Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aruthrol

aruthrol

Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.

'Roedd Rhian dan bwysau aruthrol a cheisiodd ladd ei hun wrth baratoi at yr arholiadau.

Gwnaed gwaith aruthrol ar y llwybrau, yn wir mae bron fel cerdded ar balmant ar adegau.

Os yw llunio darlun boddhaol o'r canrifoedd cynnar yn anodd oherwydd prinder ac amwysedd y dystiolaeth, y mae gwneud hynny gyda'r cyfnod diweddaraf yn anodd oherwydd swm aruthrol y defnyddiau.

Mae rheolaeth leol ar gyllid a dyletswyddau cynyddol o ran gweinyddu ac asesu'n gosod baich aruthrol ar brifathrawon sydd bellach â'r cyfrifoldeb statudol o gyflawni'r holl ddyletswyddau hyn yn eu hysgolion nhw.

WS Mae yna werth aruthrol mewn cynllunio tymor hir, fel ein bod yn cael gwybodaeth ymlaen llaw am natur dramau.

Roedd yna gyffro aruthrol a mae Caerdydd gam yn nes at yr Ail Adran.

Roedd Higgins yn mynd o nerth i nerth a chlod aruthrol i Stevens am gadw gydag e.

Felly, mi aethon ni i fyny i ardal yr Alhambra - Oxford Street Beirut - ac, ar waetha'r gymhariaeth, mi roedd yna dlodi aruthrol yna.

Bydd hyn yn gosod pwysau aruthrol ar ysgolion gwledig bychain.

Fel y cawn weld, mae agweddau'r beirdd a'r llenorion Cymraeg at y clasuron yn amrywio'n aruthrol, ond prin iawn y gwelir un ohonynt yn methu ag ymateb o gwbl i lenyddiaeth glasurol.

Mae yna sawl un sydd o'r farn fod hogia Bangor wedi gwella'n aruthrol yn ystod y misoedd diwethaf ac felly mi edrychwn ni ymlaen rwan at gael clywed eu sesiwn ar raglenni Gang Bangor yn y dyfodol agos gan mai dyna oedd y wobr yr oedd grwpiau colegau Cymru yn cystadlu amdani.

Mi fues i mewn sawl sefyllfa, er enghraifft yn India a Bangladesh, pan oeddwn i'n gweld y tlodi a'r dioddefaint aruthrol oedd yno.

Mantais aruthrol mewn lle mor gyfyng oedd cad dau ddyn yn medru taro hefo unrhyw law ymlaen.

I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.

Bu cyfnewidiadau cymdeithasol aruthrol yng Nghymru yn y chwarter canrif diwethaf.

Datblygodd gwyr rygbi Lloegr yn uned rymus tu hwnt gydau blaenwyr aruthrol o bwerus.

Sôn am y drafodaeth rhwng Duw a'r enaid y mae Cradoc a'i amcan yw dangos cryfder aruthrol y rhwymyn cariad rhwng yr enaid a Duw.

Ac mae yna hefyd ddiddordeb aruthrol yn y pwnc yma.

Ers sefydlu Teledu Annibynnol mae nifer y sianelau wedi cynyddu yn gyson, a'r cynnydd wedi cyflymu yn aruthrol yn ystod y degawd diwethaf gyda theledu lloeren ac, yn ddiweddar, teledu digidol.

Yn ôl Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Radio Cymru, bu buddugoliaeth ddydd Sadwrn yn hwb aruthrol i'r garfan gyfan - nid yn unig y rhai oedd yn chwarae.

At ei gilydd, mae gweinyddu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ffenomen gymharol newydd ac er bod defnydd cyhoeddus o'r Gymraeg wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y degawdau diwethaf, nid yw gweithredu drwy gyfrwng y ddwy iaith eto'n beth cwbl arferol a diffwdan.

Dyma nhw'n ein gwahodd ni i mewn i'r eglwys a, hyd yn oed mewn ardal oedd yn uffern ar y ddaear yr adeiladau wedi'u difrodi, tlodi aruthrol - dyma ni'n camu i mewn i'r eglwys a dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi profi heddwch fel yna mewn lle fel yna erioed o'r blaen.

Yr oedd gweithio ffwrnais yn llafur aruthrol, oblegid golygai drin platiau trymion a gwynias gyda gefail hir.

