Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

athrylith

athrylith

Athrylith a oedd yn tarddu o ddiniweidrwydd y plentyn.

Nid oes yma'n awr arlunydd fel William Huws, nac athrylith fel TO Jones.

Doctor Jones a'i athrylith hynod.

Nid yw'r gosodiad yn gwbl eglur, ond y dehongliad a roddir arno'n gyffredin yw nad brenin oedd Arthur ond cadfridog o athrylith yng ngwasanaeth y brenhinoedd.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Y peth sy'n destun balchder i mi yw fy mod yn fore wedi sylweddoli bod athrylith yn eich gwaith a'm bod i wedi dweud hynny nes galw sylw at y peth o'r diwedd gan eraill.

Bun synod i lawer ohonom na chymerodd hyfforddwr o allu Graham Henry y maswr bach hwn dan ei adain o'r cychwyn cyntaf ai feithrin yn y fath fodd y byddai nid yn unig yn ennill gemau i Gymru ond yn goleuo gemau a'i fflachiadau o athrylith naturiol.

Ar ôl dechrau'n addawol, fe'u sgubwyd o'r neilltu gan ddawn ac athrylith y gwyr o Fiji.

Ofnaf nad ysgrifenir hwy byth oni enir rhyw athrylith arbennig iawn.

Deheuwr bywiog, o athrylith wasgarog, Eglwyswr, ac aelod o Goleg Worcester oedd DM Jones; Gogleddwr araf, diwreichion, Ymneilltuwr, ac aelod o Goleg Balliol oeddwn innau.

Gan aros ym maes y "gêm brydferth", y cewri cynnar oedd ar Pêl-droed y Celt (Concordia/S4C) yr wythnos hon gan gychwyn gyda'r athrylith o'r Waun, Billy Meredith.

Fel disgrifiad o falchder ymffrostgar Cymry'r unfed ganrif ar bymtheg yn eu hanes a'u tras, prin y gellir gwella ar eiriau'r Esgob Richard Davies: 'Ni wna vi son am vrddas, parch, ac anrhydedd bydol yr hen Brytaniait: tewi a wnaf am y gwrolaeth, dewrder, buddugolaythay, ac anturiaythae y Cymru gynt, mi a ollynga heibio y amryw gylfyddyday hwynt, synwyr, dysc, doythineb, ar athrylith ragorawl.

Gwaith arbennig yr adeiladydd llongau,Donald McKay, ac athrylith y cynllunydd, John Griffith, a greodd y cliperi cyflym gyda'u llinellau hyfryd a'u mastiau uchel yn llawn hwyliau, llongau megis y Lightning a'r Flying Cloud ac yn y bennod nesaf ceir ychydig o drafodaeth am y cysylltiad Cymreig a'r llongau enwog hyn.

Mewn ugeiniau o ffilmiau, ef yw'r Frankenstein sydd yng ngrym ei athrylith wyddonol a'i bersonoliaeth rydd yn creu anghenfil na all ei reoli.