Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atgynhyrchu

atgynhyrchu

Mae'r elfennau eraill o fewn y broses cyhoeddi yn cael eu cyflawni naill ai gan y cwmni masnachol sydd wedi atgynhyrchu'r adnawdd neu'r ganolfan adnoddau sydd wedi comisiynu'r atygynhyrchu.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Credai nifer o athrawon nad oedd fawr werth i atgynhyrchu arholiadau a oedd eisoes yn bod, yn enwedig pan ymddangosai'r rheiny'n llai a llai perthnasol i anghenion yr ysgol uwchradd newydd.

Gwn fod peth anhawster yn codi oherwydd fod Llyfr y Tri Aderyn yn defnyddio tri math o deip ac na ellir atgynhyrchu'r rheini ar deipiadur.

FODD BYNNAG nad yw'r drwydded hon ddim yn mennu ar berchnogaeth unrhyw hawlfreintiau na hawliau eraill o eiddo trydydd partion yn y Gwaith a chydnebydd a chytuna'r Cynhyrchydd nad yw'r drwydded a roddir yn unol â'r cytundeb hwn ddim yn rhoddi na chynnwys nac yn honni rhoddi na chynnwys unrhyw drwydded na chaniatâd ar ran unrhyw berchennog hawlfraint nac unrhyw berchen hawliau eraill yn y Gwaith i ddefnyddio atgynhyrchu neu gorffori y Gwaith yn y Rhaglen na hawl na thrwydded na chaniatâd i ddosbarthu nac arddangos y Rhaglen.

Os yw'n wir fod nofelau Daniel Owen yn tra rhagori ar waith y mwyafrif mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosodd lliaws o feirniaid erbyn hyn, mae'n rhesymol tybio na fyddai'r nofelydd o'r Wyddgrug yn fodlon ar atgynhyrchu na dulliau llenyddol nac agweddau cyfarwydd ei gyfnod.

B CYHOEDDI - sef atgynhyrchu neu ddyblygu nifer o gopi%au o'r adnawdd, marchnata, gwerthu, dosbarthu, storio, a sicrhau cyflenwad i'r dyfodol.

A barnu bod modd atgynhyrchu copi%au ohono'n gyfleus, anodd credu y buasai offeiriaid cyffredin yr oes ryw lawer yn gallach o'u cael.

Dyna'r rheswm paham y buwyd yn chwilio am ddulliau newydd o atgynhyrchu llyfrau a phaham y cafodd yr argraffwasg y fath groeso gorawenus wedi i ddynion ei darganfod a'i datblygu.

Mae hi'n amhoisbl atgynhyrchu yr un tric mewn cyfrwng a all gymryd diwrnodau neu fisoedd hyd yn oed i gynhyrchu drama.

Y mae'r cyfieithu yn anwastad iawn, ar dro yn gwneud dim ond atgynhyrchu Beibl Genefa, dro arall yn cadw fersiwn y Beibl Mawr heb ei newid nemor ddim; mewn rhai llyfrau yn aralleirio'n llac, mewn llyfrau eraill yn trosi'n dra llythrennol.