Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ariannu

ariannu

Er y byddai'n bosibl, wedi i broject tair blynedd ddod i ben yn llwyddiannus, i'r Swyddfa Gymreig gytuno i ariannu project newydd yn yr un maes i'w gyflawni o fewn cyfnod penodol pellach, nid ystyrir fod profiad o gyflawni project blaenorol yn fwy manteisiol na phrofiad diweddar yn y dosbarth ac anarferol fyddai penodi swyddog project am ddau gyfnod yn olynol.

Bu Ellen ap Gwynn mewn cysylltiad a'r Swyddfa Gymreig i drafod dyfodol a strwythr ariannu cwmni%au Theatr mewn Addysg.

Cyfrifoldebau: Ariannu Addysg bellach dros 16 oed; ariannu Cymraeg i oedolion.

Wrth i'r grant gynyddu dros y blynyddoedd diweddar, mae nifer o broblemau wedi codi yn sgîl y dulliau hyn o ariannu.

WL Oherwydd nad yw CCC yn fodlon mabwysiadu polisi o ariannu hir dymor rydan ni'n cael ein gorfodi i wneud cynlluniau'r cunud olaf.

Ariannu'r Broses.

Bydd gweithgarwch gweinyddol a marchnata S4C dros y ddwy flynedd nesaf yn cael ei ariannu gan incwm masnachol y sianel.

Y maent yn ariannu cyrsiau/colegau per capita, hynny yw, yn rhoi arian ar gyfer pob myfyriwr/wraig sydd wedi cofrestru.

Yn gyffredinol nid yw'r rhagolygon ar gyfer datblygu cynlluniau fydd yn cael ei ariannu trwy'r Strategaethau Cymru gyfan ar gyfer Anfantais Meddwl yn edrych yn ffafriol.

Mae angen sefydlu cysondeb rhwng canolfannau yn yr amodau o ariannu projectau yn arbennig o safbwynt amodau cyhoeddi.

Gweithredir y polisi hwn mewn ffordd a fydd yn cynhyrchu incwm rhent digonol i ariannu gweithgareddau'r Gymdeithas yn llawn, ond ar yr un pryd anelu at gadw ein ymrwymiadau i osod lefelau rhenti fel y gall pobl ar incwm isel eu fforddio.

Ariannu: Derbyn grant gan y Swyddfa Gymreig.

Os byddwch yn mynd i drafferthion, fe gewch lawer rhagor o gydymdeimlad yn y banc na gan gwmni ariannu.

Dosbarth ar lefelau ariannu yn y dyfodol.

Dylid cywiro'r gosodiad "Bydd y taliadau unwaith ac am byth yma yn cael eu hymgorffori i mewn i swm yr ariannu sylfaenol am gyfnod o dair blynedd" trwy ddileu'r cyfeiriad at amser oherwydd na phenwyd unrhyw amser o'r fath.

Yn yr un modd mae'r polisi ariannu cyhoeddus presennol yn rhwystro'r Gymdeithas rhag gweithredu rhaglen sylweddol o brynu ac adnewyddu nifer fawr o dai yn yr ardal sydd yn wag neu heb eu defnyddio llawer.

Nid yw'n eglur o gwbl, ychwaith, sut y bydd modd ariannu darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion arbennig oddi fewn i'r gyfundrefn addysg arbennig na'r gyfundrefn prif-ffrwd.

I'r 'gwirfoddolwr', Ieuan Gwynedd, y bygythiad i'r 'genedl Anghydffurfiol' o du'r Eglwys oedd craidd y ddadl yn erbyn derbyn arian y Llywodraeth i ariannu ysgolion.

Byd dyfodol ariannu o'r fath yn dibynnu ar lwyddiant cyflawni'r cytundebau hyn, neu ar eu diwygio trwy negodi yn wyneb profiad.

Mae cymdeithas yn ariannu'r ymchwil y mae'n dymuno ei chael.

Mae'r dull hwn o ariannu cyhoeddi wedi sicrhau yn y gorffennol bod yr adnoddau wedi cyrraedd yr ysgolion sydd eu hangen, wedi cenhadu yn y maes, ac wedi arbed costau marchnata a gwerthu.

Mae ansicrwydd o hyd ynglyn ag ariannu'r nawfed clwb hwnnw.

Ychydig iawn o ddefnydd sydd wedi dod o'r darganfyddiadau hyn, ond yn ffodus mae gwledydd yn fodlon ariannu rhywbeth sy'n rhan o'n diwylliant.

Mae CCC yn ariannu cynhyrchiad gan gwmni ond â'n ni'n gwybod dim tan y funud olaf.

Os oes raid wrth fenthyciad, efallai mai'r lle gorau bob tro yw eich banc, hyd yn oed os bydd y llog fymryn bach yn uwch na gan gwmni ariannu arall.

Er mwyn gweld cynnyrch yn ymddangos o fewn cyfnod penodol dylid symud at system ariannu a fydd yn cydnabod yr holl elfennau o bob project yn llawn a hefyd yn cynnig atebolrwydd ariannol effeithiol.

wedi derbyn cynnydd mewn ariannu cynigiodd Ellen ap Gwynn y dylai'r tâl aelodaeth i CCPC.

Awgrymodd - - y byddai'n dda i gynhyrchydd sydd yn bwriadu ariannu'r datblygu syniad i drafod y cynnwys yn fras gyda'r comisiynydd cyn gwneud y buddsoddiad rhag ofn fod sawl syniad tebyg ganddo o dan ystyriaeth neu broblem arall tebyg.

Mae'r cynllun wedi cael ei ariannu gan BBC Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

A derbyn mai'r asiant cynhyrchu, yn y pendraw, a ddylai gael penderfynu rhwng cyflogi neu gomisiynu er mwyn cyflawni gwaith, y mae angen rhai canllawiau pellach i egluro'r disgwyliadau o safbwynt cyflogi, yn arbennig yn y tymor byr wrth symud drosodd at ddull newydd o ariannu projectau.

Mae ariannu sgript gyflawn yn ddrud iawn.

Enghraifft o hyn yw'r sefyllfa a welir yng Ngholeg Ceredigion ar hyn o bryd sydd mewn perygl o gael ei gau oherwydd diffyg ariannu.

mae'r argymhellion hyn yn ffrwyth gwaith ymchwil trylwyr a gadarnhaodd yr angen am y fath ganolfan, a'r galw am y gwasanaethau, " meddai mae'r prosiect, sydd wedi ei ariannu am flwyddyn, yn creu dulliau o addasu deunydd dysgu mewn ffurf y gall sawl coleg ei ddefnyddio yn ogystal â datblygu rhwydwaith gynorthwyol i ddarlithwyr.