Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awdurdodol

awdurdodol

yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.' Rhaid cymharu'r dull awdurdodol, diymhongar hwn, sydd yn nodweddiadol o Hiraethog wrth iddo drin digwyddiadau sydd heb berthynas â'r rhai canolog, â'r dull anuniongyrchol a ddefnyddia i drin mater y briodas:

Rhowch im eiliad neu ddwy eto.' Troes y fydwraig yn ol i'r llofft flaen, a'm tad yn dal i oedi'n ansicr ar y grisiau; ond cyn hir clywodd ei llais awdurdodol yn ei alw i mewn i'r ystafell.

Ymhlith ei gyhoeddiadau mae cyfrolau ar hanes y teulu Bute a Chaerdydd, hanes y BBC yng Nghymru a hefyd ei lyfr awdurdodol Hanes Cymru, a gyhoeddwyd gan Penguin yn Gymraeg ac yn Saesneg.

"Come here John Jones," meddai'n awdurdodol, a gwelais f'amddiffynnydd yn mynd ato, ac i mewn i'r ysgol, a'r plant eraill i gyd yn swilio.

Nid yw'n mesur a phwyso'n hamddenol pwy oedd y bardd rhamantaidd cyntaf yn Ewrop - dim ond dweud yn awdurdodol mai Pantycelyn ydoedd, fel petai'n gwbl sicr o hynny.

Yuppiaidd awdurdodol, perthyn yn ddiamheuol i Oes Thatcheriaeth.

Mae ymchwilio manwl hefyd yn un o gryfderau'r gyfres awdurdodol, uchel ei pharch, Taro Naw, sef y rhaglen materion cyfoes fwyaf poblogaidd ar S4C.

"Stand, turn, march," ebe'r athro yn ei ddull awdurdodol, ac allan â ni, yn weddol drefnus nes mynd o'i ŵydd, ond wedi hynny yn bur wahanol.

Yna siaredais gyda llais penderfynol ac awdurdodol.

Cychwynnodd redeg ar flaenau'i thraed dros lawr y gegin, ond rhewodd mewn braw pan glywodd floedd awdurdodol o'r tu allan.

Mor gryno yw techneg Hiraethog yn y darn hwn ac mor awdurdodol.

Gall fod yn gwrs awdurdodol a gymeradwyir gan y Llywodraeth, ond os yw'n esgeuluso y tyfiant organaidd hwn - pa dyfiant bynnag arall a geir - yna, mae'n mynd i fod yn flêr ac yn wastraffus.

Mae ymchwilio manwl hefyd yn un o gryfderaur gyfres awdurdodol, uchel ei pharch, Taro Naw, sef y rhaglen materion cyfoes fwyaf poblogaidd ar S4C. Un o'r pynciau trafod oedd athrawon yn cael eu camgyhuddo o gamymddwyn proffesiynol.

Aeth rhaglenni materion cyfoes BBC Cymru o nerth i nerth eleni, gyda newyddiaduraeth awdurdodol a thriniaeth llawn dychymyg o storïau mewn cyfresi fel Taro Naw, Maniffesto, Ewropa a Ffeil, y rhaglen gylchgrawn i blant sy'n denu canmoliaeth uchel ac a ddarlledir dair gwaith yr wythnos.

Gwyddai'r gwrandawyr cyfarwydd i'r dim b'le i dorri ar draws ac i ba raddau.) "Roedd y fenyw yma'n wyllt ac awdurdodol iawn, a'i gwr, oedd yn ddyn tawel, gonest a swil iawn, yn methu â'i thrafod hi.

Pobol y Cwm sydd â'r gynulleidfa uchaf o blith unrhyw raglen Gymraeg ar S4C, gan gyrraedd cynulleidfaoedd ar agreg o dros 200,000 ac mae Newyddion yn rhaglen awdurdodol ag iddi barch mawr.