Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atebolrwydd

atebolrwydd

Atebolrwydd: Mae'r Quango hwn fel pob Quango arall yn atebol i'r Swyddfa Gymreig trwy'r Ysgrifennydd Gwladol nid i bobl Cymru.

Esboniodd - - fod yr hawl i archwilio yno er diogelu'r Sianel mewn achosion o dorr cytundeb, mewn achosion lle nad yw'r comisiynydd yn teimlo ei fod wedi cael gwerth ei arian, ac er mwyn atebolrwydd cyhoeddus.

Yn y cyfamser, rhaid byw yn Nhir y Cwango a gweld democratiaeth ac atebolrwydd yn chwalu'n chwilfriw o'n cwmpas, a'r gwasanaethau sy'n cwrdd ag anghenion sylfaenol ein cymdeithas yn cael eu gwasgu o bob tu.

Yn ôl yr Aelod Seneddol Llafur, Bob Marshall-Andrews, un a arwyddodd y cynnig, mae o'n bryderus ynglŷn â diffyg atebolrwydd yr Arglwydd Falconer.

Mae mentrau atebolrwydd eraill yn cael eu datblygu, gan gynnwys defnyddio tudalennau ar y we yn fwy effeithiol.

Eto, os trosglwyddir y cyfrifoldeb am waith y Swyddfa Gymreig a'r atebolrwydd amdano i Gynulliad etholedig oni fydd yn anodd cadw swydd Ysgrifennydd Cymru?

Fe ddywedodd - - y dylid edrych ar y broblem o atebolrwydd fel problem o werthuso gwaith yn hytrach na dilysu.

Er mwyn gweld cynnyrch yn ymddangos o fewn cyfnod penodol dylid symud at system ariannu a fydd yn cydnabod yr holl elfennau o bob project yn llawn a hefyd yn cynnig atebolrwydd ariannol effeithiol.

* diffyg atebolrwydd clir;