Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arna

arna

'O Gwawr,' meddyliodd, 'ai ti sy 'na yn chwarae tric arna i?'

Hen lanc yw e, ond ma fe'n gweld popeth, ac fe alwodd arna i noson yr angladd, pan own i ar fin mynd draw i gydymdeimlo a Luned, a gweud y gwir.

A 'does arna i ddim eisio bod yn rhy hy - ond gan ein bod ni wrthi hi, beth am y flwyddyn wedyn?' Tri chyhoeddiad ymlaen !

'Yli, Merêd, arna i mae'r bai mae'n siŵr...ond mi ddylet ti sylweddoli nad ydw i'n hoffi'r math yma o wylia erbyn hyn.

Does arna i ddim isio mynd yn ôl i ganol Saeson eto." "Mae arna i ofn dy fod ti braidd yn hwyr yn meddwl am beth felly, 'ngwas i.

Mewn gwirionedd, cyn ambell gêm rygbi 13, roedd ofn mynd mâs ar y cae arna i.

Wnes i ddim meddwl pam yr oedd arna'i isio'i beintio fo.

Ac felly o dipyn i beth mi wnaeth yr sefyllfa argraff arna i.

"Be' wyt ti'n feddwl ydi o?" "'Sgen i ddim syniad, ond mae o'n codi arswyd arna' i." "Taw." "Ydi, wir yr." "Tyrd o 'na."

Mae arna i ei angen o.

Mae'r arbenigwyr yn gytun mai dyma'r gystadleuaeth orau yn hanes y Cwpan Byd, a hyd heddiw, dwi'n dal i gofio'r effaith gafodd y gystadleuaeth arna i.

Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.

Does arna'i ddim eisiau troi eich stumogau gyda ffilm arswyd newydd sâl.

Yn crynu ac yn chwys i gyd, mi edryches lan, a dyna lle'r oedd mistir yn hongian wrth drawst, a'i dafod allan a'i ddau lygad ar agor yn rhythu arna i.

Mae arna i ofn ei fod yn drysu.

Mae'r byd hysbysbu yma yn eich taflu i'r llawr yn syth bin, ac yn parhau i ysgyrnygu'n ddyddiol a digyfaddawd arna' chi.

Am y rownd gyn-derfynol arall, mae Portiwgal wedi creu argraff fawr arna i.

Mae unrhyw lyfr fel yma'n siwr o gael ei gymharu â champwaith Tolkien, Lord of the Rings - gan gofio effaith ysgytwol y chwedloniaeth honno arna' i - ac am y cymeriadau llawn a byw oedd yn poblogi Canol-y-Ddaear.

Cyngor y Celfyddydau sydd wedi bod yn gofalu am y ddrama - biwrocratiaid di-weledigaeth ydyn nhw, mae arna i ofn, a dyna pam rydyn ni yn y sefyllfa yma.

'Arna i.

Ond dywedodd cymydog arall: Doedd o ddim yn amharu arna i.

Mae arna i ofn gynddeiriog iddi hi setlo acw am 'i hoes." Tra oedd fy nghyfaill Williams yn gorffen y bara-llaeth, ac wedyn yn ysmygu wrth y tân, ceisiasom feddwl am ryw gynllun i yrru Anti Lw ar symud.

ac mi o'n i'n crynu wrth ddeud - meddwl bod pawb yn sbio arna'i.

Mi af allan drwy'r cefn i'w osgoi o." "Does arna' inna' ddim isio'i weld o 'chwaith," meddai Snowt.

Ddim os oedd angen yr arian arnoch chi; ac roedd eu hangen arna i.

Bellach, mae arna i ofn, mae toreth o reolau newydd eto ar ein cyfer ni sy'n defnyddio'r ffordd fawr, a alwaf, os caf fathu ymadrodd Cymraeg, y gyfundrefn 'dirwy ar y pryd'.

Mae yna amryfal bobol yn mynd i fyny ac i lawr yr allt 'ma yn eu cerbydau, yn codi'u dwylo arna i.

Mae arna i eisiau iddo fo ddod acw i gladdu Ffred druan.

Dim hwyl arna' i heddiw.

"Mi fedri ddibynnu arna i, Henri," meddai'n ddistaw a daeth y llall ato a'i gofleidio.

'Roedd ffrind i mi o Ddolgellau eisoes wedi mynd yna, ac wedi bod yn swnian arna i i fynd drosodd.

Pan ddywedais i fod arna i eisiau ci, meddwl am greadur bach clên, blewog fyddai'n ysgwyd ei gynffon i roi croeso inni roeddwn i.

Mi wawriodd popeth arna i.

Roedd yn reid wefreiddiol ond cododd ofn arna' i ar brydiau, ac roeddwn i'n falch i gyrraedd y copa.

