Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atgyfnerthu

atgyfnerthu

Mae'n bwysig iawn fod aelodau'r Pwyllgor yn deall o'r cychwyn bod modd defnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn y cyfarfod a gellir atgyfnerthu hyn yn weledol drwy osod copi o bolisi iaith y Cynulliad (pan ddaw) neu eiriau Deddf Llywodraeth Cymru ynghylch defnydd y ddwy iaith, neu Reol Sefydlog 8.23 -- 'Caiff aelodau'r pwyllgorau, a phersonau eraill sy'n annerch y pwyllgorau siarad Cymraeg neu Saesneg, a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer trafodion Cymraeg.

Ac yn wir i chi, fel yr oedd cloc yr eglwys yn taro deuddeg, i lawr â'r mul, a diniwedirwydd a chredo'r plant mewn grym ewyllys da wedi ei atgyfnerthu a'i gadw, wel am flwyddyn arall o leiaf.

Mae'r cytgan yn aros yn eich pen ac yn nes at ei diwedd mae lleisiau'r merched sy'n canu cefndir yn atgyfnerthu'r swn.

Gwyddai Jacob fod darllenwyr Yr Ymofynnydd wedi hen gyfarwyddo â gweld eu cylchgrawn yn syrthio i gysgu ar adegau anodd, eithr yn dihuno'n fuan wedi'i atgyfnerthu'n llwyr.

Mae'r ddwy ddyfais yma yn ddulliau effeithiol i atgyfnerthu pwynt neu i gyflwyno pwnc arbennig ond mae'r ddwy ddyfais yn anodd iawn i'w cynhyrchu ar ffilm heb gyfarpar cymhleth, drud thrwsgl.

Atgyfnerthu'r dysgu

Tra 'roedd y gweddill ohonom yn atgyfnerthu a chael ein gwynt atom yr oedd hi yn cael ei holi am bob math o bethau gan y wasg.

Yna, defnyddir drychau i adlewyrchu'r goleuni yn ôl ac ymlaen drwy'r crisial i'w atgyfnerthu ymhellach.

92% o'r Cymry Cymraeg a 77% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Efe a achosodd i'r economi aros yn ei hunfan am gyfnod hir, meddir, drwy osod y pwyslais i gyd ar atgyfnerthu'r diwydiannau trymion traddodiadol a alluogai Rwsia, yn ei farn gyfeiliornus ef, i gystadlu a gwledydd nerthol y gorllewin.

Buont hefyd yn gyfrwng i atgyfnerthu'r tueddiadau hynny a ogwyddodd Davies i gyfeiriad trosi'r Ysgrythur a threfn y gwasanaeth i'w iaith ei hun.

Gan fod y prif reswm dros y dirywiad yn un economaidd, dylid ystyried yr holl ffactorau economaidd a sosio-economaidd a allai effeithio ar yr iaith wrth ymdrin ag atgyfnerthu'r iaith yn y gymuned.

Trowch i'r chwith i gylchynnu'r llyn, mae'r llwybr yn hawdd i'w ddilyn, yn wir, cymaint fu'n heidio yma'n ddiweddar bu'n rhaid ei atgyfnerthu rhag achosi erydiad pellach.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.

Rhaid felly cael dyfeisiau i atgyfnerthu'r goleuni bob hyn a hyn ar hyd y ffibr.