Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

athroniaeth

athroniaeth

Anodd i Ewropeaid a fagwyd yn y traddodiad gwleidyddol Rhufeinig ydyw ystyried unrhyw beth heblaw gallu awdurdodaidd yn sylfaen bywyd gwleidyddol, ond egwyddor waelodol athroniaeth Gandhi oedd gwasanaeth.

Dyma, o bosibl, un o agweddau mwyaf cadarnhaol athroniaeth Gadaffi.

Prif nodwedd y diwinydd da yw ei allu i ddatgan bod Duw yn fwy nag unrhyw ddehongliad ohono: prif nodwedd y gwleidydd da yw ei allu i ddangos bod gwleidyddiaeth iach yn fwy nag unrhyw athroniaeth wleidyddol.

Fel Grundtvig yn Denmarc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cysylltodd "AE" athroniaeth elfennol cenedlaetholdeb ag "egni ymarferol".

Un o Bort Talbot oedd ef ac ar ol gweithio yn y diwydiant dur aeth i Goleg Harlech ac yna i Goleg y Brifysgol, Bangor, lle graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Almaeneg a chael gradd ychwanegol ag anrhydedd uchel mewn athroniaeth.

Mae'n anodd gweld y gwahaniaeth rhwng athroniaeth 'Get on your bike' Norman Tebbitt a'r canoli di-bendraw o ddiwydiant a welwyd yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel.

Nid un athroniaeth genedlaethol sydd, ond lleng, a'r cwbl y ceisir ei wneud yn yr ysgrif hon ydyw braslunio rhai ohonynt, ac egluro a beirniadu rhywfaint.

daeth ei ddawn yn y cyfeiriad yma i sylw awdurdodau'r coleg, ac felly, pan aeth y swydd honno yn wag, fe'i penodwyd hefyd yn athro athroniaeth naturiol ", neu ffiseg, fel yr adwaenwn ni y pwnc.

Fel yn 'Y Mynach', y gwrthdaro rhwng cnawd ac ysbryd yw thema'r awdl, ond, yn wahanol i awdl fuddugol 1926, y mae'r cnawd a'r enaid yn un erbyn y diwedd 'Y Sant', gan ddilyn athroniaeth Thomas Aquinas.

Mewn gwirionedd yr oedd yn flwyddyn dda i Goleg Bangor oherwydd dau arall a raddiodd yn y dosbarth cyntaf oedd Gwilym Bowyer a Hywel D.Lewis, ond mai Athroniaeth oedd eu pwnc hwy.

Yn gyntaf, y maen'n ymddangos i Forgan fanteisio hyd yr eithaf ar y cyfle a oedd ar gael yn y Coleg a'r Brifysgol i feistroli Hebraeg wrth draed tiwtoriaid dawnus fel y Ffrancwyr Antoine Chevallier a Philip Bignon a'r Sais John Knewstub (efallai mai'r Ffrancwyr a ddysgodd Ffrangeg iddo'n ogystal); yr oedd hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at yr addysg yr oedd yn ei derbyn neu wedi'i derbyn yn y celfyddydau a'r gwyddorau, athroniaeth, Groeg a diwinyddiaeth.

Nid stori o'r bwthyn i'r palas, efallai, ond fe ddringodd Henry Jones o stol gweithdy crydd i gadair athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow.

I fod yn bersonol, pan euthum i Fangor i'r Coleg am y tro cyntaf, fy awydd mawr oedd astudio athroniaeth ond yn anffodus - erbyn hyn - deuthum ar ben y rhestr mewn Cymraeg yng nghwmni Idris Foster a Jarman a pherswadiwyd fi i 'gymryd' Cymraeg.

Nid creu darlun pert yw celfyddyd ddifrifol, ond yn hytrach math o athroniaeth ymarferol, neu ymgorfforiad o arwyddion sy'n cyfleu rhyw agwedd o'r byd.