Pam wyt ti'n edrach arna i fel'na?

Ofn sy' arna'i y bydd hi'n treio croesi'r ffordd yn rhywle." "Dydi hi ddim ffit," meddai Dad, gan ddal i chwifio'r hosan nes roedd pawb o'u cwmpas yn edrych yn rhyfedd arno.

Pan oedd Capel Ebenezer yn cael ei adeiladu byddem yn mynd yno yn aml i chwarae, ac rwy'n cofio un diwrnod weld yr hen Robaits yn nrws yr ysgol, a'r ysgolfeistr yn troi ac yn edrych arna i, a phan ddaeth yn ol at y dosbarth, cefais fy ngalw allan, a methwn wybod beth oeddwn wedi wneud.

Mae arna i ofn y byddwn i'n twyllo fy hunan yn llwyr pe bawn yn esgus bod adroddiad Cymraeg ar orsaf deledu leiafrifol wedi agor y ffin i'r Palestiniaid.

Dwyt ti ddim eisiau ymosod arna i, mae'n amlwg," meddai Douglas wrtho.

'Na fe: Jeannine, i f'atgoffa fod Sandy 'di cael y gore arna i; 'di cadw'n bur, 'di cadw at y duon!

Oni bai 'mod i'n dipyn o ddyn ac oni bai fod gwasgfa parchusrwydd y canrifoedd arna-i, dyna'r union sŵn wnelwn innau 'fallai.

"Wrth gwrs,' meddwn, 'os arhoswch chi i'r meddyg gael golwg arna i, ac yna i mi newid i ddillad sych.'

Byddaf yn dioddef o symptomau fel coesau'n crynu a'r bol yn aflonydd oherwydd fod arna'i ofn.

"O ydan," medda hi, ac mi estynnodd bacad i mi o ryw gongol "Does arna id ddim isio pacad cyfa," medda fi, "dim ond un." "Un!" medda hi fel 'na, a gwneud rhyw lygadau.

Byddai'r hyfforddwr yn gosod y bai arna i ac yn dweud wrth y perchennog 'mod i wedi camfarnu'r ffens.

Hwyrach y coleddai Harri syniadau rhy uchel am Gwen ymhob ystyr' a phrotest Gwen 'Harri, wyt ti wedi blino arna' i?' Y mae E.

Mae'n colli'r frwydr yn gyflym iawn, mae arna i ofn.'

Edrychodd arna i o'm pen i'm sawdl.

Cysylltais a rhai o'm dynion ar unwaith, i fod yn barod rhag ofn y byddai angen help arna i.

Ma' rhyddid yn beth mawr, wyddoch chi a rydw i am ddal 'y ngafal ynddo fo." Ar yr un gwynt, ychwanegodd yn ddyn i gyd: "Rydw i am fynd i weld tipyn ar y byd cyn iddi hi fynd yn rhy hwyr arna i." Agorodd ceg Maggie Huws, ond cyn iddi hi gael yr un gair allan ohoni hi, roedd Willie Solomon wedi cyrraedd ei ddrws ac wedi rhoi clep arno yn ei hwyneb.

"achos roedd ofn arna i," esboniodd debra.

Mae dechra Ionawr fel hyn gystal amser â'r un i mi ddwysfyfyrio dros fy ngwendida yn hyn o beth; achos rydwi'n dal i wegian dan bwysau'r Roses yna fu'n tyfu arna i dros y Dolig.

Roedd agwedd drahaus Saudi Arabia yn troi arna' i tra oeddwn yno.

'Mae arna i ofn bod hi am fwrw glaw.' 'Gobeithio y deil hi am ryw awr neu ddwy, beth bynnag,' meddai Gwyn.

Roedd yr ymwybyddiaeth o Gymreictod a chyflwr Cymru, cyflwr yr iaith, y cyflwr cymdeithasol i gyd yn gweithio arna i i ffurfio fy ymateb.

Fe faswn i'n bod yn anonest pe na bawn i'n cyfadde ei fod yn cael effaith arna i fel pawb arall yng Nghymru.

"O, mi fyddaf i'n iawn wedi ychydig o orffwys, does dim byd mawr o'i le arna i, ond mae'r ddamwain hon wedi newid pethe i mi." A dyna newydd da a newydd drwg i'r plant mewn un prynhawn - y newydd da fod Dad ar wella, ond y newydd gwaethaf oll y byddai'n rhaid iddynt adael yr ynys - eu hannwyl gartref.

TB arna i.

Ac mae lliw ei flew o'n codi cyfog arna i.

Fe fu'r mis cyn yr Eisteddfod honno yn fis o bwysau mawr arna i.

