Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ariannin

ariannin

Caiff yr uchafbwyntiau eu dangos fin nos, yn ystod yr oriau brig, gan ddechrau nos Wener gydag uchafbwyntiau Cymru v Ariannin am 8.00pm.

Dyw hi ddim yn syndod felly fod Menem yn dal i fod yn wyliadwrus o fyddin bwerus Ariannin.

Er bod yna 215,579 cilometr o ffyrdd yn yr Ariannin dim ond ar 29 y cant ohonyn nhw y mae yna wyneb iawn.

Nid felly yn Ariannin lle mae bron bob Archentwr yn meddwl ei fod wedi ei eni yn yrrwr rali.

Roedd yr undebau, fu'n chwarae rhan mor allweddol yn hanes Ariannin, yn rhag-weld dadfeiliad y wlad wrth i fwy a mwy o bobl suddo i dlodi ac anobaith.

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.

Achos dydi gyrwyr Ariannin ddim yn arafu wrth newid o un lôn i'r llall.

Dyna oedd yr Oes Aur i bobl Ariannin; câi Pero/ n ei gydnabod fel achubwr y tlawd, a'r genedl yn gyffredinol.

Er mai dim ond 2,000 o gopiau a argraffwyd yn wreiddiol gwerthwyd 15,000,000 erbyn hyn ac y mae'r Misa Criolla gyda'i rhythmau gwerinol, i gyfeiliant gitars, charangos a bombas yn waith y mae parch a phoblogrwydd mawr iddo yn yr Ariannin.

Un o'r cysylltiadau hyn yw Sylvia, merch o Ariannin sy'n tanio brawddegau Sbaeneg yn gyflymach na kalashnikov.

Penderfynodd hefyd daclo un arall o glefydau Ariannin, sef llygredd a llwgrwobrwyo ym myd gwleidyddiaeth a busnes.

Roeddwn yn Ariannin, felly, i ffilmio gambl enfawr gan un dyn; roedd Y Byd ar Bedwar hefyd yn cymryd siawns o'r mwyaf.

Bydd tîm saith bob ochr Cymru yn cystadlu yn rowndiau terfynol cwpan y byd yn yr Ariannin fis Ionawr ar ôl ennill cystadleuaeth Heidleberg ddoe.

Yn ei wynebu, roedd band pres yn canu alawon addas i ddathlu pen blwydd annibyniaeth Ariannin.

Un ffordd o ddisgrifio ffyrdd Ariannin yw dweud nad oes rhwd ar geir y wlad.

Fe fydd y darllediadau'n cychwyn nos Wener Hydref 1 gydag uchafbwyntiau gêm agoriadol Cymru yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.

Mae Ariannin newydd yn cael ei geni...'

Ganddyn nhw y cefais fy mherswadio i fynd i Ariannin.

Mae cyn-seren y gêm rygbi 13, Ellery Hanley, yn ymuno â thîm hyfforddi carfan rygbi undeb Lloegr ar gyfer y paratoadau am y gemau yn erbyn Awstralia, Ariannin a De Affrica.

Yn ystod y tridegau y magwyd syniadau Pero/ n, y gwr a oedd i osod agenda wleidyddol Ariannin am drigain mlynedd.

Cymdeithas Cymru-Ariannin...

Y mae gyrru yn Ariannin yn brofiad.

Y bore Gwener hwn, mae Ariannin yn wlad ddemocrataidd ers chwe blynedd.

Ysbrydolwyd y cerddor o'r Ariannin, Ariel Ramirez, i'w gyfansoddi ar ôl cael ei ysgwyd gan yr hanes am ddewrder lleianod yn bwydo 800 o Iddewon newynnog yn yr Almaen adeg y rhyfel gan wybod mai eu crogi fyddai eu cosb o gael eu dal gan y Natsiaid.

Hyfryd oedd cael estyn croeso i wr a gwraig o'r Wladfa yn yr Ariannin.

Honnir iddi orchymyn llysgennad Ariannin yn Awstralia i ddanfon cangarw adre er mwyn addurno gardd y palas arlywyddol.

Er taw ychydig iawn a wyddwn i - a'r Gorllewin yn gyffredinol - am Arlywydd Ariannin, Carlos Menem, roedd hi'n hysbys i bawb fod ei wlad mewn trafferthion ofnadwy.