Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ataf

ataf

Gogwyddodd tuag ataf ar flaenau ei thraed.

Byddaf yn meddwl weithiau tybed a fyddai Dic wedi dangos rhyw hoffter tuag ataf i petai Mam heb ddangos mor eglur ac mor aml iddo nad oeddwn i'n deilwng o serch neb.

Ac fel yr oeddwn yn edrych, gwelais law wedi ei hestyn tuag ataf gyda sgrôl ynddi.

Gwelwn ar unwaith hen frawd o'r enw Wil Owen Hen Dy yn dyfod ataf yn gweiddi a gweddio, ac fe ddywedodd wrthyf: 'Fachgen, yr oeddwn yn meddwl mai cyfeirio at dy dad yr oeddet,' (am fod ef wedi ei ladd mewn gwaith heb fod ymhell oddi yno).

Daeth ataf a rhoi ei law ar fy ysgwydd yn ei ddull cu a thadol (a bu ei gyffyrddiad grasol yn help nid bychan i mi ddeall ystyr seicolegol 'tadolaeth Duw', reit siwr).

Daeth Menna ataf, a sibrwd, "Sut ydach chi?

Beth bynnag, mae'r giard yn amlwg yn amddiffyn fy ngwely i, oherwydd mae'n rhoi ei law arno, yn ysgwyd ei ben yn filain, ac yna'n troi ataf gyda gwen nefolaidd...

Daeth yr lesu'n agos iawn ataf, mor agos nes i'm calon doddi o gariad ato.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

Wel, mae gen i fol, dydw i ddim yn ffit ac mi fedrai ollwng pêl sy'n cael ei thaflu ataf i.

Sgrifennodd ataf i holi amdanat.

Ar ôl yr ymladdfa roedd o'n ymagweddu tuag ataf yn wahanol.

Cerddodd yn araf tuag ataf "Pam na fasech chi'n dwad i eistedd efo mi yn y sedd flaen?" "'Roedd yn well gen i fod o'r golwg.

Roedd wedi diflannu cyn i mi fedru cael fy ngwynt ataf a'i ollwng allan.

Drannoeth ar ôl glanio yn Dubai, daeth Salim ataf gan ddweud wrthyf ei fod am ddangos golygfa ryfedd imi.

Y clown 'nes i fwynhau fwya - mi oedd o'n baglu dros ei draed a phetha felly, ac mi ddaru o bwyntio ataf fi, a gofyn i mi be' o'dd fy enw fi.

.~ Ynghanol y gêm taflwyd dwy botel tuag ataf o'r dorf ac wrth i mi eu pigoo'r llawr i'w cymryd at yr heddlu rhedodd un o ddyruon camera y papure~ newydd tuag ataf i dynnu llun.

"Ond bob tro y down ataf fy hun, dyna lle'r oedd Rex yn ail-afael yn fy jersi ac yn tynnu ei orau.

Adroddwyd straeon lawer wrthyf am y mulod hynny, ac un wraig a gymerth ataf lun, ar ba un yr oedd y teithwyr oddi mewn i'r trên, a mul yn eistedd ar y llwyfan y tu allan i'r cerbyd, ac yn ôl a welwn i yr oedd y mul yn dangos cymaint boddhad â'r bobl wrth deithio.

Trodd ei golwg i'm cyfeiriad a daeth ataf a gofyn yn Saesneg: 'Where are you bound for?' 'Scotland,' meddwn innau.

Ar y diwedd daeth Dewi ymlaen ataf.

Fin nos daeth Mac ataf yn llawn cyffro i ddweud ein bod ni'n dau i ymadael yfory.

A'r un diwrnod pan oedd ein gwragedd yn siopa a ninnau'n edrych ar rywbeth neu'i gilydd daeth merch ifanc arall ataf gyda 'hard luck story' ac eisiau arian.

Daeth Margaret Thatcher ataf ac fe'm cyflwynwyd a dechreuais siarad â hi.

Fel yr wyf wedi disgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn oed pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr.

Daeth y meddyg, syllodd yn drist arni a daeth ataf i ystafell arall gan ddweud: Mae'n ofnadwy o ddrwg gennyf am hyn ond peidiwch â disgwyl medru cadw'r beth fach lawer yn hwy." "Fedrwch chi ddim rhoi rhywbeth bach i godi ei stumog?" gofynnais ymhen ysbaid.

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Daeth merch ifanc ataf mewn siop a dweud "Oh.

Llifodd Cariad Duw ataf yn ddi-baid yn ystod misoedd fy ngalar.

Gwaith anodd oedd cadw llygad arno o hyd, a dweud y gwir, heb dynnu sylw ataf fy hun.

"Pwy sydd isio rhyw sloban o hen fuwch fel Emli Preis?" "Ydw i'n ych nabod chi?" gofynnodd Emli Preis wedi cyrraedd ataf.

Neshaodd draw tuag ataf a gwenodd gyda'i cheg ac roedd ganddi ddannedd bychan, miniog, rheibus mor wyn â bywyn oren newydd ei blicio ac mor ddisglair â phorslen.

Gosod Eseciel yn Wyliwr Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud: Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.

