Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

baban

baban

Trefn yw'r peth pwysicaf a feistrola baban, yn anymwybodol mae'n wir a thros gyfnod o amser.

Dywed Dr Geraint Wyn Jones yn ei Iyfr pwysig Agweddau ar Ddysgu Iaith fod tebygrwydd rhwng baban yn dysgu mamiaith a'r proses o ddysgu ail iaith.

Bu rhaid i awdur Pedeir Keinc y Mabinogi weithio allan ei iachawdwriaeth ei hun pan geisiodd ef egluro fod darganfod baban yng Ngwent-is-coed a'i fagu yno yn digwydd tra oedd Rhiannon yn dioddef ei phenyd yn Arberth, a gorfu arno geisio ffordd i ddwyn y ddau hanesyn yn un.

Yn ôl un hen gred golchwyd y baban Iesu am y tro cyntaf wrth dân o bren onnen.

Pan ddaw'r amser i fedyddio'r baban, a'r cwmni'n nesau at y ffynnon, fe neidia'r plentyn o freichiau'r wraig sy'n ei gario, fe gyrraedd y dŵr mewn tair naid ac ymdrocha ynddo ar ei ben ei hun.

Hyd heddiw, nid oes bosib i rieni gofrestru baban yn uniaith Gymraeg.

Er enghraifft, pe bai gwraig feichiog yn neidio drosti credid y gallai'r llinyn bogel dagu'r baban.

Buasai un baban benywaidd yn farwanedig; ac fel y crybwyllwyd ni lwyddasai fy mrawd bach i fyw ond am ddiwrnod neu ddau.

Ar lawr un, agorodd mam ddagreuol flanced a orchuddiai gorff ei baban dri mis oed a fu farw rai oriau ynghynt am nad oedd llaeth ar gael iddo.

Yn y bore daeth Siôn Corn yr ysbyty heibio i bawb, ac i'r rhai a gollodd eu baban yr oedd ganddo hances boced, ychydig o siocled a gair o gydymdeimlad a chysur.

Pob bendith ar y baban newydd.

Y peth canolog a wna baban yw adeiladu'r frawddeg hon (neu amrywiad arni), a dysgu amrywio o fewn ei rhannau.

Yn llaw baban.

Ymhlith rhaglenni diweddar ei adran ar gyfer S4C roedd Pacio, Sion a Siân, Talk About Welsh a Gwyl y Baban.

Ac yn un o'r teithiau hyn, hyd y paith, fe dorrodd y Dodge i lawr a bu bron i Homer oedd ond baban rewi oherwydd yr eira oedd ar y llawr a'r gwynt oer yn chwythu.

Deuai'r Doethion o un o wledydd y Dwyrain fel estroniaid i dalu gwrogaeth i'r Baban, gan ddwyn anrhegion proffwydol a brenhinol iddo.

Chwaraewyd rhan bwysig gan bobl Cwm Tryweryn eu hunain a ddaeth i Lerpwl, pob enaid byw ond un baban bach, i orymdeithio mewn gwrthdystiad trwy ganol y ddinas.

'Dyw'r feistrolaeth honno ddim cystal yn y baban, y ffaeledig a'r henoed ag yw yn y canol oed, gan nad yw'r ymateb mor gyflym.

Mab y teulu oedd tad y baban, ac fe dalwyd cryn swm o arian iddi am gadw'r gyfrinach a magu'r baban ei hunan.

I gael glo i'r tanau yn eu cartrefi - ac ni ellid coginio heb y rheina - yr oedd yn rhaid cloddio yn y tipiau glo a amharai ar harddwch y cwm, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid cludo sacheidiau adref - ar ysgwyddau'r cloddwyr neu ar ryw gerbyd olwynion, gwagen fach neu goets baban.

Wedi rhannu'r da-da a dweud hanes y baban Moses neu Joseph a'r siaced fraith (ac ychwanegu troeon i'r stori nas dychmygwyd erioed gan yr hen Rabbiniaid) codi ei choesau tew ar y fainc o'i blaen a dweud: 'Rŵan 'te, Dime am gosi'r goes chwith.

Y fam a'r baban wrth sgil y dyn tywyll ar gefn mul, ac ar ol cael twymo, cael ei danfon ymlaen i stordy oedd ddim yn bell.