Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

asiantaethau

asiantaethau

Mae'r Panel yn cydnabod fod lles economaidd a chymdeithasol cymuned y Parc yn bwysig er mwyn cadwraeth effeithiol a mwynhad o'r Parciau, ac na ddylid edrych ar ymwneud Awdurdodau'r Parciau yn y maes hwn fel prif swyddogaeth ond fel swyddogaeth gefnogol i asiantaethau eraill.

Ni fyddai'n bosib cynhyrchu cynifer o deitlau yn flynyddol heb asiantaethau gyda staff llawn amser â'r arbennigedd pwrpasol.

Dylid nodi'n eglur gyfrifoldebau athrawon dosbarth ac athrawon eraill o safbwynt cydgysylltu'r ddarpariaeth a wneir gan yr ysgol a chan asiantaethau eraill.

Mae hefyd yn enghraifft arall o Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i ddatblygu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes technoleg gyfoes.

A yw cynllunio ac ymarfer yn cynnwys asiantaethau a disgyblaethau y tu allan i'r ysgol er mwyn cwrdd ag anghenion unigol?

Golyga hyn fod angen asiantaethau sydd â'r arbenigedd i ddatblygu adnoddau yn y gwahanol gyfryngau sydd eisoes ar ddefnydd yn helaeth a'r rhai fydd yn datblygu yn y dyfodol, megis CD-ROM.

Mae llawer o fudiadau ac asiantaethau eto i ddarparu gwybodaeth ar dap, cyfieithydd neu systemau dolen.

Wrth estyn y gwahoddiad, amlinellodd brif elfennau ei swyddogaeth: bod yn fforwm a fyddai'n gallu cynghori llywodraeth ganol a lleol ar bolisi iaith; gwella cydlynu ymhlith asiantaethau sy'n cyfrannu at addysg yn yr iaith Gymraeg; dynodi anghenion datblygiad, a blaenoriaethau oddi mewn i'r anghenion hynny, ac i fod yn gyfrwng i'w hateb; dosbarthu gwybodaeth; dynodi anghenion ymchwil.

Erbyn y chwedegau roedd mwy a mwy o 'Oruchwylwyr Trwyddedig Ymfudiaeth' yn hysbysebu eu gwasanaethau amrywiol yn rheolaidd yn y wasg, a'r Herald Cymraeg, er enghraifft, yn cynnwys asiantaethau a oedd yn canolbwyntio ar ddenu Cymru oedd a'u bryd ar ymfudo.

Dylai'r ysgol gynnwys y disgyblion a'u rhieni mewn trafodaethau am anghenion y disgyblion, a chael gweithdrefnau ar gyfer comisiynu cyfraniadau gan asiantaethau allanol lle bo angen hynny.

Mae'r adroddiad yn cydnabod gwerth a nerth cyfraniad y mudiadau gwirfoddol ac asiantaethau eraill i'r maes ac mae ynddo gynigion cadarn ar gyfer datblygu a gwella'r ddarpariaeth drwyddi.

Mi glywais i fod o'n ddigartref." Ar hyn o bryd mae Densil John yn aelod o bwyllgor 'ambarel' sy'n ceisio cofleidio nifer o'r asiantaethau sy'n gweithio gyda'r digartref yn y ddifleidio n "Mae Caerdydd yn fwy deniadol na Merthyr ac yn ganolfan i'r Cymoedd.

Hefyd mae gennym fynediad i ffynonellau y tu allan i'r BBC, fel asiantaethau newyddion rhyngwladol.

Dylid trafod gydag adrannau eraill o'r cyngor, asiantaethau a'r sector wirfoddol sut y gellir gwneud y defnydd helaethaf o adeiladau ac adnoddau ysgolion i wasanaethu'r gymuned.

Rhoddir lle anrhydeddus i'r genhadaeth dramor a'r gofal sy'n cael ei gynnig i'r tlodion gan asiantaethau dyngarol a Christnogol fel Tearfund.

Gall asiantaethau'r llywodraeth ganolog, y Sefydliad dros Ecoleg Ddaearol a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, hwythau eu harolygu.

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

Dylai awdurdodau unedol, yn arbennig, ynghyd â'r Bwrdd ac asiantaethau perthnasol eraill fod yn barod i ateb y galw am sefydlu mentrau newydd; rhaid bod yn barod ar yr un pryd i ddatblygu'r mentrau sy'n gweithredu eisoes.

A yw staff meddygol a phara-meddygol a staff o asiantaethau allanol yn cael chwarae rhan gyflawn?

ASIANTAETHAU A MENTRAU Cyngor y Llywodraeth Ganol Er gwaetha'r amgylchiadau hyn, mae'n amlwg y bydd rhaid i ddatblygu cyfleoedd gwaith newydd ddigwydd o fewn fframwaith polisiau presennol y llywodraeth.

Byddai'r DAA yn ystyried barn pobl proffesiynol (seicolegydd addysg, gweithiwr cymdeithasol, meddyg ac yn y blaen), asiantaethau eraill (er enghraifft, gweithwyr y sector gwirfoddol megis staff cylchoedd meithrin, swyddogion addysg RNIB ac yn y blaen), ynghyd â rhieni wrth ddisgrifio angen y plentyn a chynllunio ar gyfer ateb yr angen hwnnw oddi fewn i'r gwasanaethau addysgol.

Dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sydd yn cwrdd anghenion lleol am waith, yn cyfrannu at amcanion parc cenedlaethol a helpu i ychwanegu at werth cynhyrchion lleol; ii) Datblygwyr ddylai fod yn gyfrifol am gostau ychwanegol dylunio neu ddefnyddiau adeiladu er mwyn cyrraedd y safonau amgylcheddol uwch sydd yn angenrheidiol mewn parciau cenedlaethol; iii) Dylai asiantaethau datblygu gwledig ac awdurdodau lleol gydweithio gyda'r parciau cenedlaethol i hybu cynlluniau datblygu economaidd sydd yn cydweddu ag amcanion parciau cenedlaethol; iv) Dylid edrych yn ffafriol ar arall gyfeirio fferm sydd yn cyfrannu at gynnal busnesau fferm heb beryglu amcanion parciau cenedlaethol.

A yw cyfraniadau rhieni a staff o asiantaethau eraill yn cael eu cydgysylltu'n effeithiol fel bod y disgybl yn cael rhaglen ddysgu gydlynus.

Pa mor effeithiol yw'r ysgol wrth gomisiynu a defnyddio asiantaethau cynorthwyol allanol?