"Mae arna' i eisiau aros yn y fan yma." "Mae arna' i eisiau mynd i weld beth sy'n digwydd yn y cae acw, ond mae'n rhaid i mi helpu i ddechrau," meddai Rhodri'n siort.

Un peth roedd rhaid i mi ofyn, oedd, a oedd unrhyw wobr ariannol - 'Nagoes wir!' ebychodd Christine Beer, cyd-drefnydd rhanbarth Fflint, gan godi cywilydd mawr arna i am feddwl y fath beth.

Mae arna'i ofn y cenllysg mawr sy'n bygwth o'r mynydd, dwi'n siŵr ei fod o am ddwad ar fy ngwarthaf mewn dau funud i 'ngholbio fi'n ddu las ac wedyn fy nghladdu fi yng nghanol yr eira, felly plîs Morys, gofyn iddi eto gawn ni fynd i'r tŷ.

Eisio chwerthin oedd arna i, ond 'roedd y dyn druan wedi cynhyrfu trwyddo, ac yn methu gwybod beth i'w wneud.

Doedd arna' i ddim awydd mynd, ond roeddwn i wedi hen arfer ufuddhau, ac felly mynd wnes i.

mae rhyddid i bobl addoli elvis presley os ydyn nhw'n moyn, neu ryddid iddyn nhw addoli eliffantod pinc sy'n hedfan o gwmpas yr wyddfa os ydyn nhw'n moyn, dim ond iddyn nhw beidio â gwthio'r peth arna i, a pheidio â gweiddi cabledd os bydda i'n digwydd chwerthin am ben eu ffolineb.

'Fedra i weld dim sy'n codi unrhyw fath o archwaeth arna i.' 'Roedd ei ystyr yn hollol glir.

Ac mae arna'i ofn mai dyna fydd y stori am y deuddydd neu dri nesaf hefyd......

"Mi faswn i'n licio riportio fy mhysan." Dyma fo'n edrach arna i, fel gwelsoch chi glagwydd wedi gweld draenog.

Does arna i ddim isio bod yn unben a 'does arna i ddim isio gweld neb arall yn un chwaith, felly mi gadwa i hynny o wleidyddiaeth sy' gen i i fi fy hun.

Craffodd yn hir arna' i cyn dweud: '...

"Mae'n iawn i fechgyn gario pethau - - does arna i ddim eisiau gwneud fy nillad yn flêr!" "O, Iona, rydan ni'n dwy'n helpu hefyd, tyrd yn dy flaen," meddai Eira'n flin.

"Os na fydd gwahaniaeth gennych chi," meddai Huw, "mi drof yn f'ôl ar f'union wedi'ch rhoi chi ar y cei rhag ofn i'r nos fy nal." "Popeth yn iawn, Huw, mi fyddwn yn iawn ond cael ein traed ar yr ynys, a diolch i chi eto." "Os daw'ch Mam unrhyw bryd, fe ŵyr ble i gael gafael arna i, ac fe ddôf â hi draw ar unwaith." Diolch eto, a chwifio llaw ar Huw.

* "Mae gen i dyst nad oedd mymryn o fai arna i ond yn anffodus fedr o ddim darllen na sgrifennu ac mae'n ddall a byddar..." LLOCHES

Edrychodd Robat John yn syn arna i.

'Mae arna' i ofn, 'machgen i, na ddoist ti i'r lle iawn hefo'r llyfr yna o dan dy fraich.

Fawr o ddim, mae arna' i ofn.

Mae yna gymaint o bethau i'w gwneud." "Rydw i'n mynd i bysgota go iawn y tro yma, does arna innau ddim eisiau mynd oddi yma rhyw lawer chwaith," cytunodd Huw.

Rydw i ofn iddyn nhw gipio'r wlad oddi arna i, oherwydd mae ganddyn nhw alluoedd hud.

Eisteddai'r hen ddynes yn syth fel gard yn ei gwely gan hoelio'i llygaid arna i, Os oedd hi'n marw, nid heno y digwyddai hynny, doedd dim sicrach.

Mae arna i ofn fod y rheini wedi diflannu hefyd.

Fo'n tynnu'r llenni a rhoi record i chwara, yn rhythu arna i'n awchus a 'nhynnu i ddawnsio, yn dynn at ein gilydd fel gelod.

"Roedd arna i awydd mynd i nofio fy hun, ac fe ddes i ofyn i chi hoffech chi ddod yn gwmni imi," eglurodd.

Criw o fechgyn gwyn mewn dillad du yn neidio arna'i o'r tu ôl i gerflun yr hen Fatchelor wrth gaffe'r Ais, fel y down i mas o'r tai bach.

'Arna i mae ei fryd o,' meddai gan ddal i weni.