Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awch

awch

Mae'r hanes a geir yma yn ddiddorol ac, ar y cyfan, yn codi awch ar ddarllenydd i ddysgu mwy am y gwr arbennig hwn.

O'r diddordeb mewn hynafiaethau a'r awch i chwilio am drysor y tarddodd archaeoleg môr.

Nid oes yna yr un stori wan ac fe yrrir y darllenydd ymlaen gan yr awch i ddarllen mwy a mwy.

Soniwyd eisoes am N Cynhafal Jones yn ymuno â bwrdd teilwriaid Angel Jones yn ddyn llawn awch am farddoniaeth a barddoni, fel y soniwyd hefyd am gyfarfodydd cystadleuol Bethesda.

Ffeithiau oedd dymuniad Mr Gradgrind, ymgorfforiad perffaith o awch oes Victoria amdanynt.

I ddynion tebyg iddo ef, yn enwedig pan fyddai dadl economaidd iwtilitaraidd gref drosti, a'r cof am derfysgoedd diweddar yn rhoi min ac awch arni, roedd addysg yn anad dim yn fodd i gael dylanwad ar y dosbarth gweithiol.

Heb edrych ar ei wyneb e, fe dynnes fy nghylleth boced allan, roedd wastad awch fel raser ar honno gen i, a chydag un ergyd mi dorres y rhaff.

Yn naturiol yr oedd mwy o awch i chwarae Croesoswallt ac iddyn nhw y daeth y cyfleon gorau.

Roedd diffyg awch yn chwarae Cymru, doedd dim parhad, lot o arafwch yn y gwaith adeiladu.

Mae rhyw awch iddyn nhw yn y gystadleuaeth yma a dwin meddwl mai nhw wnaiff ennill.

Yn ychwanegol at yr awch cynhenid i estyn eu tiroedd, eu hamcanion oedd meithrin eu teyrngarwch i'r goron a'r sefydliadau perthnasol iddi, a chadw cysylltiad agos â'r beau monde dros y ffin yn Lloegr.