Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awen

awen

Steve Eaves fydd yn ymddangos ar y llwyfan, ac mae'r tocynnau ar gael am £4 o Siop Cwpwrdd Cornel, Llangefni ac o Awen Menai, Porthaethwy.

Bid a fo am hynny, mae'r gair Cymraeg 'awen' yn nes o ran ei ystyr i ysbrydoliaeth nag ydyw dychymyg, ac onid wyf yn camgymryd, 'roedd Waldo'n ffyddlon i ryw gynneddf yn ei natur wrth ddewis y gair hwn, ac wrth wneud, 'roedd yn gallu cadw'r hyn a oedd yn werthfawr yn ystyr y gair 'Imagination' i Blake heb gael ei lluddias gan rai o ragdybiaethau'r meddwl diweddar am y dychymyg.

Efallai nad oedd Wilson Knight yn bwriadu i ni gymhwyso ei frawddegau at eiriau unigol ond mae'n demtasiwn cymryd defnydd Waldo o'r gair 'awen', ac, o ran hynny, y gair 'adnabod' fel enghreifftiau o "words inflated by mind", ac arwain hyn ni i ystyried pa fath o feddwl a oedd gan Waldo, gan gynnwys yn y gair 'meddwl' nid yn unig y meddyliol ond hefyd y teimladol yn ei wneuthuriad.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Telyneg yw disgrifiad y lilith o'r fferm sydd ganddo i'w gwerthu, ond lle y buasai bardd yn sôn am fwthyn uncorn, gwyngalchog, y mae'r lilith yn fwy modern ei awen ac yn sôn am garthffosydd a mod.

Dichon, fodd bynnag, fod Gwilym Meudwy ymhlith yr olaf, onid yn wir yr olaf o brydyddion y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu'n crwydro o fan i fan, yn null yr hen faledwyr, yn gwerthu cynnyrch ei awen.

Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Cafodd ambell un ei bigo gan yr awen yn un swydd i sgrifennu'n y llyfr, gan lunio penillion a gyfeiria at ryw ddigwyddiad arbennig yn hanes fy rhieni, neu at yr achlysur pan roddwyd y llyfr o'u blaen - ffordd i guddio'u personoliaeth eu hunain gyda chyfeiriadau bachog at rywun arall.

Yr un awen a'r un ysfa greadigol sy'n cynhyrfu'r ddau, ac yn yr un ysbryd y dylid ceisio eu deall.

Ni allaf beidio a chredu fod y ffordd y mae Waldo'n defnyddio'r gair 'awen' yn arwyddocaol ac yn ystyrlon.

Ond unwaith yr aeth y bwthyn-bach-to-gwellt a'i ben iddo, medrodd dadrithiad dreiddio o'r diwedd, yn swyddogol felly, i aelwyd yr awen Gymreig.

Disgrifiad ydynt o darddle'r 'tân pob awen a gano', hynny ydyw, o ysbrydoliaeth, a'u natur haniaethol bellach yn rhinwedd ac nid yn fai.

Testun ei awen bryd hynny oedd 'Wrth afonydd Babel' Roedd y Ford Gron yn llawn gwybodaeth am arlunwyr, ffasiynau, glweidyddiaeth, llyfrau a materion beunyddiol, y cyfnod.

Beth a ddigwyddodd i awen Peate?

Cyfeiriodd hefyd at y drychiolaethau o brifeirdd (primitive poets) neu'r 'cyntefigion Beirdd Ynys Prydain', nid amgen, Plennydd, Alawn a Gwron, sylfaenwyr dysg y Beirdd (yn ôl Iolo Morganwg), y drindod a fyddai'n symbylu'r Awen yn ymwybod y Beirdd a ddeuai i'r cylch.

Yr un modd y mae yn y Cofiant gofnod manwl o'r modd y blodeuodd awen David Ellis yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr.

Ond yr oedd un prydydd pur nodedig yn canu yn nyffryn Aman yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd yn un o'r ychydig Gymry a fu byw ar gynnyrch ei awen, sef William Owen (Gwilym Meudwy; Gwilym Glan Llwchwr; Professor Owen).

Ond a oes gwrthdaro rhwng y weledigaeth gelfyddydol, yr 'awen', a'r anghenion technegol?

Datgan ei ffydd yn yr awen, y wir broses greadigol y mae Alun Llywelyn- Williams.

Ynddi y mae profiad, awen, cynghanedd a mynegiant yn un.

Ac ar y pererindodau blynyddol hyn y gwerthai'r bardd gynnyrch ei awen, a bu'n cadw argraffwyr y de yn brysur am gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.

Tra bo hi'n bosibl i gael cwmni%aeth ffrindiau llengar yn y wlad mewn ardal bendant, a chymdeithas i sgwrsio am y pethe, a mwynhau gwir ffrwythau'r awen, gyhyd â hynny y bydd rhywrai'n deall y math o fywyd yr oedd Waldo'n gynrychiolydd mor lew ohono.