Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awel

awel

Ar garreg arall, mewn llythrennau cyhyrog, sgwâr, roedd brawddeg syml wedi'i cherfio uwch bedd y bardd Kazys Boruta: `Ewyllys yr awel rydd a chwyrli%o'r goedwig las.' Ymlaen heibio tro yn y llwybr ac roedd cerflun o angel fel petai ar fin codi oddi ar ymyl dibyn.

Roedd yn fore heulog braf er bod yr awel yn ddigon main i beri i Rhys gerdded yn gyflym.

Dyblwyd a threblwyd yr emyn a daeth llanc ifanc ymlaen, un nad oedd erioed o'r blaen wedi gwneud dim yn gyhoeddus, a bwrw ati i ddiolch am farwolaeth y Groes ac i weddi%o'n daer am "awel o Galfaria fryn".

Ar ôl diolch am allu i'w fwyta, clywaf ef yn dweud, "Er i mi dreulio bron i hanner can mlynedd ar y môr fy hoff sŵn yw si awel ysgafn dros barc o geirch aeddfed." Credaf fod gwên radlon yr "hen Grynwr" ar y bocs ceirch yn ysbrydiaeth iddo hefyd.

Er nad yw'r machlud mor ysblennydd a hynny mewn ardaloedd o ddiffeithwch mae'n aml yn gorchuddio'r tir dan glogyn coch wrth i belydrau'r haul ddal y gronynnau o dywod sy'n chwythu yn yr awel.Trwy gydol yr oesoedd bu'r haul a'i ddylanwad enfawr ar fywyd yn destun diddordeb mawr i ddyn.

Mae yn ganol haf yma - dyddiau poeth difrifol - ddoe gydag echdoe bron yn gant, heddiw dipyn bach o awel.

Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.

Ond fe gododd Richard Owen Waun ar ei draed, ac fe ddywedodd, 'Canwch "Gwaed y Groes sy'n codi i fyny%.' Ac fe'i canwyd â rhyw arddeliad rhyfedd, a dyblu a threblu 'Gad i'm deimlo/ Awel o Galfaria fryn'.

Yn awr ac eilwaith codai awel yn ddisymwth a chwythu llwch i'm llygaid, a rhaid oedd sefyll yn y fan a'r lle rhag of n i bwl sydyn o ddallineb fy nhywys dros y dibyn, gan fod y llwybr cul yn rhedeg yn bur agos ato ar brydiau.

Weithiau deuai i'r golwg fel petai awel yn ei chwythu tuag ato, yna ciliai drachefn a gadael yr awyr yn las uwchben.

roedd awel hyfryd yn chwarae ar wyneb y ferch.

Daliai i deimlo'r awel ar ei gwar wrth iddi gydgerdded gyda'r cannoedd eraill at yr eglwys i dincial gorfoleddus y clychau.

A oedd hi yn llong dda yn rhedeg o flaen awel gyda môr trwm?

Rhoes Waldo deyrnged i'w dad yn 'Y Tangnefeddwyr' Mae Gwirionedd gyda 'nhad meddai yn y pennill olaf, ac yn y trydydd, Angel y cartrefi tlawd Rhoes i 'nhad y ddeuberl drud : Cennad dyn yw bod yn frawd, Golud Duw yw'r awel fyd.

Yna, ar yr awel a oedd yn dod o gyfeiriad y chwarel, clywyd corn pedwar yn seinio.

'Dal nhw!' medda fi wrthi a dyma lwyddo i gael gafael ar lawer ohonynt, ond hedfanodd y gweddill i ffwrdd gyda'r awel.

Ac wedyn, tynnu gwynt drwy ei ddannedd a fyddain gwneud i Perfect Storm ymddangos fel awel Mai o gael gwybod y pris go iawn.

Ni fynnai gerdded y bwrdd efo Merêd i fwynhau'r awel dyner a gwylio brig y llong yn corddi adlewyrchiad y lloer yn fyrdd o fflachiadau arian.

Mawrygwn Di am rythmau'r tywydd, am heulwen a glaw, tes a rhew, gwlith ac eira, y gwynt nerthol a'r awel dyner.

Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.

'Mae'r awel dyneraf yn peri i grynu ac mi fydd rhaid inni ddawnsio i'r corwynt yma fel pob corwynt arall.'

Edrychwch arnyn nhw'n chwyrli%o ac yn chwalu o dan yr awel ysgafnaf hyd yn oed.

Ysgubai awel oer dros ei wyneb wrth iddo gamu'n ôl oddi wrth y garreg.

Ac yn wir dyma'r awel yn dod, ac yn rhoi Richard Owen ar lawr ar ei liniau i weddio'n gyhoeddus am y tro cyntaf erioed am wn i, ac yna yr oedd yn ceisio gweddio yn ei ddagrau, ac yn methu dweud dim, ond dyma fo yn medru gweiddi allan: 'O Arglwydd, maddau, maddau, maddau imi.

Codasai awel pur gref o'r gorllewin a'r su tawel fu gynt yn y coed wedi troi yn rhywbeth mwy bygythiol.