Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arweiniai

arweiniai

Roedd y rhesymau am hyn yn gymhleth ac amrywiol iawn ond un rheswm diamheuol oedd y ffaith nad oedd y cyrsiau a arweiniai at yr arholiadau traddodiadol mewn ieithoedd modern yn atyniadol i'r mwyafrif.

Taflodd hynny ddwr oer ar ben unrhyw awydd i ddilyn y gŵr i mewn i'r hen siafftiau plwm a arweiniai o'r ogof.

Arweiniai John hwy yno'n ddiddadl, ambell dro i wrando ar bregeth.

Ymlaen a ni, gan adael Plzen a dod o hyd i'r draffordd a arweiniai i Prâg.

Arweiniai'r ymweliad hwn ni at ei hanes fel gwas bach (page boy) yn Llwyngwair gyda'r Boweniaid a'r atgofion am ymweliadau'r teuluoedd o'r Cilgwyn a Stradmore a'r dillad hardd a wisgent wrth y bwrdd cinio lle'r oedd disgwyl iddo weini yn gwrtais.

O'r diwedd cyrhaeddodd y coridor cul a arweiniai at y drws.

Roedd y gyfres 17 rhan yn edrych yn ôl ar y 1,000 o flynyddoedd diwethaf yng Nghymru a arweiniai at 1985 pan gynrychiolodd diwedd streic y glowyr guriadau olaf calon ddiwydiannol y wlad.

Cymerodd ein bws awr gyfan i ddringo'r pum milltir o ffordd droellog a arweiniai at y ffin.

Doedd dim sôn am yr holl lwch folcanig amryliw - y llwch lle'r oedd Meic ac Elen wedi darganfod yr hen gledrau a arweiniai at fynedfa gudd Craig y Lleuadau.

Cawsant drafferth mawr i ddychwelyd at y llwybr a arweiniai i fyny'r ceunant.

cafodd griff tomos afael ar seth harris, ei gymydog, i ddod gyda nhw, a chyda gethin ym mlaen y car gyda 'r sarsiant cychwynasant am y ffordd a arweiniai i lawr y dyffryn ymron ochr yn ochr ag afon afon.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

O'u cwmpas roedd cannoedd o filidowcars a gwylanod yn sgrechian eu protest wrth i'r cwch pysgota bychan lithro'i ffordd i fyny un o'r hafnau a arweiniai i Ogof Plwm Llwyd.

Arweiniai'r cyfarfod at sefydlu cynllun maes o law.

'Carwenna,' llefodd, gan afael yn dynn yn Man, fel petai he heb ei gweld ers blynyddoedd, 'mae 'na sŵn rhyfedd yn dod o fan'na!' A phwyntiodd i gyfeiriad y grisiau cefn a arweiniai i'r hen lofft chwarae.

"Fe arhosodd ar ol y pnawn 'ma i orffen y darlun." Agorodd y drws a arweiniai i'r cyntedd, a galw drwyddo.

Ar ochr ddwyreiniol y cyntedd, arweiniai grisiau wedi eu haddurno â theils i fyny i oriel â rheiliau haearn a thamaid arall o ramant gwydr lliw.