Mae'n ddiddorol, er hynny, fod Stalin, hyd yn oed, yng nghanol berw'r Chwyldro Comiwnyddol wedi gorfod rhoi ystyriaeth i athroniaeth cenedlaetholdeb.

Rhoddir cryn bwyslais yn athroniaeth cenedlaetholdeb - fel y'i mynegir, er enghraifft, yn nramâu Saunders Lewis, yr oedd Kitchener yn fawr ei edmygedd ohonynt - ar y ffaith fod angen cymdeithas ar yr unigolyn fel cyfrwng i gyflawni ei natur.

Ond hyd heddiw yr wyf yn ei theimlo'n anfantais na bawn wedi cael cwrs coleg cyflawn mewn athroniaeth oherwydd yr wyf yn ofnus iawn o hyd wrth drafod syniadau athronyddol...

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

Adwaith yn erbyn syniadau Rousseau ac athroniaeth y Chwyldroad Ffrengig yw ffydd boliticaidd Charles Maurras yntau.

Myn Saunders Lewis mai 'i gyfraniad i athroniaeth wleidyddol yw ei gyfraniad pwysicaf.

Ychydig cyn ei farw dechreuodd lunio traethawd ar athroniaeth naturiol - yr hyn a alwn ni heddiw yn ffiseg.

Ynddo ceisiodd egluro sut y ffurfiwyd yr ynys wedi'r Dilyw, a holai beth oedd iaith y trigolion, ai o'r Hebraeg y tarddodd y Gymraeg: disrifiodd gyfraith a chrefydd gynnar yr ynys, athroniaeth a defodau'r Derwyddon, eu tamlau, eu hallorau a'u canolfannau yn y llwyni derw, gan atgynhyrchu'r lluniau o'r henebion derwyddol a gynhwysodd yn ei atebion i Queries Lhwyd.

Gwelodd rhai y 'rhywbeth' hwnnw yn nhermau athroniaeth wleidyddol, ond roedd eraill yn meddwl amdano yn nhermau'r pwysigrwydd i feithrin y meddwl gwyddonol tuag at bopeth - yr ymagwedd a grisialwyd yn y geiriau, 'oni chaf weled .

Yr undod Arabaidd yma oedd y cymhelliad ar gyfer pob gweithred wleidyddol a'r allwedd i ddatblygiad athroniaeth Gadaffi.

Llond dwrn yn unig a welai Gymru yn erbyn cefndir o athroniaeth Gristnogol am ddyn a chymdeithas.

Yn unol ag athroniaeth Tebbit, aiff June - merch Mona a mam ddi-briod - ar gefn ei beic i Birmingham am gyfweliad ar gyfer joban croesawraig gyda'r cynllun Youth Opportunity.

Efallai bod rhyw athroniaeth ddofn ynddi i'r rhai mewn oed, efallai nad oes.

Rhoddwyd croeso calonogol i'r Cynulliad Cenedlaethol wrth i BBC Radio Cymru fynd ar daith am wythnos o Gaergybi i Fae Caerdydd yn Taith y Cynulliad, gan barhau ag athroniaeth y sianel o estyn allan i'w chynulleidfa.

Ynddynt ceir athroniaeth addysg gynradd ac eli i friwiau addysg Lloegr yn ogystal â Chymru.

Heb os, mae rhywun yn cael yr argraff na fyddai rhaglenni o'r fath yn cydorwedd yn esmwyth ag athroniaeth rhaglenni heddiw.

Pan wrthi yn ei weithdy 'roedd ganddo bron bob amser lyfr wrth ei benelin; hoffai ddarllen diwinyddiaeth ac athroniaeth yn fwy na dim arall.

Yno y bu+m innau lawer tro yn cael blas ar sgwrs gyda'r gof a'r saer athronydd hwn, un a allai fod wedi esgyn i gadair athroniaeth mewn rhyw goleg neu gilydd pe bai amgylchiadau wedi caniata/ u hynny pan oedd yn ifanc.

