Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argyhoeddi

argyhoeddi

Gallai argyhoeddi unrhyw Gymro fod Yr Ymofynnydd yn unigryw ac yn werth ei dderbyn a'i ddarllen, gan mai hwn oedd 'misolyn hynaf y genedl', heblaw'r ffaith mai hwn oedd yr unig bapur y gellid ei gyfrif yn gyfuniad o gylchgrawn a newyddiadur, ac yn hollol agored i bawb, heb erioed gau clo ei gloriau yn wyneb neb, boed Drindodwr, Undodwr, amheuwr neu anffyddiwr.

Mae Llafur yn paratoi i'n argyhoeddi na fydd Quangos yn Quangos os ydyn nhw'n llawn o bobl Lafur.

Sut felly mae argyhoeddi pobl o'r hyn sy'n stori fawr ?

Gwelai'r gwladweinydd pa beth a ddylid ei wneuthur er mwyn argyhoeddi llywodraeth y Frenhines Elisabeth fod rhaid cael caniatâd a chefnogaeth swyddogol er mwyn llunio'r cyfieithiad.

Dim ond ar ôl oriau o aros, o obeithio ac o syrffedu y bydd drysau'r cysegr sancteiddiolaf yn agor, ac y daw'r arweinwyr allan i geisio argyhoeddi cynulleidfa o siniciaid proffesiynol fod rhywbeth o dragwyddol bwys wedi ei gyflawni.

Yn y ffordd hon, llwyddai'r system i argyhoeddi tua deuparth y dysgwyr na feddent unrhyw ddawn i ddysgu iaith.

a stori arall am boen mawr ei enaid o argyhoeddi'n tydi?

"Waeth imi heb a gofyn i chi geisio'i argyhoeddi o." "'I argyhoeddi o i beth?" "Y dylai Aled fynd i Goleg Arlunio.

Wedi i mi'i lygio fo o'i wely mi gymodd hi chwartar awr i mi i' argyhoeddi o ma' nid Jyrman sbei o'n i.

Ceisiau Merêd gysuro ei hun fod hynny am nad oedd angen i ddau cytu+n fod yn clebran yn ddibaid - ond ni lwyddodd i argyhoeddi ei hun.

Prin fod ei reswm yn argyhoeddi'r gweithwyr eraill yn y ffatri, sy'n penderfynu fod ganddo naill ai broblemau gyda'i gariad neu ddyledion.

Meddai'r Cyfeisteddfod: 'Da iawn gennym i chwi gael eich argyhoeddi nad oedd unrhyw sail i'r cyhuddiadau o anfoesoldeb .

Mae'r frwydr rhyngddo ef a Thomas Jones Dinbych ar raddfa eang: 'P'run ai fo ai Mr Jones, Dinbych ddaw i'w Waterlŵ yfory?' A yw'r dehongliad hwn yn gorliwio'r sefyllfa sy'n gwestiwn arall: y pwynt yw ei fod yn argyhoeddi fel celfyddyd.

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Ar ddechrau'r tymor fe gafodd Leeds nifer o anafiadau a doedden nhw ddim yn argyhoeddi.

Ymdrechodd Hector i'w argyhoeddi'i hun mai dyma beth oedd Bywyd.

Os nad oedd yn argyhoeddi, medrent gael eu gwahardd o'u swydd.

Mae Wrecsam yn parhau i godi pwyntiau oddi cartre - ond yn dal heb argyhoeddi'n gyfan gwbl.

Eich problem gyntaf fydd argyhoeddi'r ci ffyrnig nad i'w foddhau na'i borthi ef y dinoethoch y rhannau hynny o'ch corff.

Argyhoeddi yn hytrach nag addysgu oedd y nod a dyna a wnaeth y pregethu hwn yn beth mor gynhyrfus.