Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

asio

asio

Gwnaed iawn am hyn yng nghynhyrchiad Merfyn Owen ar y teledu drwy bwysleisio'r grisiau ar amserau tyngedfennol yn y sgript ac asio hynny a phwyslais neu gynnydd mewn cerddoriaeth a ddynwaredai guriad calon (cerddoriaeth William Mathias).

Mae'r uchelwyr Cymraeg yn dal i deimlo diddordeb ym materion eu hardal enedigol ond y maent ar yr un pryd yn dod yn aelodau cyflawnach o'r sefydliad canghennog a grewyd gan y Tuduriaid i asio Cymru wrth Loegr.

Y mae gan Gwenlyn y gallu i greu triciau llwyfan sy'n rhan o'r themau ac mae codi muriau'r cwt ar lwyfan yn rhan o asio cyfeillgarwch Williams a Now yn weladwy.

Bydd yr astudiaethau hyn yn codi o'r gwaith a gyflwynir yn ystod yr oriau cyswllt, wedi'u seilio ar ddamcaniaethau a sylfaen academaidd, ac yn cynnig cyfle i asio'r syniadaeth a gyflwynir gydag ymchwil dosbarth ar raddfa fechan.

Synnwyd staff yr Antur gan eu gallu i greu basgedi bendigedig o bob siâp a maint yn llawn o flodau sychion, a hynny mewn lliwiau sy'n asio'n berffaith.

Dangosir meistrolaeth y grwp wrth iddyn nhw asio yr holl arddulliau gwahanol sydd yn eu cerddoriaeth i greu campwaith sy'n gwbl unigryw.