Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

awgrymwyd

awgrymwyd

Felly, am bron ugain mlynedd yr oedd y gyfradd ymhell o dan y nod a awgrymwyd gan Beveridge, a hefyd yn is na dim a freuddwydiodd Keynes amdano.

Is-drysorydd - awgrymwyd enw Nerys Williams (Cangen Penrhosgarnedd) ac Alwen Jones (Cangen Llandwrog).

Awgrymwyd i mi yn ddiweddar gan amryw o garedigion y LLENOR mai da fuasai cael nodiadau bob chwarter gan y Golygydd ar bynciau'r dydd yng Nghymru ac yn gyffredinol.

Yn wir, pan awgrymwyd bod y fasnach yn rhy beryglus ac y dylid ei hatal, dywedodd Thomas Grey, ysgrifennydd cynorthwyol i'r Bwrdd Masnach, "Credaf nad 'peryglus' yw'r gair cywir.

Gan fod Waunfawr, pentref genedigol Gwynn Davies, eisoes wedi bod yn gefn mawr i'r Gymdeithas, awgrymwyd y byddai'r pentref yn le addas ar gyfer menter a fyddai'n rhoi cyfle i bobol â nam meddyliol i ddatblygu fel unigolion ac a fyddai, hefyd, o fudd i'r pentref.

Awgrymwyd enwau Delyth Owen (Y Groeslon), Rhiannon Ellis (Caernarfon) a Luned Jones (Bethesda) i gynorthwyo Mrs Bebb Jones.

Ond, fel yr awgrymwyd, 'roedd carfan o'r mudiad a oedd yn barod i ddilyn Newman yn hyn, ac yn tueddu i fynd ymhellach nag ef, hyd yn oed, gan haeru fod gan Eglwys Loegr gymaint i'w ddysgu oddi wrth Rufain ag oedd gan Rufain oddi wrth yr Anglicaniaid.

Yr oedd un neu ddau o gynghorwyr lleol pur brofiadol yn bresennol, a gofynnodd un ohonynt am ganiatâd i gyflwyno'r cynllun i'w gyngor ef, yn gynllun a awgrymwyd iddo gan arbenigwr, ond heb enwi'r Blaid; yr oedd e'n ffyddiog y byddai ei gyngor yn ei dderbyn ac y byddai'r aelodau'n barod i'w gymeradwyo i gynghorau eraill.

Awgrymwyd annog swyddogion Cangen Rhostryfan i ddod i'r Noson Swyddogion er mwyn cael gwybodaeth gan arbenigwyr a allai fod o gymorth iddynt.

Awgrymwyd eisoes fod Waldo'n mawrbrisio'r hyn a oedd Dychymyg neu 'Imagination' i Blake, ond rhyngom ni a Blake y mae Freud a'i ddamcaniaeth am yr isymwybod, a bellach fe briodolir i'r isymwybod lawer o'r gweithgareddau a briodolid gynt i'r dychymyg.

awgrymwyd a ffwrdd a ni i grwydro rhwng y silffoedd a mwynhau sgwrs, coffi a myffin.

fel yr awgrymwyd yn y cymro yr wythnos diwethaf roedd y rwmaniaid yn llawer gwell yn dechnegol na chwaraewyr cymru.

Pan awgrymwyd wrth Gadaffi unwaith fod dylanwad Marx yn amlwg yn 'Y Llyfr Gwyrdd', ei ymateb oedd: 'Rhaid, felly, bod Marx wedi cael ei ddylanwadu gan Islam.'

Fel yr awgrymwyd eisoes cynnil yw y defnydd a wneir o liw.

Awgrymwyd iddynt y dylid codi wyneb yr ardd (yng nghornel y maes parcio gyferbyn â'r groesfan tren) ac i'w ddefnyddio fel lle parcio cerbydau ar gyfer yr orsaf.

Fel yr awgrymwyd eisoes fe fyddai ei gwrs diwinyddol yng Nghaergrawnt wedi gwneud Morgan yn bur hyddysg yn hanes y cyfieithu ysgrythurol a amlinellwyd uchod, ac fe roddai'r ddysg hon iddo safon i allu cloriannu'n ystyrlon yr hyn oedd eisoes wedi ei gyflawni mewn perthynas â chael yr Ysgrythurau yn Gymraeg.

Fel yr awgrymwyd uchod, y mae'n bosibl fod y firws FID, neu HIV, yn endemig yng Nghanolbarth yr Affrig ers blynyddoedd, ond heb ymddangos fel petai'n peri afiechyd difrifol yn y boblogaeth gysefin.

'Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion y BBC ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol.