Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argyfyngus

argyfyngus

Yn ei lyfr rhagorol The Greening of America, dywed Charles Reich, Yn y sefyllfa argyfyngus sydd yng Nghymru y mae gweithredu effeithiol yn golygu gweithredu'n wleidyddol.

Gellid gwneud drama drawiadol o hanes teulu'r tenantiaid, gan ddewis un cyfnod argyfyngus a dangos cyfres o ddigwyddiadau trychinebus yn dod ar draws ei gilydd.

Ond dyma hefyd i bob athro ymarferol yr allwedd iddo ac un o'r egwyddorion mwyaf creiddiol yn y greffl gyffrous a heriol sydd ganddo yn y dyddiau argyfyngus hyn yn hanes ein cenedl.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Sefyllfa Argyfyngus Cyflenwad Mawn?

Ceid ynddynt gadarnhad o'r hyn a wyddai'r Dirprwywyr dros Godi Eglwysi a'r Gymdeithas Adeiladu Eglwysi, bod diffygion argyfyngus yr eglwys a'r ysgolion yn nodweddiadol nid yn unig o ardaloedd dinesig, ond yn gyffredin trwy ardaloedd gwledig Lloegr a Chymru.

Problem sy'n arbennig i genedl fach mewn cyfnod argyfyngus ydi hon, oblegid mewn cenedl o'r fath, ymhlith y rhai mwyaf deallus a mwyaf effro i'r hyn sy'n digwydd y ceir y llenorion.

Daliaf i fod y math o Gymreictod a'r math o Ewropeaeth a fynegir yma gan Gruffydd yn rhagori ar y fersiynau a arddelid gan Saunders Lewis yn ystod blynyddoedd enbyd ac argyfyngus yr Ail Ryfel Byd.