Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

atmosffer

atmosffer

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Heddiw, mae'n wybyddus nad oes gan Mawrth ond odid atmosffer tenau o garbon deuocsid sydd yn gallu cadw neu ddal gafael mewn cyfran fechan o wres yr haul.

Nid yw'r wybodaeth a gasglwyd wedi ei llawn ddadansoddi eto ond gobeithir deall mwy am gydeffeithiau y moroedd a'r atmosffer, a'r cysylltiad rhwng yr effaith tū gwydr, y newidiadau ym mhatrymau tywydd yn fyd eang (e.e.

Erbyn hyn, gwneir defnydd cynyddol o'r laserau hyn mewn meysydd eraill - er enghraifft i fesur cyddwysiad nwyon arbennig yn yr atmosffer.

Roeddynt yn creu sustemau'r gofod yn y labordy, drwy anweddu llwch carbon gydag arc carbon mewn atmosffer o heliwm.

Credir i'r eira, a fu'n gyfrifol am ffurfio capan mor enfawr, ddisgyn o gymylau o fewn atmosffer llawer gwlypach a thewach ei naws na'r atmosffer presennol a chesglir mai'r ffynhonnell fwyaf tebygol a allai gynhyrchu anwedd-dyfrllyd o'r fath ac i'r un graddau fyddai cefnfor anferth.

Felly roedd rhaid aros i ddyn ddatblygu'r dechnoleg i fynd i'r gofod ac uwchben yr atmosffer cyn y medrid edrych ar rannau eraill o'r sbectrwm.