Yn y rheini, gan amlaf, pwysleisir gogoniant y diwylliant a fu, a'i bwysigrwydd yn hanes Ewrob; fe roddir i ni ddarlun o gampau'r Groegiaid mewn celfyddyd, llenyddiaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth, gyda'r canlyniad y gwahoddir ni i'w hedmygu yn hytrach na'u deall.

Yr athroniaeth honno yw "historigiaeth", sef y gred fod hanes yn fyd caeêdig y gellir esbonio popeth ynddo heb edrych y tu allan iddo.

Cynhyrchodd hefyd ddwy gyfres o raglenni byr dyddiol - Beautiful Things, ffyrdd cost-effeithiol o wella eich cartref a Noble Thoughts, cyflwyniad gwreiddiol i athroniaeth y gorllewin gan Roy Noble ar gyfer BBC Un a BBC Dau.

Ac ar ben hynny, mae'r Gymraeg yn llythrennol yn dal i golli tir yn ei chymunedau yn sgîl polisïau tai a phenderfyniadau cynllunio, yn sgîl tlodi Cymru ac yn sgîl chwalfa holl effaith athroniaeth farchnad rydd y Llywodraeth Dorïaidd.

Dyma un o feirdd pwysicaf y dyfodol yn ymddangos ar y llwyfan eisteddfodol, ac yn llunio awdl ragorol a oedd yn drwm o dan ddylanwad athroniaeth Thomas Aquinas.

Nid oes ganddo'r uchelgais i dorri cyt fel meddyliwr neu athronydd, er y gall fod ganddo feddwl chwim ac athroniaeth dreiddgar; a thybiaf finnau nad oedd mewn rhai cyfeiriadau neb llymach ei ddeall yng Nghymru yn ei genhedlaeth na Waldo Williams.

Yn hytrach nag ymlacio i dderbyn yr awdur yn ei holl gymhlethdod, mae hi'n haws gwneud i bob cymeriad gyfateb i athroniaeth arbennig.

Mae Falkus wedi lloffa yn llenyddiaeth y maes mae'n wir, ond mae wedi meddwl a datblygu ei athroniaeth a'i ddulliau ei hun i'r eithaf hefyd.

Byd athroniaeth yw ei byd hi, nid byd profiad.

Serch hynny, y mae tipyn yn ei athroniaeth sy'n apelio at genedlaetholwyr heddiw, megis ei gred fod awdurdod gwleidyddol yn dod oddi wrth y bobl.

Yn ei anerchiad i'r Gymanfa yn y Rlhyl ar y testun 'Peryglon yr Eglwys yn Wyneb Her y Byd', soniodd am y peryglon o gyfeiriad meddyleg, athroniaeth, gwleidyddiaeth ac o gyfeiriad crefydd ei hun, yn arbennig "ysbrydegiaeth a Gwyddoniaeth Gristnogol".

Mewn athroniaeth y graddiodd Iorwerth a daeth J. R. Jones, wrth gwrs, yn amlwg ar ôl hyn fel Athro Athroniaeth Coleg Prifysgol Abertawe.

O ran democratiaeth, mae'r mudiad yn dal i ystyried athroniaeth Jefferson yn ddilys, ac mae'n cytuno'n llwyr â fformwla Lincoln o lywodraeth y bobl, gan y bobl, ar gyfer y bobl'.

Ambell funud teimlwch fel pe bai rhyw wers fawr neu ryw athroniaeth ddofn y tu ôl iddo.

Beth oedd y Llyfr Gwyrdd ac a oedd yna werth yn yr athroniaeth yr oedd yn ei gynnig - fod ffordd ganol, rhwng cyfalafiaeth a chomiwnyddiaeth?

Y mae dadansoddi'r cysylltiadau rhwng ffydd a chymdeithas, diwydiant a diwylliant, yn ddigon cymhleth heb i'r drafodaeth gael ei chloffi gan athroniaeth amheus.

Mewn ffatri ddillad ger Tripoli, dangoswyd i ni sut y mae athroniaeth Gadaffi yn gweithio'n ymarferol.