Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

argymhellion

argymhellion

Rhoddwyd amser ac egni oddi ar hynny i ddilyn yr argymhellion hyn gan gynnal trafodaethau â chyrff megis Cyngor Ieuenctid Cymru.

Rydym yn cyd-gysylltu'r ymgyrch yng Nghymru, a byddwn yn darparu enghreifftiau o'r modd y bydd yr argymhellion yn effeithio ar gadwraeth, a manylion ar sut y medrwch chi gynorthwyo yn yr ymgyrch.

Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Mae paratoi adroddiad pwnc ar yr iaith Gymraeg yn golygu nid yn unig gwneud adroddiad ar gyflwr yr iaith ond hefyd paratoi argymhellion ar sut i geisio'i diogelu - ond dylid hefyd mynd gam ymhellach trwy gynnwys argymhellion ar sut i gryfhau'r iaith.

Mae rhyw arlliw cenedlaetholaidd ar y ddogfen hon hefyd ac yn wir y mae Philip Cooke, a fu'n gyfrifol am beth wmbredd o argymhellion mwyaf ymarferol yr adroddiad, yn gyn-is-gadeirydd y Blaid.

Mae'r Ysgrifennydd Addysg yn ystyried ar hyn o bryd argymhellion gan Fwrdd yr Iaith o ran blaenoriaethau datblygu addysg Gymraeg.

(a) Derbyn yr adroddiad a'r argymhellion.

Siomedig oedd ymateb Ysgrifennydd y Cynulliad i'n argymhellion (ystyriai arweiniad o'r canol fel ymyrraeth ym musnes yr awdurdod addysg lleol) er y cawsom addewid y byddai'n eu trafod gyda swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd ag addewid o gyfarfodydd pellach yn y dyfodol.

Cyn belled â ceisiadau tu allan i riniogau 'roedd y swyddog o'r farn nad oedd anghysondeb yn yr argymhellion a roddir gan swyddogion.

Lluniodd aelodau'r gweithdai hyn argymhellion a gyhoeddwyd yn y llyfryn Iaith Ifanc ym mis Gorffennaf.

Yn y prynhawn, bu trafodaethau mewn grwpiau a chafwyd adroddiadau ac argymhellion gwerthfawr iawn oddi wrth y cynrychiolwyr trwy arweinyddion y grwpiau.

Bydd pedwar cam i'r ymgyrch: (1) caiff pob perchennog o 48 awr hyd at 90 diwrnod i wella'r sefyllfa; (2) dirwyon o hyd at 2.5m peseta; (3) atafaelu eiddo os na wneir sylw o argymhellion yr arolygwyr; (4) estyn y ddeddfwriaeth i weddill y gymuned.

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol anwybyddu argymhellion y Bwrdd Iaith.

ac fe drafodwyd ystod eang o'r argymhellion sydd yn hwnnw.

Ceisir ymdrin â phob un o'r elfennau hyn yn eu tro, gan ddisgrifio'r sefyllfa gyfredol yn y canolfannau, a chynnig ychydig argymhellion ym mhob achos er mwyn cael symud ymlaen yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf neu, lle bo'n ymarferol, yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Ond ceir yma hefyd gasgliadau ac argymhellion sy'n ymwneud a threfniadaeth ar lefel ysgol a ffactorau ar lefel genedlaethol a allai hwyluso a grymuso dysgu pynciol dwyieithog i'r dyfodol.

Y mae gweithwyr yn y maes yn rhagweld y bydd llai o blant yn cael DAA pan fydd y argymhellion yma'n dod yn arfer cyffredinol.

Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, cyflwynwyd nifer o argymhellion ynglŷn â thraenio'r aber eang ac adennill tir gan dirfeddianwyr a fyddai'n elwa o wneud hynny.

Un o argymhellion y Comisiwn Brenhinol ar Gyfiawnder Troseddol yw y dylid cwtogi ymhellach ar hawl diffinydd i ddewis rheithgor i glywed ei achos - hawl sydd yn deillio o'r Magna Carta.

(c) Ymgynghoriadau ynglŷn â ffyrdd a thrafnidiaeth gan gynnwys polisi%au cludiant, gyda'r hawl derfynol i wneud argymhellion i'r Cyngor Sir neu'r Ysgrifennydd Gwladol neu unrhyw berson neu gorff arall.

Yn unol âg argymhellion Warnock, rhoddodd y Ddeddf hon ddyletswydd ar bob Awdurdod Addysg Lleol i adnabod plant ag anghenion addysgol arbennig.

I raddau helaeth ymateb i argymhellion y llywodraeth 'roedd y ffermwr unigol - datblygwyd peirianwaith eang o grantiau a chyngor ac o addysg, yn wreiddiol dan adain Llundain, ac yn ddiweddarach o dan ddylanwad Brwsel a'r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC/CAP).

Yn ystod y cyfnod hwn, mabwysiadodd y Pwyllgor Addysg argymhellion Adroddiad Gittins ar Addysg Gynradd yng Nghymru.

Argymhellion:

Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn gwrthwynebu'r argymhellion hyn yn chwyrn ar y sail y byddai effeithiolrwydd y Cyngor Gwarchod Natur yn cael ei leihau'n sylweddol, ac y byddai hynny'n cael effaith ddinistriol ar gadwraeth natur.

ARGYMHELLWYD derbyn yr adroddiad a gweithredu'n unol â'r argymhellion canlynol:-

Pe bai angen, gellid cynnal ymchwiliad cyhoeddus gan archwiliwr annibynnol, a byddai ei argymhellion ef yn cael eu hystyried gan yr ysgrifennydd gwladol, pan ddaw yn bryd gwneud y penderfyniad terfynol.

Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn 'rhy wleidyddol'. Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.

Mae CYD yn parhau i fonitro'r argymhellion a sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu.

mae'r argymhellion hyn yn ffrwyth gwaith ymchwil trylwyr a gadarnhaodd yr angen am y fath ganolfan, a'r galw am y gwasanaethau, " meddai mae'r prosiect, sydd wedi ei ariannu am flwyddyn, yn creu dulliau o addasu deunydd dysgu mewn ffurf y gall sawl coleg ei ddefnyddio yn ogystal â datblygu rhwydwaith gynorthwyol i ddarlithwyr.