Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awgrymog

awgrymog

'Dydy o ddim wedi priodi eto," a chwarddodd Elis Robaitsh hen chwerthiniad awgrymog.

Adroddir un hanesyn awgrymog amdano gan Mr T Ceiriog Williams.

A buan y gwelais fod cynhyrchion y Thinker is Library yn fwy awgrymog na holl ddyfroedd Israel.

Edrychodd yn awgrymog ar gynffon Martha Arabela - mor awgrymog nes i ninnau bob un ddechrau edrych arni hefyd.

Mae'r Ansoddair yn awgrymog hefyd.

Rhythai arnaf gan ychwanegu'n awgrymog: 'A 'dydw i ddim yn licio'r ffordd y bydd hi'n codi'i choesau ar y fainc yn y festri.

'Mi fydda innau'n edrych ymlaen,' meddai'n ddistaw awgrymog.

O'r diwedd, wedi'r filfed smôc, fe gododd Jock ei ysgwyddau'n awgrymog, a rhoi pen ar y mater trwy ddweud yn ei Saesneg nodweddiadol,

Gair awgrymog yw "lladd amser", fel petai'n rhywbeth i gael ei wared.

Does dim i'w wneud ond eu blasu; er y gellid, efallai, atgyfnerthu eu heffaith arnom trwy ddarllen gwaith meistr cyffelyb ar iaith a dychymyg, megis yr hen fardd hebreig hwnnw gynt a barodd i Dduw ateb Job o'r corwynt: 'Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau, a holl feibion Duw yn gorfoleddu?' Ar y llaw arall ni chawn anhawster i amgyffred arwyddocâd y gwrthgyferbyniad awgrymog rhwng 'ymryson' yn nechrau'r pennill a 'murmur' ar ei ddiwedd.

Ac ar ol iddi eu cyfarch yn ei ffordd glen arferol, ymlaen a hi gan adael distawrwydd unwaith eto a chrechwenau awgrymog.

Yn yr ail act mwynheais berfformiadau Alun Elidir (Jo) a Judith Humphreys (Mari) yn arw, yn enwedig yn y rhan lle roedd Jo am adael ond yn aros i gynorthwyo Mari i lapio cynfas, gyda'r ddau yn dod yn nes at ei gilydd gyda phob plygiad a'u hymddygiad yn mynd yn fwy awgrymog drwy'r amser.