Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arswydo

arswydo

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Gwnaf dy dalcen fel diemwnt, yn galetach na challestr; paid â'u hofni nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn.

Bu'n hir iawn yn dod yn ol, wedi arswydo rhag y dynion yna mae'n siŵr, a thipyn o dalu'r pwyth yn ol i mi hefyd am adael iddyn nhw ddod ar gyfyl y lle.

Neidiasant ar y trên cyntaf am adref, ac yno y darfu iddyn nhw aros am gyfnod yn reit swat, gan arswydo rhag pob caniad ffôn neu gnoc ar y drws.

Ond erbyn cyrraedd y fan dywededig - "No chwe - chiw chol sei dawn chofyr dder!" - Er i mi edrych yn ofnus a chrefu "Por favor, senor" Gorfu i'r dosbarth fynd i lawr y llethr o rew - son am grynu, dychryn, chwysu'n oer a phoeth ac arswydo.

Ochri efo'u Tywysog y byddai pobl Dolwyddelan gan arswydo rhag y Gwylliaid, yr Ymennydd Mawr a'r pry bychan o Gripil, Gwgon Gam.

A thithau, fab dyn, paid â'u hofni hwy nac ofni eu geiriau, er eu bod yn gwrthryfela yn dy erbyn ac yn gwrthgilio, a thithau yn eistedd ar sgorpionau; paid ag ofni eu geiriau nac arswydo rhag eu hwynebau, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.