Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

babanod

babanod

Yr hyn ddigwyddodd felly oedd i un mudiad sefydlu patrwm o fwydo babanod dan flwydd oed am ddeg o'r gloch ac eto am ddau o'r gloch bob dydd, tra bod mudiad gwahanol ym mhen arall y ddinas yn agor ei ddrysau i fwydo mamau, a neb ond mamau, am hanner dydd.

Fe fyddai ambell i wraig yn ymddangos yn sydyn yn y ganolfan fwydo i famau heb ei phlant a honni eu bod wedi marw dros nos, er bod y babanod wedi bod yn derbyn bwyd ers rhai wythnosau.

Roedd pawb yn y dre yn gwybod fel roedd hen brifathrawes ysgol y babanod yn rhodio strydoedd gweigion y dre bob nos.

Ddydd Gwener diwetha', fe aeth tri o ohebwyr Golwg i mewn i dri ysbyty mewn gwahanol rannau o Gymru a cheisio cyrraedd wardiau'r babanod.

I gymharu â siroedd Penfro ac Aberteifi, ym Morgannwg roedd llawer o'r plant yn llai na phum mlwydd oed, a'r plant dros ddeg yn llawer prinnach, am fod cyfle ganddynt i fynd i weithio yn y gweithfeydd, a dyna a wnaeth i Lingen gefnogi nid yn unig ddeddfwriaeth yn erbyn gadael i blant bach weithio, ond hefyd i roi pwys ar ganolbwyntio ymdrechion i gael ysgolion babanod yn yr ardaloedd diwydiannol.

Y polisi yw fod bydwragedd yn cario babanod i'r car wrth iddyn nhw adael.

ch) cywiro sefyllfa ble caniateir o fewn y sector gyhoeddus i weithredu yn uniaith Saesneg ond nid yn uniaith Gymraeg, er enghraifft wrth gofrestru babanod, lle gellir gwneud yn uniaith Saesneg neu yn ddwyieithog ond nid yn uniaith Gymraeg.

Y Prawf - Fe lwyddodd newyddiadurwraig i gerdded i mewn i'r ysbyty heb i neb holi dim iddi; troi i'r dde ac yn syth i mewn i ward Llifon ac at y gwelyau a'r babanod.

Rhaid datblygu partneriaeth rhwng ysgolion babanod a iau a'r ysgol feithrin gan bod y broses datblygol wedi hen gychwyn yn y plentyn tair a phedair oed.

Y diwrnod cyn achub y babi bach Abbie Humphries, fe brofodd gohebwyr Golwg ei bod yn hawdd mynd i mewn i wardiau babanod yn rhai o ysbytai Cymru a bod rheolwyr iechyd wedi'u dal rhwng diogelwch a chynnig gwasanaeth.

yr oedd un cysur ganddynt y cawn chwarae teg gan fod athrawes y babanod yn Gymraes o Sir Feirionnydd.

Ar yr un pryd, drwy ddarlledu lluniau o sachau bwyd a oedd yn amlwg wedi'u dwyn ac ar werth ar stondinau'r farchnad a thrwy adrodd straeon am famau'n `aberthu' eu babanod, doeddwn i ddim yn bwriadu darbwyllo'r Cymry i beidio â rhoi.

Ond y mae'n deg amau'r gosodiad hwn, oherwydd y gwir plaen yw bod llawer o Saeson sy'n cychwyn yn ein hysgolion yn adran y babanod yn dila eu Cymraeg yn un ar ddeg oed.

Anghofia' i fyth ychwaith y wefr yn un o wersylloedd mwyaf anghysbell y Cwrdiaid o weld milwyr ifainc yn rhoi eu gynnau ar eu cefnau ac yn cario'r hen, y musgrell, y claf, gwragedd beichiog a babanod i hofrenyddion i'w cludo adref.

Ar yr un pryd, mae ysbytai ar hyd a lled Cymru'n gwario degau o filoedd o bunnoedd ar drefniadau diogelwch, o dagiau i'w clymu am goesau'r babanod i gamerâu a drysau diogelwch.

Mentrodd Ysgol y Babanod roi Cyngerdd yn Neuadd y Dref.

Ond er syndod a siom i'm rhieni bu raid imi fynd i ddosbarth isaf yr ysgol, dosbarth y babanod.

Gwthiai'r mamau ifanc y babanod o gwmpas mewn cadeiriau a phramiau.

Roedd babanod yn crio a phlant yn sgrechian a gyrrwyr yn swnio hwteri eu ceir a'r bobl yn y farchnad yn gweiddi ar y prynwyr i ddangos beth oedd ganddyn nhw ar werth.

Wedi gadael dosbarth y babanod y cam nesaf oedd ymuno â'r dosbarthiadau yn y 'wing' cyn symud i'r festri fawr.