Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awgrymir

awgrymir

Pa nodau a awgrymir gan eich anghenion datblygu personol a phroffesiynol?

Yn hytrach na synio am Siôn fel un sydd wedi ymadael â'r byd hwn yn derfynol (fel yr awgrymir gan yr ystrydeb 'yr ymadawedig'), mae'r gerdd yn ei ddarlunio fel petai'n dal i fodoli.

Cadarnheir yr agweddau gonest at bortreadu pechod a fynegwyd yn 'Llythyr ynghylch Catholigiaeth' a Williams Pantycelyn, ond yn rhyfedd iawn, nid awgrymir o gwbl fod unrhyw beth gwenwynig yn perthyn i ramantiaeth.

Yn gynnil, gynnil yr awgrymir atyniad y ddau gariad at ei gilydd, fel pan ddywed Sarah Jones; 'Roedd eich aeliau chi fel taran ond ar unwaith dyma chi'n anwesu wyneb y gaseg.

Un o'r termau a awgrymir yw 'blodfresychen'.

Awgrymir y dylid cynllunio cwricwlwm i blant dan bump o feysydd dysgu a phrofiad fel man cychwyn priodol.

Awgrymir fod mwy i 'hagrwch' a thristwch y gwaith na'r hyn oedd yn weladwy i'r llygaid.

Mae'r gweithgareddau a awgrymir yn y pecyn drwyddo draw yn rhoi arweiniad mewn gwahanol feysydd.

Awgrymir mai adlais o'r ddeunawfed ganrif oedd rhefru John Morris-Jones yn erbyn 'Y Sant'.

I'r pwrpas hwn byddir yn crynhoi elfennau o'r ymchwil gwreiddiol, ei berthnasu i'r sefyllfa ddosbarth trwy gyfrwng y tasgau a awgrymir, a'i gyflwyno'n dameidiau man haws eu treulio, gydag awgrymiadau am drafodaethau a thasgau ymchwiliol yn y dosbarth yn dod rhyngddynt.

(Rwy'n ymddiheuro am fod ei deitl yn un trwsgl, ond does i'r gwreiddiol Saesneg, sef 'Custody Officer', fawr o geinder chwaith.) Fel yr awgrymir gan ei deitl, priod waith y Swyddog Cadwraeth yw cadw.

Mewn nifer o lyfrau garddio, awgrymir defnyddio mawn i'w balu i mewn i'r pridd gyda phlanhigion newydd, wrth botio ac ar gyfer amrywiaeth o ddibenion garddwriaethol eraill.

A meddai Dryden, 'Petai wedi byw [Aristotlys] i weld ein dramâu ni buasai wedi newid ei feddwl.' Fel yr awgrymir yn y dyfyniad, adnabyddiaeth mor eang ag sy'n bosibl o amrywiol ffurfiau o amrywiol gyfnodau gan amrywiol lenorion o amrywiol ieithoedd sy'n gwneud barn sy'n werth dibynnu arni.

Ar sail datblygiadau arwyddocaol ac addysgu blaengar ym maes dysgu Cymraeg fel ail iaith yn ystod y deng mlynedd diwethaf awgrymir y canlynol:

A thro ar ôl tro awgrymir bod rhyw arbenigrwydd rhyfeddol yn perthyn i deulu Lleifior, rhyw foneddigeiddrwydd, yn ystyr ehangaf y gair, sy'n amheuthun ac yn deillio o'u tras fel gwyr bonheddig cyfoethog ym Mhowys.

Pa nodau a awgrymir gan flaenoriaethau datblygu'r ysgol?

I gychwyn mae Harri'n pwyntio bys at wendidau ei dadleuon, ond yn fuan iawn, ac yn gymharol ddibaratoad, mae Harri'n eu llyncu - nid oherwydd cadernid y dadleuon a gyflwynir, fe awgrymir, yn gymaint ag oherwydd cyfaredd dwy lygad dywyll Gwylan!

Awgrymir yma ymchwil ddosbarth ar raddfa fechan trwy dreialu agweddau ar y broses ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth cyn dod yn ol fel adran i arfarnu ac addasu'r hyn a dreialwyd.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD A AWGRYMIR AR YR AMGYLCHEDD: yn ystod y cylch tair blynedd nesaf, bydd yr Uned yn cyfrannu at gysylltu â'r sector anstatudol i'w hysbysu ynglŷn â'r posibiliadau o ran gwella'r amgylchedd drwy adennill tir diffaith, yn gwneud mwy o waith adennill tir at ddiben gwella'r amgylchedd ac yn llunio adroddiad blynyddol, yn amlinellu'r nod, yr amcanion a'r hyn a gyflawnwyd o ran yr amgylchedd, ac yn cynnwys dadansoddiad o'r gwariant.

Yn ôl rhai beirniaid cyfoes awgrymir perthynas annaturiol, losgachol, rhwng brawd a chwaer y Wernddu yn y sgwrs rhyngddynt a gan sylwadau'r traethydd.

DANGOSYDDION PERFFORMIAD AR YR AMGYLCHEDD A AWGRYMIR: Cymryd rhan yn llawn yn Fforwm Amgylchedd Gwynedd a mabwysiadu a gweithredu côd yr Adran ar ymarfer da yn yr amgylchedd.

Yn wir awgrymir mai'r adeg orau i hau hadau lawnt yw o ddiwedd Awst i ddechrau Medi.

\Cyfeirir yn Efengyl Ioan a awydd llawer o'r bobl yng Ngalilea am ei wneud yn frenin, ac awgrymir mai dyna'r rheswm pam y mynnai ymneilltuo i le anghyfannedd, cilio i'r mynydd (vi.

Awgrymir fod anffitrwydd yn broblem mwy cyffredin yn y pentrefi a chefn gwlad nag yn y trefi.

Gweler yr adran Trafod (olaf) yr uned YSGRIFENNU III lle'r awgrymir fod aelodau'r adran bellach mewn sefyllfa i fabwysiadu rhai o'r elfennau a dreialwyd yn rhan o'u polisi adrannol.

Awgrymir bod y silia hyn yn gweithredu fel dyfais rhag llithro neu groeswasgu, rhywbeth yn debyg i deiar a stydiau dur ynddo ar fodur.