Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

asgellwr

asgellwr

Bydd Simon Easterby, blaen-asgellwr Llanelli ac Iwerddon, allan o'r gêm tan tua'r Nadolig.

Yn ogystal â'r gosfa, pedwar cais i un, cafodd asgellwr Llanelli, Mark Jones, ei gario o'r maes.

Hefyd yn ôl yn y tîm fydd yr asgellwr Jonathon Coates.

Bu Craig Morgan, asgellwr Caerdydd, yn ymarfer gyda'r garfan y bore yma.

Mae Caerdydd yn siomedig gyda phenderfyniad Undeb Rygbi Cymru i wahardd eu blaen-asgellwr Dan Baugh am ddeuddeg gêm am sathru yn stod y gêm yn erbyn Abertawe y mis dwetha.

Cafodd Caerffili ddau gais - gan David Hawkins a'r asgellwr Geraint Lewis.

Y ddau yw asgellwr Castell Nedd, Shane Williams, a mewnwr Glyn Ebwy a chapten y daith, Richard Smith.

Ond bedair munud i mewn i'r ail hanner, dangosodd America eu gallu ymosodol - yr asgellwr Malakai Delai yn croesi'n y gornel ar ôl i Allan Bateman fethu tacl allweddol.

Byddan nhw'n ymuno â chriw dethol iawn - dim ond wyth o'u blaenau nhw sy' wedi cyflawni hynny, gan gynnwys yr asgellwr Ieuan Evans.

Mae'n rhywfaint o syndod nad yw asgellwr dawnus Caerdydd, Craig Morgan, yn cael ffafriaeth ar ôl disglleirio a sgorio dau gais gwych dros ei glwb echdoe.

Mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi arwyddor bachwr Jonathan Evans o Fryste ar asgellwr Richard Johnson o Gastell Nedd.

Doedd Delme Williams, yr asgellwr o Gastell Nedd, ddim yn y tîm ddydd Sadwrn felly bydd ei goese fe yn ddigon ffres heno.

Cafwyd cadarnhad y prynhawn yma mai hyfforddwr Lloegr a chyn-flaen asgellwr Caerfaddon, Andy Robinson fydd cynorthwy-ydd Graham Henry ar daith y Llewod i Awstralia yr haf nesaf.

Dangosodd wyth Llanelli y gallent hwythau hefyd hyrddio'n effeithiol ar ôl sgrym, ac ennill ryc, a defnyddio'r meddiant pan ddaeth Luc Evans i mewn i roi pas wych i Andrew Morgan, yr asgellwr de, a chwaraeodd yn lle Ieuan Evans anafus.

Bydd Elgan Jones, yr asgellwr 19 oed, yn chwarae ei gêm gynta i Gaerdydd yn erbyn Caerffili heno.

Y chwaraewr a wynebodd y gosb honno dan law'r dyfarnwr, Meirion Joseph, oedd asgellwr Pen-y-bont, Doug Schick, am iddo droseddu yn erbyn Andy Hill, a hynny pan oedd yr ymwelwyr yn ennill o dri phwynt i ddim.

Fydd Caerdydd ddim yn enwi clo Abertawe, Tyrone Maullin, wedi tacl uchel dorrodd ên a thrwyn asgellwr Caerdydd, Paul Jones, yn y gêm yng Nghynghrair Cymru a'r Alban ar Sain Helen.

Bydd cefnogwyr Abertawe yn gobeithio y bydd yr asgellwr Stuart Roberts yn aros ar y Vetch.

'Rwyn edrych ymlaen yn fawr iawn i'r gêm,' meddai asgellwr Cymru, Rhodri Gomer Davies o Goleg Llanymddyfri ar y Post Cyntaf y bore yma.

Mae asgellwr Casnewydd Matt Mostyn yn symud y sydyn ar, ac oddi ar, y cae y dyddiau hyn.

Asgellwr Ontario, Jamie Collins sgoriodd gais y noson.

Rhediad hir crymaidd o ganol y maes i'r asgell dde gan y maswr bach o Lanelli (a roddodd amser inni gofio am Cliff Morgan a Phil Bennett, a diolch yr un pryd y bydd gennym ni faswr o'r iawn ryw unwaith yn rhagor cyn bo hir), a dau gais, y naill ar ôl camgymeriad dybryd gan Thorburn a James Reynolds, yr asgellwr chwith ifanc, yn eu ceisfa, a'r llall, a'r olaf, pan ddaliodd Simon Davies y bêl o gic gosb Stephens wrth y postyn chwith.

Hefyd bydd blaen-asgellwr Abertawe, Paul Moriaty, yn teithio i Ogledd Lloegr, ond fydd e ddim yn cael ei gynnwys yn nhîm Cymru os na fydd yswiriant wedi ei drefnu ar ei gyfer.