menywod ag arnynt angen y gwasanaeth argyfwng dros-dro y carem allu ei gynnig.

Y gair a ddefnyddiwyd amlaf i ddisgrifio cyflwr crefydd yng Nghymru ym mlynyddoedd yr Ail Ryfel Byd oedd 'argyfwng'.

Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.

Y mae'r glowr mewn llenyddiaeth yn enghraifft meddai, "o gymeriad a grebachwyd gan deyrngarwch." "O safbwynt llenyddiaeth y Gymraeg byddai mwy o 'anheyrngarwch' ...wedi gwneud mwy o les, wrth gwrs, na'r teyrngarwch rhigolus sydd yn ei hanfod yn wrthlenyddiaeth, ond yr oedd argyfwng y Gymraeg, gwaetha'r modd, wedi peri meddwl ers tro fod pob 'anheyrngarwch' o reidrwydd yn ddinistriol.

Argyfwng y Gwlff - penderfynwyd anfon at y Prif Weinidog a Wyn Roberts, AS, i wrthwynebu'r rhyfel yn y Dwyrain Canol.

Yn groes i'r gred a faentumiwyd gan rai fod yr argyfwng a wynebodd y wlad yn 'wewyr geni gwareiddiad newydd', ni welodd J.

Roedd gan BBC Cymru drefnu sylweddol i'w wneud i achub y digwyddiad wedi i'r hyrwyddwr dynnu'n ôl y diwrnod cyn y cyngerdd, ond dangosodd y gallai tîm cyfan BBC Cymru ymateb i'r argyfwng, fel y gwnaeth Dennis O'Neill a gamodd i'r adwy ar y funud olaf.

Ymwybod ag argyfwng y gymdeithas sy'n hawlio gweithredu, yn fwy na damcaniaethu.

Amlygir gwendid yr egwyddor ar adeg o argyfwng.

Rhaid darbwyllo'r rhieni glastwraidd fod argyfwng ar yr iaith Gymraeg ond anodd iawn ydyw eu perswadio heb sôn am law eu hargyhoeddi.

Enillodd Taro Naw y wobr am y rhaglen newyddion a materion cyfoes orau yn yr Wyl Ffilm a Theledu Celtaidd gydag adroddiad teimladwy ar deulu o fferm fynydd Gymreig a orfodwyd i ymfudo i Ganada oherwydd yr argyfwng amaethyddol yng Nghymru.

Gydag argyfwng cymdeithasol yn gefndir, ymdrecha'r prif gymeriad, y crydd.

Hefyd mae'n werth cofio mai adwaith cyntaf y Gymuned at yr argyfwng yn Iwgoslafia oedd cefnogi'r awdurdod ffederal.