Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

artistig

artistig

Yr oedd y posteri i hysbysebu'r cyngerdd yn artistig tu hwnt; y cwbl ar bapur wedi ei ddwyn a'i smyglo i'r gwersyll.

Mae straeon synhwyrus a chelfydd harri Pritchard Jones, Ar y Cyrion, y mwyaf cyfoethog ac artistig o'r cyfan, er yn fwy tawel a gobeithiol - crefyddol-obeithiol, mae'n bosib - yn eu hymateb i'r "ddiwethafiaeth" hyn na'r gweddill.

Doedd ei unigrwydd artistig chwaith ddim yn unigryw.

Casglodd y cyfarwyddwr artistig Michael Bogdanov y dalent orau yng Nghymru ynghyd gan gynnwys Shirley Bassey, Tom Jones, Charlotte Church, Jonathan Pryce, Ioan Gruffudd, Lisa Palfrey, Angharad Rhys a Dennis O'Neill.

GL Mae yna ddiffyg cyfathrach rhwng y cwmniau ar lefel Cyfarwyddwyr Artistig cyn penderfynnu ar eu cynyrchiadau.

Y mae Mandy Wix yn ein cynrychioli ar Hyfforddiant Gweinyddol a Graham Laker yn ein cynrychioli ar Hyfforddiant Artistig a Thechnegol.

Ystyriwch wedyn fod y Rhos yn fwy o ran poblogaeth ac adnoddau artistig na'r Wyddgrug.

Llwyd Jones yn Y Faner, ac 'y mae bron iawn â bod yn waith artistig cyflawn.' Ar ôl deugain mlynedd erys y gwaith hwn ymhlith y dramâu mwyaf arwyddocaol yn y Gymraeg.

Mae'r gweithwyr diwylliannol hyn yn darganfod bellach fod cyfyngiadau sylweddol hefyd ar fynegiant artistig yn economi%au marchnad rydd y Gorllewin.

Mae siarad ag Eryl Ellis am eiwaith yn sicr yn cynnig cipolwg ar fyd artistig, deallusol cynhyrchu theatr; cawn yr argraff ei fod ar fin ehangu ar y theori%au dwfn, abstract, a syniadau a iaith gymhleth, aruchel yr athronwyr celfyddydol.

Peidiwch a'i adael yn gyfangwbl yn nwylo'r Cyfarwyddwr Artistig.

Rhaid derbyn profiad neilltuol yr unigolyn yn fan cychwyn creadigaeth artistig .

Y patrwm crefyddol hwn oedd cyfrwng artistig Cymraeg y ganrif ddiwethaf, yn ogystal a'i sail yn foesol a deallusol.

Ym Mhþyl y mae annibyniaeth wleidyddol wedi cerdded law yn llaw gydag annibyniaeth artistig.

"Dwi'n gwerthfawrogi gweithio efo nhw," meddai Carys, a fu tan yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Artistig cwmni theatr mewn addysg y Fran Wen.

Y mae ef hefyd, fel aelod o'r Is- bwyllgor Artistig yn barod i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiad.

Rhaid i lenyddiaeth fod â chydbwysedd artistig, ond gan na cheir hynny mewn pornograffwaith, ni all hwnnw fod yn llenyddiaeth dda.

Diffyg cydymdeimlad artistig yw hyn ac y mae'n codi o ddiffyg chwaeth artistig a philistiaeth naturiol gwerin ddi-gelfyddyd, di-deimladwy.

Yn y corws, cafodd Simon Halsey ei olynu gan Adrian Partington fel cyfarwyddwr artistig, a thuag at ddiwedd tymor 1999/2000 dymunodd y gerddorfa ffarwel hefyd â chyfarwyddwr cerddorol Cerddorfa Cenedlaethol Gymreig y BBC, Mark Wigglesworth.

Ond hefyd mae'n rhaid i chi fynd â fo i'w ffiniau, yn artistig ac yn weledol.

Diolch i sgript ardderchog Jonathan Myerson ac animeiddwyr talentog yng Nghaerdydd, Llundain a Mosgo, rydyn ni wedi creu ffilm sydd nid yn unig yn llawn cywirdeb deallusol a safonau artistig uchel, ond sydd hefyd yn hwyl.

Bocs chwaethus, ac enw'r gwneuthurwr yn gynnil mewn print aur, artistig ar gornel isa'r caead.

Er bod afiechyd ac amgylchiadau Rhyfel yn ei rwystro rhag mwynhau'r ysgoloriaeth deithio, ychydig oedd gan Gymru i'w gynnig yn artistig.

Does dim awgrym o ego artistig, dim hunanholi dyfn, dim giamocs wrth drin paent.

Y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel oedd cyfnod ei greu mwyaf, blynyddoedd o newidiadau hanesyddol aruthrol pan drodd mwy nag un arlunydd ei gefn ar ganolfannau artistig ac ymgolli mewn tirlun arbennig.

Fel y rhan fwyaf o gwmni%au recordiau eraill yng Nghymru, bydd Ankst yn ymatal rhag ymyrryd yn artistig - caiff pob grŵp neu artist benrhyddid i recordio unrhyw gân neu ddilyn unrhyw lwybr cerddorol a ddymuna.

Mae'r baneri yn dangos dawn artistig y gwragedd, eu hymrwymiad i heddwch, a'u hatgasedd tuag at ryfel.

Mae gofyn i Gyfarwyddwyr Artistig y cwmniau gyfarfod ar ddyddiad penodedig i roi trefn ar eu cynigion, ac yna i gyflwyno i'r canolfannau becyn gwybodaeth tymor byr a strategaeth tymor hir.

Eto mae'r amrywiaeth yn y ffordd y trinir y paent yn amlygu cyfansoddi artistig bwriadus o dan y brys ymddangosiadol i ddal delwedd.

Pan ddengys lilith ichi mor hyfryd yw'r olygfa o ffenestr y llofft ac fel y mae'r domen dail yn rhoi cydbwysedd artistig iddi, peidiwch â'i alw'n rhagrithiwr melltigedig na'i daro dan glicied ei ên.

Er ei fod ar un olwg wedi ei ynysu yng Ngogledd Cymru, doedd diddordebau artistig Harry Hughes Williams ddim yn rhai plwyfol.

Yn 2000 daeth Adrian Partington, a oedd yn Gyfawrwyddwr Artistig Cynorthwyol gyda Simon Halsey, yn Gyfarwyddwr Artistig, a daeth Sharon Richards yn Gyfeilyddes y Corws.

Mae stori%au Mihangel Morgan yn ddyfeisgar, yn llawn troeon annisgwyl, yn gelfydd eu gwead, weithiau'n llenyddol, artistig neu esoterig eu diddordeb.