Mae'n anhygoel i rywun o'r tu allan weld y difrod aruthrol a chlywed y difrod yn digwydd - y gynnau a'r bomiau a'r shells.

Yn aruthrol bwysig.

Gwylais gêm o Ffrainc ar y teledu y dydd o'r blaen a chawsom wledd o chwarae dyfeisgar ac atyniadol gyda'r amddiffynfeydd yn diodde cyfnodau lletchwith aruthrol.

Ac y mae'r cyfleusterau wedi gwella a chynhyddun aruthrol ers fy nyddiau i.

Y mae Lerpwl yn ddinas fawr boblog a'i dylanwad politicaidd yn aruthrol.

Mae hi'n fenter aruthrol ond cwbl angenrheidiol i ddyfodol pêl-droed Cymru.

Pan ymddangosodd Teflon Monkey ar raglen Iestyn George –Y Sesiwn Hwyr – nôl ym mis Hydref, 'roedd hi'n amlwg bryd hynny fod gan Rhodri Vine dalent aruthrol a bod ei gerddoriaeth yn syml ond eto yn hynod o effeithiol.

Fe'i gwele~ yn dod a llwyddais i guddio r,~ poteli fel na fydde ganddo'r darlun yn ei bapur newydd y diwrnod wedyn danlinellu'r beirniadaethe cyson oedd yn y papure arn y GwyddelodSylwodd y dorf ar yr hyn wnes i ac fe ges i gymeradwyaeth aruthrol.

Meddyliwch mewn difrif am wynebu ei waith cyhoeddedig cyntaf, sef rhybudd aruthrol (a rhuthrol) y Llythur ir Cymru Cariadus.

Golygai waith aruthrol yn paratoi'r testun ar gyfer ei argraffu a darllen y proflenni tra oedd yn y wasg.

Ond mae'r llyfr yn rhoi darlun o grwp sydd wedi bod o dan straen aruthrol ac wedi gorfod gweithion anhygoel o galed am flynyddoedd cyn derbyn clod.

Rhoddwyd yr holl sector, yn unigolion, yn gwmniau a Chyngor y Celfyddydau mewn cyfyng-gyngor aruthrol.

Tyfodd nifer y picedwyr yn aruthrol o naw o'r gloch ymlaen.

Y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel oedd cyfnod ei greu mwyaf, blynyddoedd o newidiadau hanesyddol aruthrol pan drodd mwy nag un arlunydd ei gefn ar ganolfannau artistig ac ymgolli mewn tirlun arbennig.

Ar ddiwedd y Mileniwm ymddeolodd Huw Tregelles Williams fel cyfarwyddwr cerdd y Gerddorfa, yn dilyn gyrfa hynod gyda BBC Cymru lle tyfodd statws y Gerddorfa yn aruthrol.

Y peth sy'n dod yn amlwg wrth adolygu'r brwydrau yw'r cyfraniad aruthrol a wnaeth Plaid Cymru.

Rydyn ni yn PDAG yn awyddus iawn i weld cydnabod pwysigrwydd aruthrol addysg yn y blynyddoedd cynnar a safle'r Gymraeg yn yr holl wasanaethau i'r plentyn ifanc a'i deulu.

yr oedd dyfais newydd david hughes, er mor amherffaith, yn cynnig arf bwysig i'r consortiwm, gan ei fod cymaint yn well nag unrhyw beiriant arall, ac felly gallai roddi mantais fasnachol aruthrol i'r sawl a'i pherchenogai.

Ond fy ateb oedd, "Nawr mae'r frwydr yn dechrau!" Diamau i mi gael siom aruthrol, oherwydd, erbyn Cynhadledd y Cilgwyn, 'roeddwn fel Job gynt, yn llawn cornwydydd, ond nid ataliodd hyn ddim ar y gweithgareddau na'r brwdfrydedd.

Yn yr ardaloedd fu'n rhai di-Gymraeg yn draddodiadol ond lle mae twf aruthrol wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae dysgu Cymraeg i oedolion yn cyfrannu at y twf a'r bwrlwm ac yn elfen bwysig wrth sicrhau bod y plant sy'n dysgu'r Gymraeg yn yr ysgol yn cael y cyfle i'w siarad hi y tu allan.

Allai elusennau fu'n gwneud y gwaith ers degawdau ddim cystadlu â'u hymroddiad a'u hegni - er bod adnoddau'r fyddin, wrth gwrs, yn fantais aruthrol.