Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

arwrol

arwrol

Yn ystod ei gyfnod yn y fyddin, fodd bynnag, mae'n disgrifio un weithred arwrol a wnaeth pan yn croesi Môr India.

Nid pledio achos rhyw aberth arwrol ydw i ond pledio achos glynnu at egwyddor.

Ymhlith y straeon trist am drasiedi, camgymeriadau a gweld bai a ddilynodd y trychineb caed rhai arwrol iawn hefyd.

Nid hanes 'arwrol' a geir yma (er bod arwyr Dylan Phillips yn amlwg ddigon yn y naratif). Ymdriniaeth ddeallus a threiddgar ar ddatblygiad y Gymdeithas yw'r gyfrol hon, llyfr sy'n gorfodi'r darllenydd i fyfyrio'n ddwys uwchben y pwnc a gofyn cwestiynau anodd.

Mae yma sôn am fenter arwrol Sulyn, cyfraniad y papurau bro a sylw bachog mai Radio Cymru, efallai, ydi'r mynegiant cywiraf o'r traddodiad newyddiadurol Cymreig.

Wrth ddewis ymdrin a llipryn o brif gymeriad, clwtyn llestri o ragrithiwr a neidiodd ar wagen y Rhyfel Degwm er mwyn taflunio delwedd arwrol ohono'i hun i dwyllo cymdeithas hygoelus a ffug-barchus, yr oedd Tegla fel petai'n ensynio'n anuniongyrchol mai tan siafins oedd y frwydr wleidyddol, ac nad oedd yr holl helyntion ond rhyw ddrama ddisylwedd.

Mae'r ansoddau sy'n hoff gan awdur y Pedair Cainc, sef gostyngeiddrwydd, diweirdeb a ffyddlondeb, yn groes i ansoddau'r gymdeithas arwrol y datblygasai'r Prydeinwyr a'r Cymry ohoni ac a ddethlid ganddynt yn eu llenyddiaeth.

Bellach rhaid i awduron Cymru ailddarganfod ac ail-greu cyfnod arwrol y diwydiant glo cyn y cloddir llenyddiaeth o bwys ohono.

Gwelir yr elfennau sy'n tarddu o hanes, a'r rhai onomastig, ond y mae'r rhan fwyaf yn nodi problemau ynglŷn â'r gwaith am fod yr arwr tybiedig, Culhwch, yn cadw ar gyrion y stori, gan adael cyflwyno'r tasgau arwrol i Arthur, a bod hwnnw yn ei dro 'dan law' y cawr ynfyd Ysbaddaden Bencawr.

A chydag ymdrech arwrol, a stoc dda o hwiangerddi, fe lwyddodd i gadw'r bechgyn i ganu bob cam o'r ffordd yno.

Iddo ef, nid hanes pobl neu gymeriadau o'r enw Culhwch, Olwen, Arthur, Ysbaddaden, ac ati, a geir yn y chwedl, ond hanes arwrol un enaid dynol yn prifio trwy ei lasoed i oedoliaeth gyflawn, gytbwys.

Gynt roedd awydd plant ac oedolion am gael profi blas byd natur, hud a lledrith a'r goruwchnaturiol yn cael ei ddiwallu helaeth drwy wrando ar chwedl; gwerin, megis chwedlau arwrol a chwedlau'r Tylwyth Teg.

Mae pob mudiad ymgyrchu sy'n ymdrechu i sicrhau newidiadau cymdeithasol o bwys yn gaeth i'w fytholeg arwrol ei hun i ryw raddau: canmolir yr arloeswyr, mawrygir y merthyron, a dethlir yr uchafbwyntiau a'r llwyddiannau.