Daeth draw ataf a'i gwen hawddgar arferol yn gwneud plygiadau yn ei hwyneb.

Mewn cryn benbleth daeth ataf.

Gyda'n bod ni wedi cyrraedd yr awyr agored, roeddwn yng nghanol twr o fechgyn, a chwestiynau yn dylifo ataf o bob cyfeiriad.

Eisteddais ar dywod y draethell Gan edrych ar wyneb y lli; Canfu+m fod y tonnau yn gwynnu Wrth ddyfod yn nes ataf i.

Talodd am hanner peint o gwrw i mi, a phan oedd efe yn ei estyn ataf, gwrthodais ei gymryd.

Gwr hynaws a charedig iawn oedd y Cyrnol, a phan gafodd ei wely newydd daeth ataf.

A phan gerddai tuag ataf ar gyrion llychlyd iard yr ysgol, ei ddyrnau'n 'i gaddo hi a'i lygaid yn bygwth ffeit a'i holl gorff yn ysu am roi cweir imi, fe wyddwn drwy'r ofn mai canlyniad oedd hyn i'r pellter hwnnw nad oedd yr un ohonom yn gyfrifol amdano.

Dychwellodd ataf a'm cofleidio.

Pan daeth y meddyg ataf - merch - i roi'r rheswm am ei farwolaeth gofynnodd yn annwyl a oedd gennyf rywbeth arbennig y buaswn yn hoffi ei roi amdano.

Un dydd Gwener ar ddiwedd darlith olaf y bore dyma JE Daniel, ar ôl gorffen darlithio ar Athrawiaeth Gristnogol, yn dod ataf ac yn gofyn imi fynd gydag ef y noson honno i annerch cyfarfod y Blaid yn festri Capel Maes y Neuadd, Trefor.

gofynnai fy mam gan droi ei llygaid ataf i.

Gwelodd un o'r swyddogion fi, a daeth ataf i fy amharchu a fy nghuro; trewais innau ef lawer gwaith, ac ar ôl hir ffrwgwd ac ymladd mi a sobrais.

Roeddwn yn cynllunio cyfres deledu o bortreadau o arweinyddion y byd pan ddaeth y merched ataf i ddweud fod Menem yn barod i gydweithredu.

Fe'u gwelwn nhw o bell yn ei gwneud hi tuag ataf.

cyffrôdd drwyddi, trodd ei phen tuag ataf, y llygaid yn dân, a dweud yn glir glir, 'Am lefydd, nid am grefydd, am Rosgadfan.' Yna ymlonyddodd drachefn.

Byddaf yn teimlo weithiau fy mod i'n ddigon tebyg i falwen, yn tynnu fy nghyrn ataf ac yn mynd i mewn i'm cragen pan fydd rhywun yn dod yn rhy agos ataf.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

Gallwn yn hawdd fod wedi ei hoffi a maddau llawer iddo petai wedi dangos yr arwydd lleiaf o serch tuag ataf.

Oddi ar ei farw yn Awst bu+m yn ailddarllen ei gyfrolau o gerddi, a'i lythyrau ataf.

Rhywle ymysg y papurau hyn fe fuaswn i'n siwr o ddod o hyd i neges wedi ei chyfeiro ataf i yn unig.

'Roeddwn eisiau gweld y pridd yn disgyn o'r rhaw ar ben yr arch er mwyn anghofio'r holl hanes erchyll am byth." "Ond wnaeth hynny ddim digwydd?" gofynnodd y cyfaill agosaf ataf gan ail lenwi'r gwydryn.

Ond chwarddodd y twr bechgyn yn galonnog, a heb ddangos unrhyw ddig tuag ataf.

Yn ystod y bore fe ddaeth John Hughes, Bryntirion ataf, ac fe ddywedodd wrthyf:

Yna daeth Margaret Thatcher ataf a dywedais wrthi wrth ei hebrwng tuag at y neuadd orlawn beth oedd trefn y noson.

Ond roedden nhw yn byw bywyd caled, moel, oedd yn apelio ataf fi.

Dyma fo'n fy ngweld i ac yn dod ataf i ymddiheuro'n arw gan ddweud: "I've been on this f...ing street all f...ing afternoon and I've had enough" ac wedi dod am beint.

Ond pan droes yn ôl ataf fi yr oedd yn gwenu unwaith eto.

Roedd Dawnswyr Nantgarw newydd ennill y wobr gynta' ac yng nghanol miri'r dathlu fe ddaeth un o ferched tîm Illa de Vermadon o Bimisalen, Mallorca ataf i'n llongyfarch.

Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.

"W^n i ddim am faint o amser ddaru mi orwedd," meddai, "ond wedi i mi ddod ataf fy hun, teimlais geg Rex yn gafael yn fy ysgwydd." "Ceisio eich llusgo adref yr oedd o," atebodd Louis.

Gweld gwn-awyr telesgopig yn anelu tuag ataf.

Mi ro i'ch enw chi i lawr ar gyfer hwnnw.' Trodd ataf wedyn - 'Beth am y flwyddyn wedyn?

Un tro daeth bachgen ataf yn Sarn Bach, a theimlwn ei fod yn dymuno cael sgwrs.